Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cymod

Ystyried gweinidogaeth o faddeuant a chymod.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Ystyried gweinidogaeth o faddeuant a chymod.

Paratoad a Deunyddiau

  • Montage o gyrchoedd awyr oddi ar y wefan: www.bbc.co.uk/programmes/p05b8bfq
  • Tair hoelen fawr.
  • Gwefan Eglwys Gadeiriol Coventry Cathedral, a delweddau o’r daith rithwir.
  • Rhannau o gerddoriaeth y War Requiem gan Benjamin Britten (dewisol).

Gwasanaeth

  1. Chwaraewch y montage o gyrch awyr fel y bydd y myfyrwyr yn dod i mewn i'r gwasanaeth.

    Eglurwch fod hwn yn swn ac yn olygfa gyfarwydd ym Mhrydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cafodd dinasoedd mawr fel Llundain, Lerpwl a Choventry eu targedu a'u peledu â bomiau noson ar ôl noson gan Luftwaffe'r Almaen (llu awyr yr Almaen).

  2. Pan fyddai pobl yn dod allan o ddiogelwch y llochesau cyrchoedd awyr, byddai hynny i olygfa o ddinistr llwyr.  

    Dyma ddigwyddodd ar noswaith y 14 o Dachwedd 1940, pan gafodd Coventry ei pheledu â bomiau gan adael y ddinas a'i heglwys gadeiriol yn fflamau.

  3. Roedd eglwysi yn bwysig i bobl yn yr amseroedd anodd hyn a gwnaed y penderfyniad y bore canlynol, ar ôl y trychineb, i ail-adeiladu Eglwys Gadeiriol Coventry.  Nid gweithred herfeiddiol o ymladd yn ôl oedd hon, ond yn hytrach arwydd o ffydd, ymddiriedaeth a gobaith ar gyfer dyfodol y byd.

    Gwnaeth Profost Eglwys Gadeiriol Coventry, Dick Howard, ymrwymiad cenedlaethol i beidio â dial, ond i faddau a chymodi.  Yn siarad o ganol adfeilion yr eglwys gadeiriol ar y Dydd Nadolig canlynol fe addawodd, pan fyddai'r rhyfel drosodd, y byddai'n gweithio gyda'r rhai a fu'n elynion i adeiladu byd cyfeillgar, mwy fel y Crist-blentyn’.

  4. Yn fuan wedi'r dinistr yn Eglwys Gadeiriol Coventry fe sylwodd un saer maen bod dau o drawstiau'r to canoloesol wedi syrthio i'r llawr ar ffurf croes.  Codwyd y prennau hyn yn yr adfeilion yn arwydd o obaith a ffydd. Yn ddiweddarach, fe'i rhoddwyd ar allor wedi ei adeiladu o'r rwbel. Gerllaw iddyn nhw gosodwyd yr arysgrif gyda'r geiriau priodol, 'Father, forgive.'

    (Gallwch weld y groes neilltuol hon i'r chwith o ardal y Cysegr ar daith rithwir o Eglwys Gadeiriol Coventry.)

    Cafodd offeiriad lleol hyd i dair hoelen yn dyddio o'r oesoedd canol yn gorwedd ymhlith y malurion a gwnaeth groes arall ohonyn nhw.

    (Defnyddiwch dair hoelen i wneud siâp croes yn debyg i'r un sydd i'w gweld ar wefan Eglwys Gadeiriol Coventry.)

    Fe gymerodd yr addolwyr yn Eglwys Gadeiriol Coventry bod y ddwy groes yma yn arwydd bod Duw yn eu galw i fynd â neges o faddeuant a chymod ledled y byd. 

  5. Cafodd yr eglwys gadeiriol a adeiladwyd o'r newydd ei chysegru ar 30 Mai 1962. Roedd y cyfansoddwr Benjamin Britten wedi ei gomisiynu i gyfansoddi  offeren dros y meirw. (Gwasanaeth eglwysig yw'r offeren dros y meirw i weddïo am orffwys dros eneidiau'r meirw.)

    Seiliodd Britten ei 'War Requiem'  ar naw o gerddi a ysgrifennwyd gan Wilfred Owen, milwr o gyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf, a laddwyd yn 1918. Mae'r cerddi yn portreadu anobaith dyn ym mlaen y gad.  Cafodd Wilfred Owen ei ladd bythefnos cyn diwedd y rhyfel.

    Mae’r byd yn parhau i fod yng nghrafangau rhyfel, ac mae'r 'War Requiem' yn berthnasol hyd yn oed heddiw.

  6. Ar ddiwedd y rhyfel, fe ddaeth y tair hoelen a ffurfiwyd yn groes gan yr offeiriad, yn symbol o'r hyn sydd bellach yn weinidogaeth fyd-eang o gymod - Cymuned y Groes o Hoelion – The Community of the Cross of Nails. Heddiw, mae The Community of the Cross of Nails yn rhwydwaith ryngwladol o dros 150 o fudiadau mewn 60 o wledydd.

    Mae cymod yn golygu adfer perthynas dda rhwng pobl, neu ddod yn gyfeillion unwaith yn rhagor. Mae'r Beibl yn ein hannog i gymodi ein hunain yn gyntaf â Duw trwy ffydd, ac yna gyda'n gilydd.

    Mae'r tair hoelen yn atgoffa pobl ymhob man bod Crist wedi marw ar groes drosom fel y gallwn ni dderbyn maddeuant.  Fe ddylen ni felly faddau i eraill sy'n achosi niwed i ni, neu sy'n pechu yn ein herbyn.

  7. Mewn sawl gwlad lle bu rhyfel, boed hynny yn y Congo, Rwanda, neu rai o'r gwledydd fu'n rhan o'r hyn a elwir yn 'Arab Spring', cododd cenedl yn erbyn ei phobl ei hun, ac mae ffrindiau a chymdogion wedi codi yn erbyn ffrindiau a chymdogion.

    Pan fydd heddwch yn cael ei adfer, mae yna bob amser angen mawr am faddeuant a chymod, sy'n cymryd amser ac ymrwymiad. Mae The Community of the Cross of Nails wedi datblygu fel cyfrwng sy'n cynnig gobaith ar gyfer y math hwn o waith. 

  8. Ar ddydd Sadwrn, 13 Tachwedd 2012, ar noswyl seithdegfed pen-blwydd y cyrch awyr i fomio Coventry, bydd Eglwys Gadeiriol Coventry unwaith eto'n llwyfannu'r 'War Requiem.' I lawer o bobl bydd yr offeren arbennig hon ar gyfer y rhai a gollodd eu bywydau yn y rhyfeloedd y Falklands, yn Irac, yn Afghanistan. Mae'r 'War Requiem' yn fyfyrdod ar drueni rhyfel i'r ddynoliaeth gyfan. Mae ei neges yr un mor berthnasol heddiw ag yr oedd 50 mlynedd yn ôl pan gafodd yr Eglwys Gadeiriol ei hail-adeiladu.

    Gweithgareddau pellach dewisol

    Wrth i'r disgyblion ymadael â'r gwasanaeth, chwaraewch ddetholiad o'r 'War Requiem' gan Benjamin Britten.

    Gellir annog y disgyblion i ddarllen rhai o gerddi rhyfel Wilfred Owen.

Amser i feddwl

Sut mae’n bosibl i ni drechu rhyfel, boed hynny ar lefel genedlaethol neu ryng-genedlaethol, neu oddi mewn i furiau'n cartrefi?

Pan oedd Iesu'n marw ar y groes, fe ddywedodd, 'Dad, maddau iddynt oherwydd ni wyddant beth y maent yn ei wneud.'

Mae maddeuant a chymod yn dechrau gyda ni ac yn y berthynas sydd gennym ag eraill.

Sut y gallwn ni weithio i 'adeiladu byd cyfeillgar, mwy fel y Crist-blentyn’?

Gweddi

Hollalluog Dduw goleuni, heddwch a chyfiawnder,

gweddïwn dros wledydd a phobl sydd yn rhyfela heddiw.

Gweddïwn dros y rhai hynny sy'n gweithio dros faddeuant a chymod

dros rai sydd wedi dod wyneb yn wyneb â gofid, tristwch a cholled o ganlyniad i ryfel.

Boed i'w gwaith ddod â gobaith a heddwch, a rhyddid oddi wrth ddicter a chwerwder.

Cerddoriaeth

Gwrandewch ar gerddoriaeth fyfyriol, fel y War Requiem gan Benjamin Britten, neu ‘Nimrod’ gan Elgar.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon