Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Eid Ul-Fitr

Disgrifio’r wyl Fwslimaidd bwysig, Eid ul-Fitr.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3/4

Nodau / Amcanion

Disgrifio’r wyl Fwslimaidd bwysig, Eid ul-Fitr.

Paratoad a Deunyddiau

  • Llwythwch i lawr ddelweddau o’r wyl oddi ar safle ar y Rhyngrwyd (gwiriwch y cynnwys a thelerau hawlfraint).
  • Llwythwch i lawr ddelweddau o’r Hajj oddi ar y wefan www.britishmuseum.org/whats_on/past_exhibitions/2012/hajj.aspx
  • Ramadan yw nawfed mis y flwyddyn Fwslimaidd. Mae’n wyl symudol am fod y grefydd Islam yn dilyn calendr perthynol i'r lleuad, gyda phob mis newydd yn dechrau pan ddaw’r lleuad newydd i’r golwg ym Mecca.

Gwasanaeth

  1. Mae Ramadan yn wyl sy’n para am fis, ac sy’n coffáu’r datguddiad gwreiddiol o’r Qur’an i’r Proffwyd Muhammad. Fel mae’n gorchymyn yn y Qur’an, bydd Mwslimiaid yn ymprydio trwy gydol Ramadan. Bob dydd yn ystod Ramadan, fe fydd  Mwslimiaid yn codi cyn i’r haul godi ac yn bwyta brecwast ysgafn. Trwy gydol y dydd wedyn, fyddan nhw ddim yn bwyta nes bydd yr haul wedi machlud. Fe fydd y rhai sy’n rhy ifanc, yn rhy hen, neu’n wael yn cael eu hesgusodi, ond disgwylir i bawb arall geisio ymprydio.

    Credir bod ymprydio’n beth llesol, yn canolbwyntio’r meddwl a’r enaid tuag at Dduw ac yn datblygu hunanddisgyblaeth. Mae’r ddisgyblaeth sy’n ymwneud ag ymprydio fel hyn yn gallu bod yn anodd iawn. Cyfnod y Ramadan, eleni, yw 20 Gorffennaf hyd 18 Awst, adeg ar y flwyddyn pan fydd y dydd yn hir - felly mae cyfnod yr ymprydio bob dydd yr un mor hir hefyd. Pan fydd Ramadan yn digwydd yn y gaeaf neu’r gwanwyn, mae’r cyfnod o ympryd bob dydd yn fyrrach!

    Yn ystod mis Ramadan mae llawer o bobl yn mynd ar bererindod - yr Hajj - i Mecca a thu hwnt. Dyma un o gysyniadau canolog Islam, ac fe fydd y rhai hynny sy’n mynd ar Hajj yn sôn am yr effaith fawr a’r newid mawr y bydd hynny’n ei gael ar eu bywyd.

  2. Caiff diwedd Ramadan ei nodi gan wyl sy’n cael ei galw’n Eid ul-Fitr, gwyl sy’n para am un, dau neu dri diwrnod (ystyr y gair ‘Eid’ yw ‘gwyl’ ac ystyr ‘ul-Fitr’ yw ‘torri’r ympryd’). Caiff pobl eu gwahardd rhag ymprydio yn ystod Eid ul-Fitr.

    Mae Eid ul-Fitr yn nodi cyflawni ymprydio am fis. Mae prydau bwyd gyda’r nos y Ramadan yn gydnabyddiaeth o ddiwrnod o ddisgyblaeth ac ataliaeth, ond mae pryd bwyd yr Eid ul-Fitr yn dathlu mis o ymprydio - ac mae hynny’n gamp hynod.

    Caiff gweddïau arbennig eu hadrodd yn y bore, ynghyd â gweithredu zakat neu elusen - rhoi arian i’r tlawd. Caiff y rhoddion eu rhoi ar ôl y gweddïau, ac yna cynhelir pryd o fwyd i ddathlu gyda’r teulu estynedig.

    Bydd Eid ul-Fitr yn cael ei galw’n ‘Eid felys’ oherwydd yr holl fwydydd melys sy’n cael eu bwyta yn y wledd. Yn achos y rhan fwyaf o Fwslimiaid, yr wyl hon yw gwyl bwysicaf y flwyddyn, gyda dathliadau teuluol mawr yn digwydd. Bydd y bobl yn cyfnewid cardiau, gyda’r cyfarchiad Eid mubarak arnyn nhw, sy’n golygu ‘Eid fendigaid’, yn debyg i’r ffordd y bydd Cristnogion yn cyfarch ei gilydd trwy ddweud ‘Nadolig Llawen’.

  3. Yn yr unfed ganrif ar hugain, mae’n ymddangos yn aml ei bod hi’n bosib caffael unrhyw beth – unrhyw beth – a hynny’n hawdd. Felly, mae’r rhinweddau gwerthfawr o hunan ataliaeth a’r gallu i chwilio am y pethau pwysig mewn bywyd yn mynd yn fwyfwy prin. Mae’r ddisgyblaeth a’r nodwedd o fod yn ystyriol, sy’n cael eu caffael wrth ymprydio am fis, yn wir yn   elfennau sy’n werth eu dathlu.

    Mae lle i werthoedd Ramadan yn y byd seciwlar yn ogystal ag yn y byd Mwslimaidd.

Amser i feddwl

(Goleuwch gannwyll a dangoswch y delweddau o wyl Eid ul-Fitr.)


Ydych chi wedi ymprydio erioed? Wedi mynd heb fwyd am ddiwrnod, efallai? Pa mor anodd oedd hynny?


Neu, a gawsoch chi ympryd ffasiwn, pryd y gwnaethoch chi benderfynu peidio â phrynu rhagor o ddillad newydd nes byddech chi wedi gwisgo tipyn mwy ar eich hen ddillad?


Neu, a wnaethoch chi benderfynu cael ympryd dyfeisiadau - ‘gadget fast’ - a chithau’n addunedu peidio â phrynu’r ‘gizmo’ diweddaraf roeddech chi’n meddwl ei bod hi’n rhaid i chi ei gael? Wnaethoch chi roi’r arian y gwnaethoch chi ei arbed at elusen? Neu ei gadw i chi eich hun?

Weithiau dydi hi ddim yn bosib i ni gael yr hyn y byddwn ni ei eisiau, am wahanol resymau: pa mor anodd yw hynny i chi?

Gweddi

Arglwydd Dduw,

helpa fi ambell dro i geisio byw heb rywbeth rydw i’n teimlo yr hoffwn i ei gael, ond yn gwybod nad ydwyf ei angen.

Helpa fi i wahaniaethu rhwng y ddau beth,

ac i ddatblygu cryfder cymeriad i fynd yn groes i’r llif ambell dro,

a bod yn fi fy hun.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a argymhellir

Chwaraewch gerddoriaeth sy’n gysylltiedig â’r wyl hon.

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon