Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Neil Armstrong

Dysgu o ganlyniad i drasiedi

gan Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3/4

Nodau / Amcanion

Ystyried sut y gall dynoliaeth ddysgu rhywbeth o ganlyniad i drasiedi ofnadwy, a symud ymlaen wedyn.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae'r gwasanaeth hwn yn seiliedig ar gyfweliad a roddwyd gan ofodwr yr Apollo, a'r person cyntaf i droedio'r lleuad, Neil Armstrong.
  • Mae'r fideo o'r cyfweliad wedi ei rannu'n rhannau bychan i’w cael ar y wefan: www.thedailybeast.com/articles/2012/05/24/neil-armstrong-gives-a-rare-interview-to-discuss-the-apollo-program-and-the-moon-landing.html 
    Y rhan berthnasol ar gyfer y gwasanaeth hwn yw'r ail glip lle mae Armstrong yn dechrau gyda'r geiriau, ‘The first Apollo spacecraft was on a pre-flight test . . . ’ Os yw'r linc wedi newid, rydym yn argymell i chi chwilio am ‘Neil Armstrong Interview 2012’.
  • Mae'r dyfyniad Beiblaidd i'w weld yn Llyfr y Pregethwr 3.4.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch a oedd unrhyw un ar y staff sy'n bresennol yn fyw yn 1969.
    Gofynnwch a oedd unrhyw un yn cofio'r glaniadau ar y lleuad yn 1969, ac yn y 1970au cynnar.
    Gofynnwch i'r myfyrwyr am yr hyn a wyddon nhw am y glaniadau ar y lleuad - unrhyw enwau perthnasol neu ddigwyddiadau (efallai eu bod yn gwybod rhywbeth am Apollo 13 o'r ffilm o'r un enw).

  2. Neil Armstrong yw un o bobl enwocaf yr ugeinfed ganrif, a chafodd ei awgrymu y bydd ei enw ef ymhlith yr ychydig enwau o'n cyfnod ni a fydd yn cael eu cofio am filoedd o flynyddoedd.

    Cymeriad diymhongar yw Armstrong ei hun sydd bob amser yn pwysleisio mai ymdrech gan dîm o bobl oedd glanio ar y lleuad. Bob amser mae'n sôn am ‘ni’ yn hytrach na ‘fi’. Mae'n awyddus i roi clod i'w gyd-ofodwyr ar Apollo 11, Buzz Aldrin a Michael Collins, a'r holl ofodwyr a'r gofodwyr Rwsiaidd a'r miloedd o weithwyr eraill a fu'n gyfrifol am y datblygiadau ynglyn â'r ehediad i'r gofod a wnaeth y glaniad yn bosib.

  3. Dangoswch y clip ac yn fyr ailadroddwch y manylion:

    Prawf ar y ddaear oedd Apollo 1.

    Ar 27 Ionawr 1967, bu farw'r gofodwyr Grissom, White a Chaffee mewn tân yn ystod prawf ar lwyfan lansio. Roedd hyn yn drasiedi dychrynllyd ond fe roddodd gyfle i'r rhaglen Apollo ddysgu am yr hyn a aeth o'i le ac ailfeddwl am y cynllun.

  4. Nodwch y gall fod yn beth rhyfedd i siarad am farwolaeth cydweithwyr ac yna awgrymu fod hynny'n 'gwmwl golau', ond prawf-beilot oedd Armstrong a'r gofodwyr eraill, yn byw'n feunyddiol gyda'r posibilrwydd o farwolaeth ac anaf. Nid oedd yr un gofodwr yn chwennych marw, ond nid oedd amheuaeth ym meddyliau'r gofodwyr pe bydden nhw'n cael damwain, hyd yn oed un angheuol, fe fydden nhw'n dymuno i'r prosiect ddysgu oddi wrth hynny a symud ymlaen at lwyddiant.

    Nodwch fod llawer o bobl yn credu na fyddai'r rhaglen o lanio ar y lleuad wedi llwyddo oni bai am yr ail-gynllunio a ddigwyddodd ar ôl y ddamwain.

  5. Weithiau, mae ein byd yn ymddangos yn llawn trasiedi. (Soniwch am unrhyw storïau diweddar sy'n berthnasol neu siaradwch yn gyffredinol am derfysgaeth, rhyfel a thrychinebau naturiol.)

    Gallwn hefyd gael ein gorlethu gyda thrasiedïau personol neu weithiau pan fydd y pethau sy'n mynd o chwith yn ein bywyd yn pentyrru ac yn  mynd yn drech na ni. Gall hynny ymdebygu i drychineb yn dilyn trychineb a'ch bod yn teimlo fel dweud, ‘mae popeth yn mynd yn fy erbyn i’.

    Gall yr hen eiriau yn Llyfr y Proffwydi Iddewig ein helpu trwy ein hatgoffa fod yna:

    amser i wylo, ac amser i chwerthin;
    ac amser i alaru, ac amser i ddawnsio.

    Mae'n bwysig galaru, hiraethu, a chofio am ein tristwch, ond pan fydd yr amser yn gymwys, mae'n ofynnol i ni ddeall sut i symud ymlaen o'r wylo at y chwerthin. Gall bob un ohonom gymryd y cyfle i ddysgu oddi wrth drasiedi a symud ymlaen, fel y gwnaeth Neil Armstrong, a phob un oedd ynghlwm wrth raglen Apollo, yn agos i 50 mlynedd yn ôl.

Amser i feddwl

Mae amser i wylo, ac amser i chwerthin;

ac amser i alaru, ac amser i ddawnsio.

Sut y gallwn ni symud oddi wrth y naill i'r llall, a sut y gallwn ni ddysgu oddi wrth yr anawsterau ac unrhyw rwystrau a wynebwn?

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Also sprach Zarathustra’ gan Richard Strauss yw’r gerddoriaeth enwog a ddefnyddiwyd ar gyfer 2001: A Space Odyssey

Space Oddity’ gan David Bowie

(Mae’r ddau ddarn o gerddoriaeth ar gael i’w llwytho i lawr oddi ar y Rhyngrwyd.)

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon