Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dydd Gwener Yw Hi Heddiw, Ond...

Annog y myfyrwyr i ystyried y gobaith hanfodol sy’n ganolog i stori’r Pasg

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i ystyried y gobaith hanfodol sy’n ganolog i stori’r Pasg.

Paratoad a Deunyddiau

Fe fydd arnoch chi angen copi o un neu fwy o bapurau newydd y dydd.

Gwasanaeth

  1. (Agorwch un o’r papurau newydd, a dweud:) Welwch mewn difrif! Rhagor o newyddion drwg.

    (Darllenwch ddau neu dri o’r penawdau, neu rhowch grynodeb o un stori.) Dywedwch y gallai darllen y pethau hyn eich gwneud yn isel iawn eich ysbryd.

    (Cyfeiriwch at un neu ddwy o eitemau newyddion eraill, a dweud rhywbeth fel:) Mae’r byd yn mynd yn rhemp! Mae popeth o’n cwmpas fel pe byddai’n dirywio, ac allan o reolaeth. Mae’n amser drwg iawn.

  2. Mae’n tynnu at adeg y Pasg, gwyl ganolog y flwyddyn i Gristnogion. Dydd Gwener y Groglith yw’r dydd y bydd Cristnogion yn cofio am Iesu’n cael ei groeshoelio. Yn eironig iawn caiff y dydd hwn ei alw’n ‘Good Friday’ yn Saesneg. Beth sy’n dda amdano meddech chi? Mae’n swnio’n fwy fel y diwrnod gwaethaf un.

    Meddyliwch am hyn o safbwynt y rhai hynny oedd wedi treulio hyd at dair blynedd yng nghwmni’r dyn rhyfeddol yma. Mewn cyfnod o tua 24 awr, roedd y dyn wedi dioddef rhagfarn grefyddol a threfniadaeth llys llwgr, wedi dioddef artaith, wedi’i gywilyddio’n gyhoeddus, ac wedi dioddef marwolaeth araf a phoenus trwy gael ei groeshoelio. Nawr, ar y nos Wener, roedd yn farw. Roedd y freuddwyd drosodd, yn ôl pob golwg.

    Nawr, dyna beth fyddech chi’n ei alw’n newyddion drwg.

  3. Sut byddwch chi’n ymdopi â newyddion drwg? Fyddwch chi’n cael eich llethu gan yr anobaith, yn ddigalon oherwydd y cymylau stormus, heb allu gobeithio am y dyfodol? Felly y bydd llawer o bobl yn ymateb.

  4. Mae Tony Campolo, y pregethwr Americanaidd, yn sôn am sut y byddai hen ffrind iddo, pregethwr Americanaidd du ei groen, yn trafod stori’r Pasg. Fe fyddai’r ffrind yn disgrifio digwyddiadau erchyll y dydd Gwener y Groglith cyntaf hwnnw, ac fe fyddai’n gorffen sôn am bob digwyddiad gyda’r frawddeg, ‘It’s Friday now …but Sunday’s a’comin’.

    Roedd yn sôn am yr holl bethau drwg a ddigwyddodd - Iesu’n cael ei guro, ei goroni â choron ddrain, a’i hoelio ar y pren wedyn, ac yna’n marw ...: ‘They beat him and whipped him’, ‘They put a crown of thorns on his head’, ‘They nailed him to a cross’, ‘He cried out and died’. Ond bob tro, ar ôl pwysleisio pob un o’r digwyddiadau hyn, fe fyddai’r pregethwr yn atgoffa’i gynulleidfa bod y Sul yn dod - ‘Sunday’s a’coming’.

    Ond, pam atgoffa’i gynulleidfa bod y Sul yn dod? Am mai Sul y Pasg oedd y Sul hwnnw, sef gwir galon stori’r Pasg. Rhagarweiniad yw’r holl newyddion drwg i’r digwyddiad mwyaf un - yr atgyfodiad, y newyddion da bod Duw wedi codi Iesu o farw’n fyw, fel arwydd bod grym drygioni yn ein byd wedi’i drechu.

  5. Roedd yr hen bregethwr Americanaidd yn siarad fel pe byddai’n bosib i’r neges hon wneud gwahaniaeth i’r ffordd rydyn ni’n byw nawr, ac mae hynny’n wir.

    Mae’n debyg eich bod yn gyfarwydd â dywediadau fel, ‘Every cloud has a silver lining’, a ‘there is a light at the end of the tunnel’. Mae ymyl arian i bob cwmwl, a golau ym mhen draw’r twnnel, ac mae’r ddau ddywediad yn ein hannog i fod ag agwedd obeithiol tuag at fywyd, yn enwedig pan fydd pethau drwg yn dod i’n rhan, fel sy’n digwydd yn aml yn y byd rydyn ni’n byw ynddo.

    Mae stori’r Pasg yn mynd â hyn gam ymhellach, ac yn ein hannog i weld byd lle y mae Duw, yn y pen draw, yn rheoli - byd lle na fydd pobl ddrwg a drygioni byth yn trechu. Mae’n rhoi rhywbeth i ni ddal ato pan fydd pethau’n anodd, pan fyddwn ni’n darganfod ein hunain mewn twnnel tywyll a’r cymylau’n crynhoi. Mae’r neges yn neges o obaith.

    Mae gobaith yn dweud wrthym na chawn ein gorlethu.

    Mae gobaith yn dweud wrthym fod golau yn y pen draw bob amser, hyd yn oed pan fydd y twnnel yn ymddangos yn ddiddiwedd.

    Mae gobaith yn ein hatgoffa bod y Sul bob amser yn dod.

Amser i feddwl

Treuliwch foment yn ystyried y meddyliau canlynol. Efallai yr hoffech chi eu defnyddio fel gweddi.

–  Byddwch yn ddiolchgar am Dduw sydd wedi dangos i ni ei allu yn ein byd trwy atgyfodiad Iesu ar adeg y Pasg.

–  Byddwch yn edifar am adael i newyddion drwg ddylanwadu arnoch yn hawdd wrth i chi ffurfio barn am y byd.

–  Gwnewch gynllun i weithredu ar ryw agwedd sy’n deillio o’r gwasanaeth heddiw. Efallai y gallech chi godi calon rhywun sy’n isel ei ysbryd. Efallai y gallech chi, yn syml, ddod â gwên i wyneb rhywun wrth i chi wenu arnyn nhw. Efallai y gallech chi fod o ddifrif, a dal ati yn wyneb unrhyw anawsterau a ddaw i’ch rhan heddiw.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Beautiful Day’ gan U2

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon