Pwy Yw Aung San Suu Kyi?
gan James Lamont
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 4/5 - Gwasanaeth Sylwadau
Nodau / Amcanion
Cael golwg ar hanes bywyd Aung San Suu Kyi, ac ystyried y gost bersonol o sefyll dros ddemocratiaeth.
Paratoad a Deunyddiau
Llwythwch i lawr rai lluniau o Aung San Suu Kyi oddi ar y Rhyngrwyd.
Gwasanaeth
- Dychmygwch sut byddech chi’n teimlo pe byddech chi ddim yn gallu gadael eich gwlad rhag ofn i chi beidio gallu dod yn eich ôl.
Nawr, dychmygwch eich bod yn arweinydd cymeradwy eich pobl, wedi eich carcharu mewn ty adfeiliedig, gyda neb yn ymweld â chi ond ceidwaid eich carchar, tra bo unbennaeth greulon yn anrheithio eich gwlad, yn mygu unrhyw wrthblaid ac yn cadw’r boblogaeth mewn tlodi.
Am gyfnodau maith, dyna sut fywyd oedd bywyd Aung San Suu Kyi, arweinydd y Cynghrair Cenedlaethol er Democratiaeth yn Burma. - Suu Kyi
Cafodd tad Suu Kyi, y cadfridog Aung San, ei alw’n dad y Burma fodern. Yn 1947, fe fu’n gyfrifol am drafod telerau gwneud y genedl hon o Dde-ddwyrain Asia yn annibynnol oddi wrth yr Ymerodraeth Brydeinig. Ond, yn fuan wedyn, pan oedd Aung San Suu Kyi yn ddim ond dwy oed, cafodd ei lofruddio gan elynion.
Aeth Suu Kyi i’r ysgol, ac yna i goleg yn New Delhi, cyn dechrau astudio wedyn ym Mhrifysgol Rhydychen yn 1969. Yno, fe wnaeth gyfarfod â’r un a ddaeth yn wr iddi’n ddiweddarach. Bu Suu Kyi’n gweithio am beth amser yn Efrog Newydd, yn Japan ac yn Bhutan, ond ymhen amser fe wnaeth ei chartref yn Lloegr gyda’i gwr â’i dau blentyn. Yn 1985, fe astudiodd ar gyfer gradd PhD ym Mhrifysgol Llundain, yn y School of Oriental and African Studies.
Yn 1988, fe aeth yn ôl i Burma i ofalu am ei mam, a oedd yn wael. Ar yr un pryd, fe ddechreuodd weithio i’r mudiad a oedd o blaid democratiaeth, a oedd ar gynnydd yn Burma. Yn fuan, fe ddaeth yn arweinydd y mudiad. Wedi ei hysbrydoli gan athrawiaethau Martin Luther King a Gandhi, dechreuodd Suu Kyi bregethu athroniaeth ymarferol ddi-drais, wedi’i seilio ar gredoau Bwdhyddion Burma.
Ar 8 Awst 1988, cafodd gwrthdystiadau mawr a oedd yn cael eu cynnal i alw am ddemocratiaeth eu hatal yn greulon gan y fyddin. Yn ôl amcangyfrif roedd hyd at ddegau o filoedd o bobl wedi’u lladd bryd hynny.
Ar 18 Medi 1988, fe gipiodd y fyddin y grym. Y mis hwnnw fe fu Suu Kyi wrthi’n helpu i sefydlu’r Gynghrair Genedlaethol er Democratiaeth.
Y flwyddyn ganlynol cafodd ei chyfyngu i’w chartref - a hynny’n aml mewn caethiwed unig yn y blynyddoedd cynnar. Cafodd ei chadw’n gaeth fel hyn am bron 15 mlynedd o’r 21 mlynedd nesaf (roedd ambell gyfnod o ryddid bob yn ail a’r cyfnodau o gaethiwed). Mae’r nifer hwnnw o flynyddoedd yn fwy na nifer y blynyddoedd y mae llawer ohonoch chi wedi byw - ystyriwch hynny am foment. Chafodd hi ddim ei rhyddhau tan ddwy flynedd yn ôl: sef ar 13 Tachwedd 2010.
Galwyd etholiadau yn 1990 (ychydig cyn i’r rhan fwyaf ohonoch chi gael eich geni), ac fe enillodd y Gynghrair Genedlaethol er Democratiaeth yno fuddugoliaeth enfawr, gan ennill 59 y cant o’r pleidleisiau. Ond fe wnaeth y llywodraeth filwrol ddatgan nad oedd canlyniadau’r etholiad y cyfrif, a dweud eu bod yn ddi-rym. Cafwyd protest ryngwladol yn erbyn y llywodraethwyr milwrol am eu polisïau bwystfilaidd ac am eu bod yn gwrthod trosglwyddo’r grym i’r arweinwyr oedd wedi etholedig. Yn y cyfamser, cadwyd Suu Kyi yn gaeth eto.
Yn 1991, dyfarnwyd Gwobr Heddwch Nobel i Aung San Suu Kyi. Nododd y pwyllgor dyfarnu bod brwydr Suu Kyi yn un o’r enghreifftiau mwyaf hynod o ddewrder sifil yn Asia yn y degawdau diwethaf. Mae hi wedi dod yn symbol pwysig yn y frwydr yn erbyn gormes. Oherwydd ei bod yn cael ei chadw’n gaeth, doedd hi ddim yn gallu teithio i Oslo i dderbyn y wobr ei hun, a thraddodi ei haraith wrth ei derbyn.
Daeth un adeg anoddach na’r cyfan i ran Suu Kyi yn 1999. Roedd ei gwr, yr academydd Prydeinig Dr Michael Aris, yn marw o ganser. Doedd hi ddim wedi ei weld ers 1995. Fe roddodd llywodraeth Burma ganiatâd iddi adael y wlad er mwyn cael mynd i weld ei gwr, ond doedd dim sicrwydd y cai hi ganiatâd i ddod yn ei hôl i’r wlad wedyn, ar ôl hynny. Fe ddewisodd hi aros yn Burma a pharhau â’i hymgyrch.
Chafodd hi ddim gweld ei gwr. Fe fu farw ar 27 Mawrth 1999. Yn ystod y cyfnod hir y bu’n gaeth, doedd Suu Kyi ddim yn cael gweld ei phlant ychwaith, roedden nhw’n byw ym Mhrydain.
Yn ystod caethiwed Suu Kyi’, fe ddioddefodd Burma flynyddoedd dychrynllyd:
- yn 2007, cafodd ymgyrchoedd gwrthdystio yn erbyn polisïau’r llywodraeth, ymgyrchoedd a oedd yn cael eu harwain gan fynachod Bwdhaidd, eu hatal trwy ddulliau treisgar iawn;
- yn 2008, rhwygodd Seiclon Nargis rhwygo trwy’r wlad, gan ladd dros 100,000 o bobl ac achosi gwerth $10 biliwn o ddifrod.
Tua diwedd 1999, dechreuwyd rhoi ychydig mwy o ryddid i Suu Kyi. Cafodd ganiatâd i gyfarfod arweinwyr gwledydd eraill a oedd ar ymweliad, ac i gyfarfod ag arweinyddion ei phlaid ei hun.
Cyhoeddodd llywodraeth Burma etholiad cyffredinol, y gyntaf mewn dau ddegawd, ar 7 Tachwedd 2010. Cyhoeddwyd hefyd y byddai Suu Kyi yn cael ei rhyddhau, ond na fyddai byth yn gallu sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad.
Ar 13 Tachwedd 2010, cafodd ei rhyddhau o’i chyfyngiadau. Yn ddiweddarach y mis hwnnw, cafodd un o’i meibion yr hawl i ddod i ymweld â hi: doedden nhw ddim wedi gweld ei gilydd ers deng mlynedd.
Wyddom ni ddim beth oedd cymhelliad y llywodraeth dros ryddhau Suu Kyi, ond credir bod y llywodraeth yn teimlo’n fwy hyderus ynghylch gallu rheoli ei chefnogwyr. Roedd pwysau sylweddol wedi dod o du arweinwyr byd hefyd. - Datblygiadau yn Burma
Er bod colledion enfawr a digwyddiadau trasig ynglyn â’r stori hon, ac mae llawer mwy i’w wneud eto, mae’n dechrau dod yn amlwg fod pethau’n gwella rywfaint yn Burma.
– Ym mis Hydref 2011, yn dilyn trafodaethau gyda Suu Kyi, caniataodd y llywodraeth, fel arwydd o ewyllys da, y byddai gweithwyr yn cael uno ag undebau llafur.
– Hefyd ym mis Hydref 2011, cafodd tua un o bob deg o garcharorion gwleidyddol Burma eu rhyddhau.
– Mae’r llywodraeth newydd wedi cyflwyno hawliau ehangach a rhagor o atebolrwydd.
– Ym mis Tachwedd 2011, yng ngoleuni’r newidiadau yr oedd y llywodraeth yn eu gwneud, cyhoeddodd y Gynghrair Genedlaethol er Democratiaeth eu bwriad i sefyll etholiad mewn llywodraeth lle’r oedd grym milwrol yn cael ei rannu ag arweinwyr democrataidd sifil. Maen nhw wedi dweud eu bod yn dymuno gweithio fel gwneuthurwyr deddfau o fewn y senedd i ddod â hawliau sifil a democratiaeth i wlad Burma.
– Mae Suu Kyi wedi cael caniatâd i ymweld â gwledydd eraill a chyfarfod ag arweinwyr tramor.
– Ym mis Mehefin 2012, o’r diwedd, fe gafodd dderbyn ei Gwobr Heddwch Nobel yn bersonol, a thraddodi ei haraith wrth dderbyn y wobr honno.
– Yn yr isetholiadau, yn 2012, enillodd Suu Kyi sedd yn y senedd, ac fe enillodd ei phlaid 43 sedd o’r 45 yno.
– Mae’r newidiadau yn Burma wedi creu cysylltiadau masnach â chenhedloedd eraill. Mae Burma’n wlad gyfoethog ei hadnoddau naturiol, ac fe allai hynny helpu i dynnu pobl y wlad allan o dlodi. - Yn ei haraith enwocaf, mae Suu Kyi'n dadlau mai’r hyn sy’n llygru yw, nid grym, ond ofn. Mae ofn colli rhywbeth yn gyrru llywodraethau i wneud pethau ofnadwy, ac mae eu bwriadau da’n cael eu llygru.
Mae cryfder Suu Kyi, yn wyneb yr her a oedd yn ymddangos yn gwbl amhosibl, yn enghraifft o sut i fyw heb ildio i ofn.
Amser i feddwl
(Dangoswch y lluniau o Aung San Suu Kyi.)
Weithiau, rydyn ni’n gorfod sefyll dros yr hyn y gwyddom ni sy’n iawn.
Weithiau, mae hynny’n beth hynod o gostus.
Yn achos Aung San Suu Kyi, roedd yn golygu byw fel carcharor mewn un ty am bron i 15 mlynedd allan o 21.
Heb weld fawr ddim o gwbl ar ei gwr, a methu bod gydag ef wrth iddo farw.
Heb weld ei phlant am ddeng mlynedd.
Treuliwch foment neu ddwy, nawr, yn ystyried: Beth fyddech chi’n fodlon sefyll er ei fwyn, ar y fath gost?
Diolch am y system ddemocrataidd rydyn ni’n byw ynddi, system na fyddwn prin yn meddwl am ei bodolaeth.
Gweddi
Annwyl Dduw,
rhown ddiolch am fywydau pobl ddewr a phobl nobl fel Aung San Suu Kyi.
Gad i ni fod yn barod, ac yn abl, i sefyll dros ein hegwyddorion fel y gwnaeth hi,
a rho i ni’r gallu i wneud hynny os bydd rhaid i ni.
Helpa ni i drechu ein hofnau, a sefyll dros wirionedd a democratiaeth.
Cerddoriaeth
Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir
‘Abraham, Martin and John’, recordiad gan Dion.