Mae Pethau Bach Yn Brydferth
Dangos bod hyd yn oed y creaduriaid lleiaf yn bwysig i gynnal y biosffer, a bod syniadau mawr yn aml yn tyfu o ddechreuadau bychain.
gan Helen Bryant
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 3/4
Nodau / Amcanion
Dangos bod hyd yn oed y creaduriaid lleiaf yn bwysig i gynnal y biosffer, a bod syniadau mawr yn aml yn tyfu o ddechreuadau bychain.
Paratoad a Deunyddiau
- Mae’n bosib cael rhai delweddau gwych o anifeiliaid bach ar y wefan www.oddee.com/item_96492.aspx
- Ceisiwch ddelwedd o hadau mwstard: www.gourmetsleuth.com/images/yellow-mustard-seeds.jpg
- Daw geiriau Iesu am yr hedyn mwstard o Efengyl Marc 4.31–32.
Gwasanaeth
- Meddyliwch am rywbeth bach bach iawn. Dyma rai o anifeiliaid lleiaf y byd (dangoswch y delweddau o’r anifeiliaid bach, gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’).
Er mor fach ydyn nhw, rydyn ni’n gallu eu hadnabod fel, cath, ceffyl neu fochdew; mae’r un nodweddion yn perthyn iddyn nhw, dim ond eu bod yn fychan iawn.
‘Tlws popeth bychan’, meddai’r hen ddihareb. Mae hyd yn oed rhywbeth mor fychan â morgrugyn wedi ei ffurfio’n gywrain, ac yn berffaith o ran cyfrannedd. Mae’n bosib gweld bod ffoetws ifanc yng nghroth y fam yn fod dynol. - Ac mae’r lluniau’n dangos hefyd nad yw bod yn fach yn anfantais. Bydd y goeden dderw fwyaf wedi dechrau tyfu o fesen fach.
Fe wnaeth Iesu gymharu teyrnas nefoedd gydag un hedyn mwstard bach. Mae hedyn mwstard yn un o’r hadau lleiaf y gwyddom amdanyn nhw (mae’n mesur tuag ugeinfed ran o fodfedd) ac mae’n tyfu’n llwyn cryf, y talaf o holl blanhigion yr ardd. Yn yr hedyn bach, mae popeth y mae ar y planhigyn ei angen i dyfu’n gryf.
Mae pob ffurf ar fywyd yn dechrau fel hyn, mewn ffyrdd bychan. Mae pob un ohonom ni wedi dechrau fel casgliad o gelloedd, ac yna wedi tyfu i fod yr hyn ydyn ni heddiw. Ac mae rhai ohonom ni’n dal i dyfu! - Mae’n bwysig i ni gydnabod bod rhywbeth, waeth pa mor fach yw, yn dal i fod â llawer i’w gynnig. Heb greaduriaid bach, fel y morgrug a’r pryfed, fyddai llawer peth ym myd natur ddim yn gweithio fel y dylai. Mae ecosystemau a chadwyni bwyd yn ddibynnol ar y pethau mân ar y gwaelod. Heb drychfilod a mwydod i newid natur y pridd, a bwydo’r llygod bach, fe fyddai’r tylluanod a’r hebogiaid yn diflannu o’r tir yn fuan iawn. Mae popeth yn ddibynnol ar y pethau bach rheini sydd ar waelod y gadwyn.
- Gall syniadau fod yn debyg i’r hedyn mwstard. Mae’n bosib i un syniad bach ddigwydd fel fflach o ysbrydoliaeth, a thyfu wedyn i fod yn ddamcaniaeth all newid y byd, ac yn fudiadau gwych sy’n gweithio er lles y byd. Pe byddai’r afal, er enghraifft, heb ddisgyn ar ben Newton, fyddai o efallai ddim wedi sylweddoli beth oedd disgyrchiant. Pe byddech chithau heb ddeall bod 3=1+2, fyddech chi ddim yn gallu gwneud y symiau anodd y byddwch chi’n eu gwneud yn eich gwers fathemateg heddiw.
Amser i feddwl
(Dangoswch rai o’r lluniau eto, a rhowch gyfle i’r myfyrwyr feddwl pa mor bwysig yw’r creaduriaid bach hyn i’n bodolaeth ni.)
Gadewch i ni fod yn ddiolchgar bod syniadau bach yn gallu arwain at syniadau mwy, a bod cam bach o ddealltwriaeth yn gallu tyfu i fod yn weledigaeth fawr, a chofio hefyd bod pethau bach yn brydferth.
Dyddiad cyhoeddi: Awst 2012 Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.