Newid Bywydau Pobl Gyda Thail Eliffant
gan Guy Donegan-Cross
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 3/4
Nodau / Amcanion
Adrodd stori hynod am y trawsnewid sydd wedi digwydd ym mywydau cannoedd o bobl anabl yn Neema Crafts, Tanzania.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe allech chi adrodd y stori fel y mae hi yma, neu ddefnyddio’r sleidiau, sydd wedi’u hamseru, ac sydd i’w cael ar y wefan ganlynol: www.authorstream.com/Presentation/guydc2-1408739-transformation-neema-crafts-iringa/ Neu, fe allech chi yrru’r sleidiau ymlaen eich hunan. Fe fydd angen i chi fynd trwyddyn nhw o flaen llaw.
- Am ragor o wybodaeth, ewch i’r wefan: www.neemacrafts.com/
Gwasanaeth
Sleid 1 (20 eiliad) Mewn rhai rhannau o’r byd, fydd pobl sydd ag anableddau ddim yn cael unrhyw fath o help gan y wlad. Fe fyddan nhw’n cael eu cuddio gan eu teuluoedd, ac y cael eu hystyried gan gymdeithas fel rhai wedi cael eu melltithio. Dyma stori am sut y daeth ychydig o ddychymyg, a llawer o dosturi, â gobaith i’r rhai hynny oedd heb fawr o obaith cyn hynny.
Sleid 2 (10 eiliad) Yn y flwyddyn 2003, fe symudodd dau i fyw i Iringa, tref yng nghanol Tanzania. Eu henwau oedd Andy a Susie Hart.
Sleid 3 (15 eiliad) Ar y pryd, yn ôl amcangyfrif, roedd rhwng 10 a 15 y cant o’r boblogaeth yn yr ardal yn anabl mewn rhyw ffordd. Roedd Andy wedi mynd yno i fod yn filfeddyg, ac roedd Susie, a oedd yn artist tecstiliau, yn aros i weld pa fath o waith y gallai hi ei wneud yno.
Sleid 4 (15 eiliad) Ar ôl rhai wythnosau, cafodd Susie syniad. Sylwodd ar dail eliffant yn y parc saffari lleol. Mae eliffantod yn bwyta gweiriau a dail ac yn eu malu’n effeithiol yn eu system dreulio bwyd.
Sleid 5 (10 eiliad) Cyfunodd Susie rai cemegolion â’r tail eliffant, a sychu’r gymysgedd i wneud . . . papur. Ac o’r papur hwn fe wnaethon nhw ddechrau gwneud cardiau cyfarch i’w gwerthu.
Sleidiau 6 i 10 (35 eiliad) Aeth Susie at ei hesgob lleol i holi a oedd adeilad yno lle gallen nhw sefydlu man gwaith i dri dyn ifanc byddar. Cafodd grant o £400 gan elusen Brydeinig. Yna fe wnaethon nhw ddechrau cynhyrchu mwy o gardiau ac eitemau eraill ac fe dyfodd y busnes yn gyflym. Mewn 2 flynedd, roedd 70 o bobl yn gweithio yno, yn gwneud gleinwaith, yn gwehyddu ac yn gweini mewn caffi. Ar ôl 4 blynedd, roedden nhw’n gwneud paneli solar yno, a chanhwyllau a gleiniau o wydr wedi’i ailgylchu.
Sleid 11 (15 eiliad) Fe ddaeth y ganolfan, a oedd yn cael ei galw ar y dechrau’n ‘Neema Crafts Workshop’ wedyn yn ‘Neema Crafts Centre for People with Disabilities’. Ond doedd y lle ddim yn ddigon mawr. Yn 2009, fe wnaethon nhw symud i’w hadeilad eu hunain gan ychwanegu gweithdy serameg, siop, caffi mwy o faint, a chaffi Rhyngrwyd - a’r staff i gyd yn bobl ag anableddau.
Sleid 12 (8 eiliad) Yn 2010, fe bleidleisiodd darllenwyr y Telegraph bod y ty bwyta yn y ganolfan, ‘the best British run restaurant outside the UK’.
Sleidiau 13 i 14 (14 eiliad) Erbyn heddiw, mae 123 o bobl yn gweithio yn y Neema Crafts Centre. Mae’r staff wedi sefydlu, ac yn rheoli, eu cynllun cynilo a chynllun credyd eu hunain.
Sleid 15 (15 eiliad) Mae yno dîm pêl-droed pobl fyddar, tîm pêl-droed i rai sâl dim ond un goes, grwp dawnsio, a thîm o rai sy’n chwarae pêl foli ar eu heistedd.
Sleid 16 (30 eiliad) Pa fath o effaith mae canolfan Neema wedi’i chael ar y bobl sy’n gweithio yno?
- Cyn hynny, roedden nhw’n gorfod begio ar y strydoedd; nawr mae ganddyn nhw eu cyfrif banc eu hunain.
- Cyn hynny, doedden nhw ddim y gallu cael addysg gynradd oherwydd y stigma oedd ynghlwm â’u hanabledd; nawr maen nhw’n cael gwersi llythrennedd, yn ogystal â dysgu mathau eraill o sgiliau bywyd hefyd.
- Cyn hynny, roedd pobl yn edrych i lawr arnyn nhw ac roedden nhw’n cael eu cuddio o olwg y gymdeithas, am fod pobl yn eu hystyried fel pobl oedd wedi eu melltithio; nawr mae ganddyn nhw hunan-barch ac urddas, ac maen nhw’n gallu bod yn rhan o’r gymuned. Ac mae llywodraeth leol wedi rhoi sylw i hyn, trwy ddod i Neema a gweld sut mae’n bosib newid y ffordd y mae’r cyhoedd yn canfod pobl ag anableddau.
Sleid 17 (40 eiliad) Beth yw ystyr y gair ‘Neema’? Y gair ‘gras’ yn Swahili yw ‘neema’. Ac ystyr gras yw caru pobl, waeth beth yw eu gallu na sut rai ydyn nhw.
Amser i feddwl
Mae bywydau wedi cael eu newid oherwydd Neema. Gydag ychydig o ddychymyg, a llawer o dosturi, fe allech chithau beri’r un math o newid hefyd.
Gweddi
Arglwydd Dduw, diolch am Neema,
a diolch dy fod ti’n gweld y potensial ym mhawb.
Helpa fi i fod yn rhywun sy’n gallu helpu eraill i ddarganfod eu hunan-barch a’u hurddas.