Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ochr Yn Ochr

Beth yw gwerth y Gemau Paralympaidd?

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i ystyried pa mor bwysig yw cystadleuaeth a llwyddiant ar bob lefel o brofiad a gallu dynol.

Paratoad a Deunyddiau

Dim angen paratoi o flaen llaw, er efallai yr hoffech chi ddefnyddio bwrdd gwyn i nodi’r atebion i’r cwestiwn y byddwch chi’n ei ofyn yn rhan 1.

Gwasanaeth

  1. Rydym am ddechrau ein gwasanaeth heddiw gyda sialens geiriau. Fe hoffwn i chi gynnig 20 gair sy'n dechrau gyda'r rhagddodiad ‘para’ (newidiwch y nifer o eiriau am i fyny neu am i lawr yn dibynnu ar gyfansoddiad y rhai sydd yn bresennol yn y gwasanaeth).

    (Derbyniwch ymatebion y myfyrwyr.) 

  2. Felly beth mae’r rhagddodiad hwn yn ei olygu? Sut y mae'n effeithio ar ystyr y gair y mae ynghlwm wrtho?

    Mae'r ateb i'r cwestiwn hwn yn dibynnu ar darddiad pob un o'r geiriau.  Os yw'r gair Saesneg yn tarddu o air Ffrangeg, fel y geiriau ‘parasol’ neu ‘parachute’, yna mae'r rhagddodiad ‘para’ yn golygu ‘amddiffyn rhag’. Mae 'parasol' yn amddiffyn rhywun rhag yr haul (ac wrth gwrs, fel y mae'r rhai ohonoch sy'n gyfarwydd â'r iaith Ffrangeg yn gwybod bod 'parapluie' yn amddiffyn rhywun rhag y glaw), tra bo 'parachute' yn amddiffyn rhywun rhag codwm catastroffig.

    Fodd bynnag, os yw'r gair yn hyn o lawer ac yn tarddu o'r iaith Roeg glasurol, mae ‘para’ yn golygu ‘ochr yn ochr’. Mae'r gair ‘parallel’, sydd yn golygu dwy neu fwy o linellau'n sefyll ochr yn ochr, yn enghraifft berffaith.

    Weithiau, fodd bynnag, gall ‘para’ olygu ‘ochr yn ochr’ ond gyda'r goblygiad o fod ychydig yn iselradd/eilradd. Felly, mae 'paramedic' wedi derbyn hyfforddiant meddygol ond nid cymaint â meddyg. Bydd Paramedics a meddygon yn gweithio ochr yn ochr ond bydd y naill yn eilradd i'r llall.

  3. Dydd Mercher, 29 Awst, byddwn yn gweld seremoni agoriadol Gemau Paralympaidd Llundain, a fydd yn parhau tan ddydd Sul 9, Medi. Bydd 21 o fabolgampau, yn cynnwys athletau, hwylio, pêl-foli ar eistedd, rygbi mewn cadair olwyn a boccia. Bydd dros 4,200 o gystadleuwyr yn cymryd rhan, yn cynrychioli 165 o wledydd o 5 cyfandir. 

    Pa fath o ystyr felly sydd i'r elfen ‘para’ yn ‘Paralympaidd’, tybed? 

  4. Yr ystyr rhesymegol o 'para’ yn ‘Paralympaidd’ yw ‘ochr yn ochr’. Bydd Gemau Paralympaidd Llundain yn defnyddio'r union gyfleusterau â Gemau Olympaidd Llundain 2012, a fydd wedi dod i ben ychydig ynghynt. Bydd y drefniadaeth, y sylw gan y cyfryngau, yr olygfa, y gwobrwyon a'r syniad o gystadleuaeth yn debyg iawn.

    Bydd y ddau ddigwyddiad yn cymryd lle fel delweddau drych y naill a'r llall.

    Er hynny, mae'n amhosib osgoi'r ffaith bod y Gemau Paralympaidd yn eilradd i'r prif Gemau Olympaidd.

    Mae'n cymryd lle pan fydd y Gemau Olympaidd wedi gorffen ac o flaen llai o dyrfaoedd. Mae'n annhebygol iawn y bydd y perfformiadau mewn unrhyw gamp yn rhagori ar y rhai yn y cystadlu blaenorol: bydd yr amseroedd yn arafach, y pellteroedd yn llai, a lefelau'r sgiliau yn fwy cyfyngedig.

    Mae yna demtasiwn, felly, i ystyried y Gemau Paralympaidd fel digwyddiad israddol.

  5. Ond a yw hynny'n wir? Mae yna ffordd arall o edrych ar y Gemau Paralympaidd.

    Yn y Gemau Paralympaidd, mae'r athletwyr yn cystadlu i ennill buddugoliaeth yn erbyn anawsterau anhygoel.

    Maen nhw wedi bod yn hyfforddi, wedi aberthu, ac wedi ymrwymo'u bywydau i'w camp i'r graddau fel nad ydyn nhw'n wahanol o gwbl i gystadleuwyr yn y Gemau Olympaidd.

    Mae llawer ohonyn nhw wedi goresgyn rhwystrau ychwanegol o ganlyniad i'w hanableddau.

    Ychydig iawn ohonyn nhw sydd wedi cael profiad o nawdd sylweddol.

    Bydd dwysedd y cystadlu mor eithafol â'r hyn a geir yn y Gemau Olympaidd, oherwydd bydd yr ewyllys i ennill yr un mor gryf.

  6. Felly, pan fydd holl rialtwch y Gemau Olympaidd drosodd, gadewch i ni fod yn barod i gymeradwyo a dathlu'r llwyddiannau yn y Gemau Paralympaidd, lle bydd yr ymdrechion yr un mor flinedig, y cystadlu yr un mor ddwys â'r pleser o ennill yn ddim llai na'r hyn a fydd yn y Gemau Olympaidd.

Amser i feddwl

Ar ba lefel y byddwch chi'n cystadlu mewn mabolgampau? Bydd rhai ohonoch yn cystadlu ar lefel leol, sirol, cenedlaethol, rhyng-genedlaethol. Bydd eraill ohonoch yn ei chyfrif yn llwyddiant i gystadlu mewn ras hwyl, ennill twll neu ddau mewn gêm o golff plant, neu fentro ar lwybr glas i lawr llethr sgïo.

Er hynny, os oes unrhyw elfen gystadleuol ynoch chi o gwbl, yna fe fyddwch chi’n cael y syniad o lwyddiant pryd bynnag y byddwch yn ennill buddugoliaeth neu’n cyflawni rhyw nod personol.

Nid oes wahaniaeth ar ba lefel yr ydym yn cystadlu, mae'r pleser ar lefel bersonol yn foddhaol tu hwnt.

Mae'n werth dathlu pob llwyddiant.

Gweddi

Annwyl Arglwydd,

diolch i ti am y mwynhad o gystadlu.

Boed i ni werthfawrogi llwyddiant sy'n dod i ran pob enillydd haeddiannol.

Boed i ni dderbyn ein buddugoliaethau gyda gras a dysgu hyd yn oed oddi wrth yr adegau hynny pan fyddwn ni’n colli.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a argymhellir

‘We are the champions’ gan Queen

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon