Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Amlddewis

Annog y myfyrwyr i fod ag agwedd iachus tuag at wneud dewisiadau.

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i fod ag agwedd iachus tuag at wneud dewisiadau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratowch dri darllenydd.
  • Casglwch o leiaf ddeg o wahanol fariau siocled.

Gwasanaeth

  1. Mae’r gwasanaeth hwn yn ymwneud â dewis. Fe fyddwn ni i gyd yn penderfynu ac yn dewis gwahanol bethau o ddydd i ddydd, drwy ein bywyd. Ambell dro mae’r penderfyniadau’n rhai pwysig, eraill heb fod mor bwysig. Weithiau, fyddwn ni ddim hyd yn oed yn ymwybodol ein bod yn gwneud dewisiadau.

    (Rhowch wahoddiad i rywun ddod atoch chi i’r tu blaen i’ch helpu chi gyda’r rhan nesaf - rhywun sy’n cael ei ben-blwydd ar y diwrnod, efallai.)

    Rydw i’n mynd i ofyn i chi ddewis cyfres o bethau. Peidiwch â meddwl gormod am eich atebion. Atebwch ar eich union beth bynnag sy’n dod i’ch meddwl gyntaf.

    nofio neu jogio?
    siocled neu felysion?
    Vans neu Converse?
    Jessie J neu Lady Gaga?
    cola neu lemonêd?
    du neu wyn?
    grawnfwyd neu dost?
    dydd Sadwrn neu ddydd Sul?
    pêl-droed neu rygbi?
    Ffrangeg neu Almaeneg?

  2. Ambell dro, fel gyda’r enghreifftiau hyn, rydyn ni’n cael dewis uniongyrchol, un o ddau beth a dyna fo. Bryd hynny, fel arfer, mae’n ddigon hawdd penderfynu a does dim rhaid pendroni llawer. Dro arall, fe fyddwn ni’n cael sawl peth i ddewis ohonyn nhw. Ar adegau felly mae’n anoddach penderfynu.

    (Arllwyswch y bariau siocled ar y bwrdd o’ch blaen. Gofynnwch i’r un sydd yn eich helpu ddewis un. Ceisiwch ei annog i gymryd digon o amser i ddewis. Gwnewch hi’n anodd iddo ef neu hi benderfynu trwy awgrymu gwahanol resymau dros wrthod neu ddewis.)

    O! Dyma benderfyniad anodd!
    Does arnoch chi ddim eisiau gwneud y dewis anghywir.
    Beth am hwn?
    Ydych chi’n siwr?
    Ydych chi, o ddifrif, yn siwr?
    Does arnoch chi ddim eisiau difaru wedyn, nag oes, a meddwl biti na fyddech chi wedi dewis un o’r lleill.

    Ambell dro, mae gormod o ddewis, a gormod o bobl yn cynnig gwahanol gyngor. Dydyn ni ddim yn gwybod beth i’w wneud. Dydyn ni ddim yn gwybod sut rydyn ni’n mynd i benderfynu Rydyn ni ofn gwneud y dewis anghywir.

  3. Nawr, rydyn ni’n mynd i glywed tri achos astudiaeth unigolion sy’n wynebu dewisiadau pwysig. Mae rhieni, athrawon neu ffrindiau’n cynnig cyngor i bob un yn ei dro. 

    Penderfynwch i ba raddau rydych chi’n meddwl y dylen nhw wrando ar y cyngor sy’n cael ei roi iddyn nhw.

    Cwestiwn Catrin

    Darllenydd 1
      Fy enw i yw Catrin ac rydw i’n 16 oed. Pan oeddwn i’n fach, roedd poeth mor hawdd. Roedd fy rhieni yn penderfynu popeth ar fy rhan. Nhw oedd yn penderfynu pa bryd roeddwn i’n mynd i fy ngwely, beth roeddwn i’n ei wisgo, a beth roeddwn i’n ei gael i’w fwyta – neu beth doeddwn i ddim yn ei gael. Doedd gen i ddim dewis o gwbl. Wrth i mi dyfu’n hyn, fe ddechreuais i ddewis pethau fy hun. Roeddwn i’n dewis beth roeddwn i eisiau ei wylio ar y teledu, a gyda phwy roeddwn i eisiau chwarae. Pan wnes i symud i’r ysgol uwchradd, roedd gen i ryddid i ddewis fy ffrindiau, fy niddordebau, a’r gerddoriaeth roeddwn i’n hoffi gwrando arni. Roeddwn i’n meddwl y gallwn i ddewis beth bynnag roeddwn i eisiau. 

    Ond, nawr, mae gen i un penderfyniad enfawr i’w wneud, a dydw i ddim yn gwybod beth ddylwn i ei wneud. Rhaid i mi ddewis rhwng naill ai aros yn yr ysgol, a mynd i’r chweched dosbarth, neu adael yr ysgol. Yn sydyn iawn, mae’r penderfyniad yn holl bwysig, ac yn rhywbeth a fydd yn effeithio ar weddill fy mywyd. Mae fy rhieni eisiau penderfynu ar fy rhan. Dydyn nhw ddim yn meddwl fy mod i’n barod i adael yr ysgol. Maen nhw eisiau i mi fynd i’r chweched dosbarth, ac i’r brifysgol wedyn efallai. 

    Dydw i ddim mor siwr. Rydw i wedi blino ar yr ysgol. Mae gen i eisiau newid. Fy mhenderfyniad i ydi hwn, iawn? Fy mywyd i ydi o, ac fe alla i wneud yr hyn rydw i eisiau. Er nad ydw i’n hollol bendant beth ydw i eisiau ei wneud, rydw i’n gwybod dydw i ddim eisiau aros yn yr ysgol. Beth ydych chi’n feddwl ddylwn i ei wneud?

    Arweinydd  Beth ydych chi’n feddwl ddylai Catrin ei wneud? Faint ohonoch chi sy’n meddwl y dylai hi wrando ar ei rhieni, ac aros yn yr ysgol? (Gofynnwch i’r myfyrwyr godi eu dwylo i ddangos.) 
    A faint ohonoch chi sy’n meddwl y dylai hi adael yr ysgol? 
    Faint ohonoch chi sydd ddim yn sicr?

    Cwestiwn Jac 

    Darllenydd 2  Jac ydw i, ac rydw i newydd gael fy mhen-blwydd yn 17 oed. Fe gefais i £200 ar fy mhen-blwydd gan fy mam a fy nhaid i dalu am wersi gyrru. Rydw i wedi bod yn edrych ymlaen at gael dechrau dysgu gyrru ers misoedd, ond nawr dydw i ddim mor siwr. Mae fy ffrindiau i gyd yn mynd i wyl roc, welwch chi, ac maen nhw eisiau i mi fynd efo nhw. Wrth gwrs, fe fyddwn i wrth fy modd yn mynd efo nhw, ond alla i ddim fforddio mynd. Mae fy ffrindiau’n dweud y dylwn i ddefnyddio fy arian pen-blwydd. Maen nhw’n dweud y caf i lawer mwy o hwyl yn yr wyl roc nag yn y gwersi gyrru. Ac maen nhw’n dweud y gallaf gynilo eto i gael arian ar gyfer y gwersi gyrru, a chael y rheini’n ddiweddarach, ar ôl y Nadolig efallai. 

    Yn wir, dydw i ddim yn gwybod beth i’w wneud. Yn dechnegol, fy arian i ydyn nhw nawr, ac fe alla i wneud beth bynnag ydw i eisiau efo nhw. Ond rydw i’n gwybod y byddai fy mam a fy nhaid yn siomedig iawn pe byddwn i’n gwario’r arian ar fynd i’r wyl roc. A does gen i ddim eisiau gwneud hynny iddyn nhw. Ond, os na fyddaf yn mynd i’r wyl, fe fydd fy ffrindiau’n digio hefyd. Does gen i ddim eisiau iddyn nhw ddechrau gwneud hwyl am fy mhen. O, diar! Beth ydw i’n mynd i’w wneud?

    Arweinydd  Beth ydych chi’n feddwl ddylai Jac ei wneud? Faint ohonoch chi sy’n meddwl y dylai wrando ar ei ffrindiau a gwario’r arian ar docyn i fynd i’r wyl roc? (Gofynnwch i’r myfyrwyr godi eu dwylo i ddangos.) 
    A faint ohonoch chi sy’n meddwl y dylai wario’r arian ar wersi gyrru? 
    Faint ohonoch chi sydd ddim yn sicr? 

    Cwestiwn Siân

    Darllenydd 3  Siân ydw i, ac rydw i’n 18 oed. Rydw i’n astudio ar gyfer fy arholiadau lefel A, ac rydw i’n gweithio mewn siop esgidiau hyfryd yn ystod y penwythnosau. Rydw i wrth fy modd yn gweithio yno, ac mae’r cyflog yn dda. Mewn gwirionedd, rydw i wedi bod yn gweithio ambell noson yn ystod yr wythnos yno hefyd. Dydw i ddim yn hoffi dweud na wrthyn nhw pan fydda i’n cael cynnig gweithio mwy, rydw i’n hapus iawn yno, mae’r staff yn glên ac wrth gwrs mae’n grêt cael yr arian. Ond ddoe, fe ofynnodd yr athrawes Gymraeg i mi aros ar ôl y dosbarth. Roedd hi’n meddwl bod fy ngwaith yn dirywio oherwydd yr holl oriau rydw i’n eu treulio’n gweithio yn y siop. Mae hi’n pryderu amdanaf. Mae hi’n gwybod fy mod i wedi gwneud cais am le yn y brifysgol, ac mae hi’n ofni na fyddaf yn gallu cael y graddau angenrheidiol. Mae hi’n awgrymu y dylwn i weithio llai o oriau yn y siop tan ar ôl yr arholiadau. 

    Dydw i ddim yn gwybod beth ddylwn i ei wneud. Rydw i’n gwybod nad oedd y ddau ddarn diwethaf o waith a wnes i iddi yn dda iawn, ond efallai ei bod hi’n gor-ymateb. Fe allwn i wneud rhywfaint mwy o ymdrech efallai, a rhoi ychydig mwy o sylw i fy ngwaith. Ond mae’r athrawon bob amser yn meddwl bod gwaith ysgol yn bwysicach na dim arall. Maen nhw eisiau i chi eistedd yn eich ystafell yn astudio ddydd ar ôl dydd heb fynd allan i fwynhau eich hun o gwbl. Eto, beth os ydi hi’n iawn? Beth pe byddwn i’n methu cael y graddau ac yn methu mynd i’r brifysgol? Beth fyddwn i’n ei wneud wedyn? Be wna i? Helpwch fi!

    Arweinydd  Beth ydych chi’n feddwl ddylai Siân ei wneud? Faint ohonoch chi sy’n meddwl y dylai hi wrando ar ei hathrawes, a lleihau’r oriau mae hi’n ei weithio yn y siop? (Gofynnwch i’r myfyrwyr godi eu dwylo i ddangos.) 
    A faint ohonoch chi sy’n meddwl y dylai hi ddal ati i wneud yr hyn mae hi’n ei wneud? 
    Faint ohonoch chi sydd ddim yn sicr? 

  4. Fel y clywson ni, mae pobl ifanc yn gorfod gwneud dewisiadau anodd. Mae’n debyg bod nifer ohonoch chi wedi gorfod wynebu penderfyniadau tebyg i’r hyn roedd y tri unigolyn yma’n sôn amdanyn nhw. Ac fel rydyn ni wedi gweld wrth godi ein gwylo, mae ein barn yn amrywio ynghylch pa un oedd y dewis gorau. Yn aml, does dim un ateb pendant, dim ateb cywir neu anghywir.

    Mae’n iawn i ni wrando ar gyngor rhieni, ffrindiau, ac athrawon, mae’r rhain i gyd gyda gofal amdanom. Mae pob un eisiau’r hyn sydd orau i ni, ac mae ganddyn nhw brofiad gwerthfawr i’w rannu â ni.

    Mae’n iawn i ni ystyried yr holl opsiynau. Ac mae’n bwysig cymryd amser i feddwl am yr holl oblygiadau. 

    Ond yn y diwedd, chi piau’r dewis, chi fydd raid penderfynu. Eich bywyd chi fydd yn y fantol. Eich dewis chi, felly. 

  5. Dewiswch yn onest. Byddwch yn ddigon hunanymwybodol i wybod beth fydd orau i chi. 

    Dewiswch yn bendant. Gadewch i chi eich hun symud ymlaen yn gadarnhaol, heb edifarhau, a gwnewch y gorau o’r penderfyniad a wnaethoch.

    Dewiswch yn ddoeth. Bydded i chi fod yn gwybod yn eich calon eich bod wedi gwneud y dewis cywir yn eich achos chi eich hun.

Amser i feddwl

Gadewch i ni dreulio moment neu ddwy i feddwl am yr hyn rydyn ni wedi bod yn sôn amdano yn y gwasanaeth heddiw.

(Saib)

Gweddi

Gwrandewch ar eiriau’r weddi hon. Os hoffech chi, fe allech chi gymryd y weddi hon yn weddi i chi eich hunan.

Annwyl Dduw,

Diolch i ti bod gennym ni y rhyddid i gael dewis.

Diolch am ein rhieni, am ein ffrindiau, ac am ein hathrawon sy’n gallu ein helpu wrth i ni benderfynu.

Mae’n ddrwg gennym am yr adegau pan wnaethon ni ddewisiadau anghywir.

Helpa ni i ddewis yn onest, ac archwilia ein calon.

Helpa ni i ddewis yn bendant, ac i beidio ag edrych yn ôl a difaru.

Helpa ni i ddewis yn ddoeth, ac i wneud y dewis iawn.

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon