Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dewrder Yn Yr Awyr

Amelia Earhart (a ddiflannodd 2 Gorffennaf 1937)

gan Tim and Vicky Scott

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Dathlu bywyd ac ysbryd arloesol Amelia Earhart, y ferch gyntaf i hedfan ar ben ei hun mewn awyren ar draws Môr Iwerydd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Llwythwch i lawr luniau o arloeswyr y byd hedfan - y brodyr Orville a Wilbur Wright (Wilbur oedd yr un a hedfanodd gyntaf ar hediad pwer parhaus rheoledig, yn 1903); Charles Lindbergh (y person cyntaf i hedfan ar ben ei hun mewn awyren ar draws Môr Iwerydd, Efrog Newydd i Baris, 1927); ac Amelia Earhart (y ferch gyntaf i hedfan ar ben ei hun mewn awyren ar draws Môr Iwerydd, 1932).
  • Fe fydd arnoch chi angen glôb neu fap i ddangos hediad terfynol Amelia Earhart, ac i ddangos pa mor enfawr yw pellter y gylchfordaith gyhydeddol ac ehangder helaeth yr Iwerydd lle, yn drasig, y diflannodd Amelia Earhart.
  • Er mwyn cael gwybodaeth am Amelia Earhart, edrychwch ar y wefan: en.wikipedia.org/wiki/Amelia_Earhart
  • Er mwyn cael rhestr o arloeswyr y byd hedfan, edrychwch ar:  en.wikipedia.org/wiki/List_of_aviation_pioneers
  • Daw’r dyfyniad gan Hilary Clinton (sydd i’w weld yn adran 7) o’r Washington Times, 20 Mawrth 2012 (gallwch chwilio’r we am ‘Amelia Earhart, Clinton and Ballard’ a dilyn y trywydd).

Gwasanaeth

  1. Tafluniwch luniau o Orville a Wilbur Wright, Charles Lindbergh ac Amelia Earhart a gofynnwch a yw'r myfyrwyr yn gwybod beth sydd gan y bobl hyn yn gyffredin. (Roedden nhw i gyd yn arloeswyr ac roedden nhw i gyd yn beilotiaid awyrennau.) Dywedwch air am yr hyn y gwnaethon nhw'i gyflawni (gwelwch yr adran 'Paratoad a deunyddiau'). 

    Pa rinweddau sydd eu hangen ar rywun i fod yn arloeswr? (Mae angen dewrder, penderfyniad, dyfalbarhad, ffydd, grym ewyllys cryf, hyder, chwilfrydedd, ac ysbryd anturus.) 

  2. Amelia Earhart oedd y ddynes gyntaf i hedfan yn unigol ar draws yr Iwerydd.  Saith deg a phump o flynyddoedd yn ôl, ar 2 Gorffennaf 1937, fe ddiflannodd hi a'i chyd-beilot mewn digwyddiad sy’n parhau’n ddirgelwch, rywle uwch ben y Cefnfor Tawel, tra roedden nhw'n ceisio hedfan o amgylch y byd.

    Fe lwyddodd Amelia Earhart i gyflawni nifer dda o lwyddiannau am ei ehediadau arloesol yn ystod blynyddoedd cynnar ehediadau pwer. Cyhoeddodd lyfrau, yn disgrifio'i phrofiadau, ac roedd yn awdur llwyddiannus iawn.

  3. Cafodd Amelia ei geni ar 24 Gorffennaf 1897 yn Kansas, UDA. Roedd hi a'i chwaer iau, Grace, yn ferched anturus iawn, yn archwilio'u hardal leol, yn dringo coed, yn hela ac yn sledio. Roedd y syniad o hedfan yn rhywbeth yr oedd Amelia wedi rhyfeddu ato ers pan oedd yn ifanc iawn, ond roedd hi'n 10 oed pan welodd hi awyren am y tro cyntaf.

    Ar y rheilffyrdd yr oedd tad Amelia’n gweithio. Fe aeth yn gaeth i alcohol, ac roedd priodas ei rhieni yn aml dan bwysau.  Yn y pen draw, pan oedd hi yn ei hugeiniau, fe gafodd ei rhieni ysgariad. Trwy gydol y trafferthion ym mlynyddoedd ei phlentyndod, roedd Amelia’n breuddwydio am gael gyrfa lwyddiannus rywdro yn y dyfodol.  Cafodd ei hysbrydoli gan doriadau o bapurau newydd yn disgrifio merched yn gwneud yn dda mewn gyrfaoedd oedd yn bennaf yn gysylltiedig â dynion, fel peirianneg, y gyfraith, rheolaeth, a chyfarwyddo a chynhyrchu ffilmiau.

    Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, bu'n gweithio fel nyrs, ac roedd yn nyrsio yn ystod y pandemig ffliw byd eang a ddilynodd y rhyfel. Cafodd niwmonia, a dioddefodd o sinusitis drwg iawn (llid yn y pibellau anadlu yn y trwyn, a oedd yn achosi, ynghyd â rhai pethau eraill, boen a phwysau o amgylch y ddwy lygad a chur pen sydyn). Fe fyddai'r sinusitis cronig yn parhau i effeithio arni yn ddiweddarach yn ei bywyd ac yn ei rhwystro rhag hedfan a gwneud rhai gweithgareddau eraill.

  4. Felly, sut y daeth Amelia Earhart i fod yn 'un o beilotiaid benywaidd gorau’r Unol Daleithiau' yn ôl papur newydd y Boston Globe?

    Yn 1920, pan oedd hi'n 23 mlwydd oed, cafodd ei bywyd ei newid am byth pan ymwelodd â maes awyr gyda'i thad a chael hedfan gyda Frank Hawks, rasiwr awyr. O'r foment honno roedd hi'n gwybod y byddai'n rhaid iddi gael hedfan. Fe ddechreuodd gynilo arian i dalu am wersi hedfan, a gafodd yn y diwedd yn 1921, gan ddweud wrth ei hyfforddwr, 'Rwyf eisiau hedfan.  Wnewch chi fy nysgu i?’

    Fe ddangosodd ymrwymiad enfawr er mwyn dysgu hedfan, trwy brynu awyren ail-law yn 1922. Yn 1923, fe ddaeth yr unfed ferch ar bymtheg yn unig i ennill trwydded beilot.

    Wrth i'w horiau o hedfan unigol gynyddu, fe gynyddodd ei harbenigrwydd hefyd, er gwaethaf rhai camgymeriadau difrifol a methiannau agos. Er mwyn parhau i hedfan, bu raid iddi ymgymryd â nifer o swyddi gwahanol, yn gweithio fel athrawes, gweithiwr cymdeithasol, cynrychiolydd gwerthiant ac awdures.

    Fe dyfodd ei statws o enwogrwydd yn dilyn ei ehediad cyntaf ar draws y cefnfor (fel teithiwr benywaidd), a ddigwyddodd yn 1928. Fe barhaodd yr ehediad, o Newfoundland i Gymru, am oddeutu 21 awr. Pan ddychwelodd i'r UDA, cafodd ei gwahodd i gyfarfod â'r Arlywydd. Fe ddaeth ei henw yn enwog iawn yn dilyn cyfres o deithiau'n darlithio a marchnata cynnyrch yn ymwneud â hedfan.

    Yn hyn oll, fe hyrwyddodd achos merched ym myd hedfan yn ogystal â theithiau hedfan masnachol.

  5. Mae recordiau byd-eang Amelia Earhart a'i llwyddiannau eraill yn cynnwys:

    –  yr ehediad i'r uchder mwyaf gan beilot benywaidd: 14,000 troedfedd (1922)
    –  y ferch gyntaf i hedfan yn unigol ac yn ddi-stop ar draws yr Iwerydd (1932)
    –  y ferch gyntaf i dderbyn y 'Distinguished Flying Cross' (1932)
    –  y ferch gyntaf i hedfan yn ddi-stop, o arfordir i arfordir ar draws yr UDA (1933). 

  6. Yn 1936, fe ddechreuodd Amelia wneud paratoadau ar gyfer ehediad o amgylch y byd, gan ddilyn y llwybr cyhydeddol. Yn 1937, fe hedfanodd hi a'i mordwywr Fred Noonan 22,000 milltir, a chychwyn o Miami ar 1 Mehefin a chyrraedd Lae, Guinea Newydd, yn Ne Ddwyrain Asia, ar 29 Mehefin. Byddai'r  7,000 milltir oedd yn weddill dros y Cefnfor Tawel enfawr.

    Fe wnaethon nhw gychwyn ar 2 Gorffennaf, o Lae i gyfeiriad Ynys Howland, 2,556 milltir i ffwrdd. Yn y fan honno roedden nhw wedi cynllunio ymlaen llaw i roi tanwydd yn yr awyren ar gyfer y cymal olaf o'r daith yn ôl i'r UDA, ond wnaethon nhw ddim cyrraedd pen y daith.

    Bu llawer o ddamcaniaethu am yr hyn allai fod wedi peri iddyn nhw ddiflannu, ond er bod nifer fawr o chwiliadau wedi bod yn yr ardal dan sylw, ni chafwyd hyd o gwbl i olion eu hawyren, a'r dybiaeth yw eu bod wedi disgyn yn ddirybudd i'r cefnfor. Byddai ceisio cael hyd i'r olion fel ceisio 'cael hyd i nodwydd mewn tas wair,' meddai fforwyr.

    Mae'r dirgelwch sydd ynghlwm wrth y diflaniad wedi bod o ddiddordeb i bobl am ddegawdau. Awgrymodd damcaniaethwyr cynllwyn bod Amelia Earhart yn ysbïwr ac wedi ei dal gan y Siapaneaid cyn dechrau'r Ail Ryfel Byd.

    Yr haf hwn, mae grwp o haneswyr a gwyddonwyr, dan arweiniad Robert Ballard, a ddarganfu olion y Titanic, yn lansio archwiliad o'r newydd i geisio cael hyd i olion awyren Amelia Earhart yn y dyfroedd dyfnion oddi ar Ynys Gardner. Mae hyn yn dilyn astudiaeth o lun, wedi cael ei chwyddo, a dynnwyd yn wreiddiol ddim ond tri mis ar ôl i'r awyren ddiflannu. Credir bod y llun newydd hwn, ar ôl cael ei chwyddo, yn cynnig cliw posib am leoliad olion yr awyren.

  7. Yn ddiweddar, canmolodd Hilary Clinton, Ysgrifennydd Gwladol yr UDA, Amelia Earhart trwy ei chanmol fel dynes a wnaeth gamp enfawr: 'when it was really hard, she decided she was going to break all kinds of limits – social limits, gravity limits, distance limits’. Fe ddywedodd Hilary Clinton am y gwaddol a adawyd gan Amelia, ei fod yn: ‘resonates today for anyone, boys and girls, who dream of the stars . . . we need to keep our eyes on the stars and to keep our minds set on what we are able to do that keeps pushing the boundaries of human experience’.

Amser i feddwl

Mae Amelia Earhart yn ymgorffori'r ysbryd sy'n perthyn i wir arloeswr – dewrder.

Fe wnaeth hi rywbeth yn ei chyfnod oedd yn ymddangos yn eithaf amhosibl.

Fe oresgynnodd broblemau di-ri i gyrraedd at ei huchelgais mewn bywyd.

Beth yw eich uchelgais chi? Beth tybed sydd yn eich atal rhag ymgyrraedd ato?

Pa gamau fedrwch chi ddechrau eu cymryd, heddiw, i gyrraedd at y lle hwnnw yr hoffech chi fod ynddo?

Gweddi

Annwyl Arglwydd,

diolch i ti am arloeswyr dewr fel Amelia Earhart

a wthiodd ffiniau profiad dynol

ac a ysbrydolodd gymaint o bobl.

Yn ei thaith trwy fywyd a'i anturiaethau hedfan,

fe oddefodd hi a goresgyn llawer o drafferthion a chaledi.

Helpa ni i fod yn bobl ddewr y ffydd yn ein taith gyda thi oddi yma i dragwyddoldeb.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon