Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Fe Alli Di Wneud Hyn!

Gwasanaeth wedi ei seilio ar y Gemau Olympaidd, er mwyn annog y myfyrwyr i sylweddoli sut y gwnaeth chwaraeon newid bywyd athletwr a oedd yn anabl.

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3/4

Nodau / Amcanion

Gwasanaeth wedi ei seilio ar y Gemau Olympaidd, er mwyn annog y myfyrwyr i sylweddoli sut y gwnaeth chwaraeon newid bywyd athletwr a oedd yn anabl.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Eleni, mae Llundain yn lletya Gemau Olympaidd 2012 yn ystod misoedd Gorffennaf ac Awst. Bydd nifer fawr o wahanol gystadlaethau’n digwydd ac athletwyr o bob cwr o’r byd yn cystadlu am yr anrhydedd o gynrychioli eu gwlad yn y gobaith y byddan nhw’n cyrraedd y nod ac yn ennill medal Olympaidd.

    Fe fydd y rhan fwyaf o’r athletwyr hyn, ar ryw bwynt, wedi cael eu nodi fel rhai sydd â dawn arbennig. Fe fyddan nhw wedi dilyn rhaglen helaeth o hyfforddiant ac ymarfer, ac wedi gweithio’n galed iawn i gyrraedd y safon y byddan nhw’n cystadlu ynddi. 

  2. Mae’r Gemau Olympaidd ymlaen rhwng 27 Gorffennaf a 12 Awst. Ac yn fuan wedyn, rhwng 29 Awst a 9 Medi, cynhelir y Gemau Paralympaidd, pryd y bydd dros fil o athletwyr, sydd â rhyw fath o anabledd corfforol, yn cystadlu. Mae’r rhan fwyaf o’r cystadleuwyr hyn wedi gorchfygu anawsterau enfawr (corfforol a meddyliol) cyn gallu cystadlu yn y Gemau Paralympaidd.

  3. Dim ond cyfran fach iawn o’r athletwyr anabl sy’n ddigon da i gystadlu mewn cystadlaethau rhyngwladol. Mae’r clip fideo hwn yn dangos gwaith dim ond un elusen o’r nifer o elusennau sy’n gweithio gyda’r prif athletwyr anabl hyn yn ogystal â gyda phobl anabl eraill sydd eisiau gallu dim ond mwynhau gweithgareddau chwaraeon (gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’).

  4. Mae’r elusennau hyn yn gweithio’n ddyfal er mwyn gofalu bod gweithgareddau chwaraeon ar gael i bawb eu mwynhau. Ond beth os nad ydych chi’n gallu symud o gwbl heb help, ac yn ddibynnol ar bobl eraill am bron bob peth yn eich bywyd? Yn sicr, mae’n rhaid ei bod yn amhosibl i rai sydd ag anabledd mor ddifrifol â hynny gymryd rhan mewn chwaraeon?

    Yn y flwyddyn 1962, cafodd bachgen o’r enw Rick Hoyt ei eni. Fe ddaeth hi’n amlwg yn fuan, oherwydd anawsterau adeg ei enedigaeth, na fyddai Rick byth yn gallu symud na siarad. Roedd rhai meddygon yn dweud na fyddai gallu gwneud dim ond ‘bodoli’. Sut bynnag, fe sylwodd ei rieni bod Rick yn eu dilyn gyda’i lygaid wrth iddyn nhw symud o gwmpas yr ystafell. Fe roddodd hyn obaith iddyn nhw. Fe wnaethon nhw ddechrau gweld bod Rick yn eu deall, ac yn deall y rhan fwyaf o bethau. Pan oedd yn 11 oed, trefnwyd iddo gael cyfrifiadur a oedd yn rhoi cyfle iddo gyfathrebu â phobl. Ac fe gadarnhaodd hynny’r ffaith bod Rick yn fachgen deallus.

    Yn 1977, pan oedd yn 15 oed, gofynnodd Rick i’w dad ei wthio yn ei gadair olwyn mewn ras bum milltir er mwyn codi arian i chwaraewr lacrós a oedd wedi cael ei barlysu. Doedd tad Rick ddim yn ffit iawn i fynd i redeg, felly fe addawodd gerdded y cwrs mor gyflym ag y gallai! Fe ddaethon nhw’n ail o’r olaf. 

    Ar ddiwedd y ras, fe allodd Rick ddweud wrth ei dad, ‘Dad, pan fydda i’n rhedeg, rydw i’n teimlo fel pe bawn i ddim dan anfantais.’ Ar y pwynt hwnnw, fe benderfynodd ei dad nad oedd hi’n iawn i’w fab gael ei amddifadu o’r cyfle i gymryd rhan mewn rasys a digwyddiadau chwaraeon. Gyda’i gilydd fe wnaethon nhw ddechrau ymarfer, ac erbyn hyn maen nhw wedi cymryd rhan mewn mil o rasys a mwy, yn cynnwys sawl marathon a gornestau triathlon. Ac maen nhw’n dal i gystadlu er bod tad Rick yn 72 oed eleni.

  5. Mae Rick a’i deulu’n ysbrydoliaeth enfawr i bob un. Maen nhw’n dangos i ni sut y mae’n bosib i bawb fwynhau chwaraeon. Nid rhywbeth sy’n ymwneud yn unig ag ennill a bod y gorau yw chwaraeon. Mae’n ymwneud â mwynhau, ac â iechyd a chymryd rhan. 

  6. Mae gan Rick a’i deulu ffydd gref yn Nuw. Mae’r clip fideo yma’n dangos rhai tameidiau bach o fywyd Rick’ gyda thrac cefndirol sy’n sôn am ei ffydd (gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’).

Amser i feddwl

Ydyn ni weithiau’n cael pethau’n anodd? Fyddwn ni’n rhoi’r gorau iddi’n hawdd, neu a fyddwn ni’n dal ati?

Meddyliwch am ddewrder Rick Hoyt a’i deulu. Gadewch i hynny fod yn ysbrydoliaeth i ni i gyd ddal ati, waeth beth fydd yr anawsterau sy’n ein hwynebu.

Ym mha ffordd rydyn ni’n ystyried chwaraeon? Fydd ysbryd cystadleuol yn difetha ein mwynhad, a hyd yn oed yn ein hatal rhag cymryd rhan?

Wrth i’r Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd agosáu, gadewch i ni ddefnyddio’r esiampl hon, hanes Rick a’i dad, i’n hysgogi ni i fwynhau chwaraeon - hyd yn oed os na fyddwn ni byth yn ennill!

Gweddi

Annwyl Dduw,

diolch i ti am chwaraeon

ac am y mwynhad y mae chwaraeon yn ei roi i gymaint ohonom ni.

Helpa ni i werthfawrogi’r hwyl, y cyfeillgarwch a’r pleser a gawn mewn chwaraeon, gwerthoedd sydd y tu hwnt i werth ennill.

Helpa ni i fod yn deg, yn frwdfrydig, ac yn aelodau da mewn tîm.

Diolch i ti am y bobl hynny sy’n ein hysbrydoli.

Helpa ni hefyd i fod yn bobl sy’n ysbrydoli eraill i wneud yn dda a chyflawni eu potensial yn llawn.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon