Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

'Rhaid I Chi Fod A Ffydd'

Thomas yr Apostol

gan Paul Hess

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Dangos bod ffydd yn rhan hanfodol o fywyd ac yn gydnaws â rhesymoledd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe allech chi chwarae cân George Michael, ‘Faith’, wrth i’r myfyrwyr ddod i mewn i’r gwasanaeth.
  • Daw’r darlleniad o Efengyl Ioan 20.24–29 (gwelwch yr adran ‘Amser i feddwl’).

Gwasanaeth

  1. Yn eich amau ... ddim yn eich credu ... angen tystiolaeth: geiriau sydd o bosib yn disgrifio ymateb eich athro neu eich athrawes wrth i chi geisio egluro pan dydych chi ddim wedi gwneud eich gwaith cartref. Neu, fe allen nhw fod yn eiriau sy’n disgrifio agwedd pobl resymol y byd sydd ohoni tuag at y pethau sy’n digwydd o’u cwmpas. Y dyddiau hyn, dydyn ni ddim yn mynd i gredu pethau os nad oes gennym ni dystiolaeth, a’n bod yn gallu gweld pethau. 

    Er gwaethaf anogaeth George Michael yn ei gân, ‘You gotta have faith, faith, faith’ (cân dda!), ychydig iawn o ffydd sydd i’w weld o’n cwmpas, rywsut. 

    Un o’r geiriau ffansïol rheini rydyn ni’n eu clywed yn ein hoes ni yw ‘ôl-foderniaeth’ – gair sy’n gallu golygu sawl peth, ond i raddau helaeth sy’n cyfeirio at ddrwgdybiaeth radicalaidd yr oes sydd ohoni. Rydyn ni’n byw mewn cyfnod lle mae pobl yn drwgdybio Syniadau Mawr – yn ddrwgdybus o grefydd, yn ddrwgdybus o awdurdod, yn ddrwgdybus o iaith hyd yn oed. 

  2. Er hynny, er gwaethaf yr awyrgylch hwn o ddrwgdybiaeth, mae ffydd ac ymddiriedaeth yn rhagofynion ar gyfer bywyd. Heddiw, yma yn yr ysgol, fe fyddwch chi â ffydd nad yw nenfwd eich dosbarth yn mynd i ddisgyn am eich pennau, ffydd bod eich athro neu eich athrawes yn addysgu’r pethau iawn i chi ar gyfer eich maes llafur, a ffydd bod yr hyn mae eich ffrind gorau yn ei ddweud wrthych chi amser egwyl yn wir. 

    Heb y dybiaeth sylfaenol hon o ffydd fe fyddai bywyd yn anodd iawn, ac fe fydden ni i gyd yn llithro i baranoia parhaol. 

  3. Mae’r Athro Richard Dawkins a’i ddilynwyr, sy’n hyrwyddo anffyddiaeth filwriaethus, yn ymddangos fe pe bydden nhw’n ddall i’r eironi bod ganddyn nhw’r un lefel o sicrwydd â’r credinwyr crefyddol y maen nhw’n eu beirniadu. Sut y gallan nhw - oni bai eu bod yn hollwybodol - fod mor sicr nad yw Duw yn bod? Sut y gallan nhw fod mor sicr ei bod hi’n bosib dirnad holl ryfeddodau’r bydysawd trwy ein cyneddfau rhesymol? 

    Nid dweud bod ffydd yn beth anrhesymol yw hyn. Yn hytrach, mae ffydd yn ymwneud â bod â’r gostyngeiddrwydd i gydnabod y gall rhai pethau fod y tu hwnt i’r ddealltwriaeth resymol. Mae ffydd yn ymwneud â bod â meddwl agored, a bod yn agored i’r gwir sy’n gorwedd y tu hwnt i bob un ohonom ni.

  4. Yn fwy na hynny, rydyn ni angen ffydd er mwyn bod â gobaith am ein byd. Fydd rheswm ar ben ei hun ddim yn gallu datrys y problemau sy’n dod i ran dynoliaeth; fydd rheswm ddim yn gallu darparu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Ystyriwch y gweledyddion mawr, rhai fu yn y gorffennol a rhai’r presennol – pobl fel Gandhi, Martin Luther King, Jnr a Desmond Tutu – roedden nhw, ac maen nhw’n bobl o ffydd. 

  5. Dydi hyn i gyd ddim yn golygu ei fod yn beth drwg neu bechadurus i amau. Nid sicrwydd yw ffydd. Mae amheuaeth yn rhan o ffydd; yn wir mae angen i ni fynd trwy amheuaeth i sefydlu ffydd gadarnach, ffydd sy’n bersonol i ni ac yn ystyrlon.

Amser i feddwl

Mae dydd gwyl yr apostol Thomas ar 3 Gorffennaf. Yn fwy nag unrhyw un arall o’r disgyblion, mae Thomas yn ymgorffori’r amheuaeth a’r rhesymoliaeth fodern - mae’n gwrthod credu yn yr atgyfodiad, oni bai ei fod yn cael gweld y dystiolaeth - fel y gwelwn ni yn y stori fydd yn cael ei darllen i chi yma, nawr. Er hynny, gan fod Thomas wedi gallu mynegi ei amheuaeth yn onest fe lwyddodd i ddarganfod ffydd o ddifrif, a dyna sut y gallodd ddatgan y geiriau enwog hynny o’r hanes yn Efengyl Ioan, ‘Fy Arglwydd a’m Duw!’

(Darllenwch Ioan 20.24–29)

Gweddi

Arglwydd Dduw,

mae cymaint yn digwydd yn ein byd sy’n peri i ni amau, a gwneud i ni fod yn sinigaidd a drwgdybus.

Rho i ni’r rhodd o ffydd,

fel y gallwn ni fyw bywyd sydd wedi ei lenwi â synnwyr o lawenydd, gobaith a rhyfeddod.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon