Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Gall Golwg Fod Yn Dwyllodrus

gan Rebecca Parkinson (addaswyd, cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2010)

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried y ffaith na ddylem farnu bobl yn ôl eu golwg.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch am chwech o wirfoddolwyr i wneud dau dîm o dri.  Eglurwch eich bod yn mynd i ddangos cyfres o luniau a'ch bod chi'n awyddus i'r gwirfoddolwyr ddyfalu beth yw'r rheswm am enwogrwydd y bobl sydd yn y lluniau. (Er mwyn cael y lluniau, gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’.)

    Neu, rhannwch bawb yn y gwasanaeth i lawr canol y neuadd a gadewch i'r myfyrwyr ar y naill ochr a'r llall ddyfalu (os bydd angen, rhowch gliwiau!).

    Ar gyfer y rhan helaeth o'r lluniau bydd angen i chi ddweud yn wrth y myfyrwyr, y pen draw, am beth y mae'r bobl yn enwog. Efallai y bydd angen i chi nodi bod rhai o'r lluniau yn dangos 'seintiau’. Gofynnwch i'r myfyrwyr ddyfalu nawddsant beth ydyn nhw.

    Ar ôl pob eglurhad gwnewch sylw fel, ‘Wel, pwy fyddai’n meddwl!’

    Llun 1  Llun o Nelson Mandela yw hwn, a ymladdodd yn erbyn apartheid (arwahanu gorfodol a datblygiad ar wahân o hiliau) yn Ne Affrica. Am ei safiad, gorfodwyd iddo dreulio 27 o flynyddoedd mewn carchar. Bedair blynedd ar ôl iddo gael ei ryddhau cafodd ei ethol yn Arlywydd De Affrica, a gweithiodd yn ddiflino i ddod â chymod a heddwch i'r wlad.

    Llun 2  Llun o Sant Isidore o Seville yw hwn. Yn ystod ei fywyd fe geisiodd ddod ag addysg i’r bobl. Ef yn awr yw nawddsant y Rhyngrwyd!

    Llun 3  Santes Apollonia yw nawddsant y ddannodd! Y traddodiad amdani yw bod ei dannedd wedi cael eu torri i gyd cyn iddi gael ei llosgi'n fyw am wrthod gwadu ei ffydd fel Cristion.

    Llun 4  Mae'r llun hwn yn dangos y Fam Teresa, a dreuliodd ei bywyd yn helpu'r cleifion a'r digartref, yn benodol yn India. Pan fu hi farw yn 1997 roedd yr elusen yn ei henw wedi sefydlu 610 cenhadaeth mewn 123 o wledydd.

    Llun 5  Dyma lun o Alexander Fleming, a ddarganfu'r gwrthfiotig, penisilin, a thrwy hynny arbed bywydau miliynau o bobl.

    Llun 6  Llun o Irena Sendler yw hwn, a lwyddodd, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, i smyglo oddeutu 2,500 o blant Iddewig allan o Geto Warsaw, a thrwy wneud hynny, arbed eu bywyd. (Yn yr Ail Ryfel Byd, Geto Warsaw oedd y mwyaf o'r Getoau Iddewig. Pan oedd Gwlad Pwyl ym meddiant yr Almaen, cafodd 400,000 o Iddewon eu cadw'n gaeth mewn ardal o ryw 1.3 milltir sgwâr.)

    Nodwch fod y rhan fwyaf o'r dyfalu'n anghywir! Bydd y myfyrwyr o bosib yn synnu pam yr oedd pob un o'r unigolion yn y lluniau yn enwog. Nid yw'r mwyafrif o bobl sydd wedi cyflawni rhywbeth rhyfeddol yn edrych yn arbennig.

  2. Eglurwch pan fyddwn yn gweld pobl, fe fyddwn ni'n aml yn rhagdybio sut bersonau ydyn nhw yn seiliedig ar y ffordd maen nhw'n edrych, yr hyn y maen nhw'n ei wisgo neu sut maen nhw'n siarad. Byddwn yn aml yn gwneud penderfyniadau am sut rai yw pobl oddi mewn trwy edrych sut maen nhw'n ymddangos o'r tu allan.

  3. Mae stori yn y Beibl am fachgen o'r enw Dafydd a gafodd ei ddewis i fod y brenin nesaf ar Israel.

    Fe ddywedodd Duw wrth y proffwyd Samuel am fynd i bentref Bethlehem, lle’r oedd ffarmwr o'r enw Jesse yn byw gyda'i deulu. Yno fe fyddai Samuel yn dod o hyd i frenin y dyfodol.

    Dygwyd mab hynaf Jesse o flaen Samuel. Roedd yn ddyn ifanc tal a chryf. Meddyliodd Samuel, ‘Rwy'n edrych ar frenin y dyfodol.’

    Ond fe ddywedodd Duw wrth Samuel nad mab hynaf Jesse fyddai'r brenin. Fe ddywedodd Duw, ‘Mae meidrolion yn edrych ar yr olwg allanol, ond mae Duw'n edrych ar y galon.’ Fe ddaeth saith o feibion hyn Jesse i sefyll o flaen Samuel. Ac fe wrthododd Duw bob un ohonyn nhw. Roedd y dynion hyn yn edrych fel dewisiadau delfrydol i fod yn frenin, ond fe wyddai Duw sut rai oedden nhw o ddifrif.

    ‘Oes gen ti feibion eraill?’ gofynnodd Samuel.

    ‘Dim ond yr ieuengaf, Dafydd. Mae ef allan yn gwarchod y defaid.’

    ‘Ewch i nôl Dafydd,’ meddai Samuel.

    Roedd Duw wedi dewis Dafydd i gael ei eneinio fel y brenin nesaf, er ei fod yn dal yn fachgen, a oedd yn gofalu am ddefaid ei dad.

  4. Rhaid i bob un ohonom fod â mwy o gonsyrn am sut rai yw pobl oddi mewn iddyn nhw’u hunain yn hytrach nag am eu hymddangosiad allanol. Gadewch i ni wneud ymdrech y tymor hwn i weithredu'r syniad hwn a rhoi cyfle teg i bawb.

    Gadewch i ni wneud yn siwr hefyd ein bod ni ein hunain y math o bobl sydd ddim yn unig yn edrych yn dda ar y tu allan, ond hefyd yn dda ar y tu mewn!

Amser i feddwl

Ydyn ni'n condemnio rhai pobl oherwydd nad yw'r ffordd y maen nhw'n edrych yn taro deuddeg i'n disgwyliadau ynghylch y ffordd y dylai pobl edrych?

Oes rhai pobl yr ydym yn eu hosgoi oherwydd eu bod yn gwisgo'n wahanol, neu am fod steil eu gwallt yn wahanol, neu am eu bod yn siarad yn wahanol i ni?

Os yw hynny'n wir, pam na wnawn ni'r ymdrech yr wythnos hon i siarad â rhai o'r bobl hyn – efallai y byddwch yn synnu at yr hyn y byddwch yn ei ddarganfod!

Gweddi
Annwyl Dduw,
diolch i ti dy fod wedi'n gwneud ni'n wahanol i gyd.
Weithiau mae'n hawdd i ni gadw i ffwrdd oddi wrth bobl sy'n ymddangos ychydig yn wahanol i ni,
a’u beirniadu nhw.
Helpa ni i drin pobl eraill fel y byddem ni'n dymuno iddyn nhw ein trin ni.
Helpa ni i fod yn barchus a rhoi cyfle teg i bawb bob amser.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2018    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon