Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Blasu A Gweld

Ystyried sut y byddwn ni’n synhwyro presenoldeb Duw.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3/4
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Ystyried sut y byddwn ni’n synhwyro presenoldeb Duw.

Paratoad a Deunyddiau

  • Potiau bach o fwyd babi, llwyau, mygydau.
  • Gwirfoddolwyr i flasu’r bwyd.
  • Yr adnod o’r Beibl yw, ‘Profwch a gwelwch mai da yw’r Arglwydd’ Salm 34.8.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch am rai gwirfoddolwyr, sy’n barod i flasu bwydydd, i ddod ymlaen atoch chi. Rhowch fwgwd am eu llygaid cyn dod â’r bwydydd babi i’r golwg.
    Wrth i’r gwirfoddolwyr flasu’r bwyd, gofynnwch iddyn nhw beth maen nhw’n ei fwyta. Beth maen nhw’n gallu ei flasu? Ydyn nhw’n hoffi beth maen nhw’n ei flasu? 

  2. Dywedwch: Mae’n debyg bod pawb eisiau gwybod pam fy mod wedi dewis rhoi mwgwd ar lygaid y gwirfoddolwyr a gofyn iddyn nhw flasu’r bwydydd. Mae hyn am fy mod eisiau meddwl beth yw ystyr y frawddeg yn y Beibl sy’n dweud, ‘Profwch a gwelwch mai da yw’r Arglwydd.’

    Mae’r geiriau hyn yn dod o un o’r Salmau, yn yr Hen Destament. Caneuon yw’r Salmau sy’n cyfarch Duw, neu’n cyfarch pobl eraill ac yn sôn am Dduw. Yn aml, maen nhw’n ganeuon o foliant ac ymddiriedaeth. Yn y geiriau hyn o Salm 34 rydym yn cael ein hannog i ddefnyddio ein synhwyrau wrth feddwl am Dduw. 

  3. Mae sawl athronydd wedi mynnu nad yw’n bosibl cael profiadau o Dduw trwy ddulliau empirig, hynny yw, nad yw’n bosib i ni gael profiad o Dduw  trwy ein pum synnwyr: trwy flasu, cyffwrdd, gweld, clywed ac arogli. Er hynny, pe bydden ni’n edrych ar y byd o’n cwmpas, y byd hwn y mae Duw wedi ei greu ar ein cyfer ni, rydyn ni’n gweld ei bod hi’n bosibl yn wir i ni gael at Dduw mewn modd empirig.

    Mae’n debygol ein bod yn cael profiad o Dduw trwy ein synhwyrau heb i ni hyd yn oed sylweddoli hynny. Er enghraifft, fe allwn ni flasu’r bwydydd danteithiol, y diodydd, y ffrwythau a’r llysiau y mae Duw wedi eu rhoi i ni eu mwynhau.

    Meddyliwch am y plant yn ystod cyfnod yr Ail Ryfel Byd doedd ddim erioed wedi blasu banana. Tybed beth oedd eu hymateb pan gawson nhw fanana i’w fwyta am y tro cyntaf?

    Meddyliwch am eich hoff fwyd, ac yna meddyliwch am y ffaith fod y bwyd neilltuol hwnnw wedi cael ei dyfu a’i greu er eich mwyn chi.

  4. Mae ein synnwyr cyffwrdd yn rhoi gwybod i ni a yw pethau’n dda neu’n ddefnyddiol i ni ai peidio, neu a ydyn nhw’n beryglus. Mae’r cyffyrddiad yn gallu rhoi gwybod i ni a yw rhywbeth yn boeth neu’n oer, er enghraifft, neu a ydyn nhw’n galed neu’n feddal. Os byddwch chi’n cyffwrdd rhywbeth sy’n boeth, fe wyddoch y dylech chi dynnu eich llaw oddi yno.

  5. Mae ein synnwyr o weld yn dangos i ni harddwch diwrnod braf, neu enfys ar gefndir o gymylau llwyd, hudoliaeth darlun wedi’i baentio, a mawredd cadwyn o fynyddoedd. 

  6. Mae ein clyw yn ein galluogi i wrando ar gerddoriaeth, cerddoriaeth gan y cyfansoddwr Mozart neu gerddoriaeth eich hoff fand. Fe allwch chi werthfawrogi’r doniau y mae unigolion wedi eu cael gan Dduw trwy wrando arnyn nhw pan fyddan nhw’n canu gyda’u lleisiau neu’n canu offerynnau cerdd. 

  7. Mae ein synnwyr o arogli yn rhoi cyfle i ni werthfawrogi persawr rhosod, arogl lemon neu oren, ac arogl glaswellt newydd ei dorri.

Amser i feddwl

Gadewch i ni feddwl am yr hyn rydyn ni newydd ei glywed. Meddyliwch am rywbeth yn y byd y mae Duw wedi ei greu, rhywbeth yr ydych chi’n neilltuol o hoff o’i weld, neu ei gyffwrdd, ei flasu, ei arogli neu ei glywed.

(Saib)

Trwy brofi’r byd o’ch cwmpas gyda’ch pum synnwyr, fe allwch chi ‘flasu a gweld’ bod Duw’n dda, a bod y greadigaeth yn dda.

Profwch y byd gymaint ag y gallwch chi. Cofleidiwch y byd gyda’ch pum synnwyr.

Gweddi

‘Profwch a gwelwch mai da yw’r Arglwydd.
Gwyn ei fyd y sawl sy’n llochesu ynddo.
Ofnwch yr Arglwydd, ei saint ef,
oherwydd nid oes eisiau ar y rhai a’i hofna.’

                                        (Salm 34.8, 9)

Arglwydd Dduw,

helpa ni i flasu ac i weld bywyd

a’r byd gyda’i holl olygfeydd, ei wahanol synau, pob math o wahanol flas, gwahanol arogleuon a gwahanol weadau i’w teimlo.

Diolch i ti fod y byd rydyn ni’n byw ynddo yn lle mor rhyfeddol.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon