Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Yom Kippur

Archwilio’r cysyniad cymod yng nghyd-destun Yom Kippur

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Archwilio’r cysyniad cymod yng nghyd-destun Yom Kippur

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae’r Deg gorchymyn i’w cael yn Exodus 20.1–17; daw’r gorchymyn i garu eich cymydog fel chi eich hun o lyfr Lefiticus 19.18; ac mae’r athrawiaeth am Ddydd y Cymod yn Lefiticus 16.

Gwasanaeth

  1. Yom Kippur yw’r diwrnod mwyaf bendigaid a difrif yn y flwyddyn Iddewig. Mae’n dirwyn y Deg Diwrnod o Edifeirwch i ben, y deg diwrnod a ddechreuodd ar Rosh Hashanah.

    Yn achos Iddewon, Rosh Hashanah yw’r Diwrnod Blwyddyn Newydd. Yn draddodiadol, dyma ddiwrnod o ddedfryd, pryd y mae Duw’n agor Llyfr Bywyd, lle mae popeth y mae rhywun wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn flaenorol wedi’i ysgrifennu, popeth da a phopeth drwg.

    Byddai torri un o’r Deg gorchymyn yn golygu un o’r pethau drwg yn erbyn Duw. Gorchmynion yw’r rhain sy’n sôn am garu Duw a charu pobl eraill. Maen nhw’n cynnwys: peidiwch â dwyn, peidiwch â dweud celwyddau am bobl eraill, a pheidiwch â chablu neu ddifenwi rhywun. Mae gorchmynion eraill hefyd, ond rwy’n fodlon awgrymu fod pob un ohonom yma wedi torri o leiaf un o’r gorchmynion hynny ryw dro yn ystod y flwyddyn.

    Mae bod yn greulon, neu’n ddauwynebog, yn rhywbeth sy’n gwneud cam â rhywun arall hefyd. Ac mae hynny’n cynnwys methu helpu rhai mewn angen - pethau y byddem yn dymuno bod wedi gallu eu gwneud, ond ein bod heb wneud hynny efallai am ein bod yn rhy brysur i roi amser i Dduw. Mae popeth drwg a wnawn ni yn erbyn pobl eraill yn bechod yn erbyn Duw. Gorchymyn Duw yw: ‘... yr wyt i garu dy gymydog fel ti dy hun.’

    Pechu yw troi oddi wrth Dduw a gwneud yn fwriadol rywbeth rydyn ni’n gwybod nad yw’n iawn i ni ei wneud. Neu, yn fwriadol beidio â gwneud yr hyn rydyn ni’n gwybod ei fod yn iawn.

  2. Fe fydd aelodau o’r ffydd Iddewig yn defnyddio’r deg diwrnod cyn Yom Kippur i edifarhau am eu pechodau, a cheisio gwneud iawn am y pechodau y maen nhw wedi’u cyflawni yn ystod y flwyddyn a aeth heibio. Maen nhw’n ceisio unioni unrhyw beth maen nhw wedi’i wneud o’i le. Y syniad yw eu bod yn ‘gwneud iawn’ am eu pechodau. Fe fyddan nhw’n dangos ei bod hi’n ddrwg ganddyn nhw, ac yn gofyn am faddeuant, gan gredu y bydd Duw yn maddau iddyn nhw.
     
    Os edrychwn ni ar y gair Saesneg am wneud iawn - ‘atone’ a’i rannu’n ddau, fe gewch chi, ‘at one’. Ystyr gwneud iawn, neu ‘atonement’, yw bod yn un â Duw (being ‘at one’ with God) trwy i Dduw faddau ein pechodau a’n gwneud yn gyfan. Rhan o faddau i bobl eraill yw nid dal unrhyw ddig yn eu herbyn a gwarafun pethau, ond gadael iddyn nhw ddweud ei bod hi’n ddrwg ganddyn nhw a chaniatáu iddyn nhw gael eu gwneud yn gyfan unwaith eto. 

  3. Ystyr y geiriau Hebraeg, yom kippur, yw ‘Dydd y Cymod’. Mae Yom Kippur yn dechrau pan mae’r haul yn machlud un diwrnod ac yn parhau nes bydd yr haul yn machlud y diwrnod canlynol (25 awr). Yn ystod Yom Kippur cynhelir pum gwasanaeth yn y synagog. Ar wahân i rai eithriadau, does neb yn bwyta nac yn yfed unrhyw beth o gwbl yn ystod yr oriau hynny (y rhai sy’n cael eu hesgusodi yw pobl oedrannus, pobl sy’n wael, a phlant). Mae’r diwrnod yn cael ei neilltuo ar gyfer deisebu a chyffesu euogrwydd, yn gyhoeddus (yn y synagog, o flaen pobl eraill) ac yn breifat (gartref, neu ar ben eich hun). 

    Ar ddiwedd Yom Kippur, fe fydd pawb yn ystyried ei hun wedi cael maddeuant, wedi ei ryddhau, ac wedi cael cyfle arall gan Dduw. Fe all pawb ddechrau blwyddyn arall o’r newydd, gan geisio bod yn well pobl. 

  4. Fodd bynnag, nid y bobl eu hunain sy’n gyfan gwbl gyfrifol am y dechrau newydd. Duw yw’r un sydd â’r penderfyniad terfynol ynghylch beth fydd yn digwydd yn y flwyddyn ddilynol, a sut flwyddyn fydd honno iddyn nhw. Elfen bwysig o athrawiaeth Rosh Hashanah a Yom Kippur yw bod yr holl bobl yn medi’r hyn maen nhw’n ei hau, ac mae canlyniadau i weithredoedd. Ond, fe fydd y bobl y mae Duw wedi maddau iddyn nhw’n gwybod y bydd Duw’n gallu eu helpu, beth bynnag fydd mewn stôr iddyn nhw yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.

    Ar ddiwedd Yom Kippur, fe fydd Llyfr Bywyd yn cael ei gau, a’i selio, ac fe fydd y rhai hynny sydd wedi edifarhau o ddifrif am eu pechodau yn cael Blwyddyn Newydd dda.

Amser i feddwl

Mae gwyl Yom Kippur yn dweud wrthym pa mor bwysig yw bod yn ymwybodol o sut rydyn ni’n trin pobl eraill, a sut mae hynny’n effeithio ar ein bywyd ni: neges y dylai pawb wrando arni.

Wrth bwy y dylech chi ddweud ei bod hi’n ddrwg gennych chi?

Ac a wnewch chi faddau os bydd pobl yn ymddiheuro i chi? Wnewch chi ‘ddechrau tudalen lân’, a symud ymlaen yn eich perthynas gyda’r person hwnnw?

Pa mor anodd yw hynny i chi?

Cerddoriaeth

Mae gwyl Yom Kippur yn dweud wrthym pa mor bwysig yw bod yn ymwybodol o sut rydyn ni’n trin pobl eraill, a sut mae hynny’n effeithio ar ein bywyd ni: neges y dylai pawb wrando arni.

Wrth bwy y dylech chi ddweud ei bod hi’n ddrwg gennych chi?

Ac a wnewch chi faddau os bydd pobl yn ymddiheuro i chi? Wnewch chi ‘ddechrau tudalen lân’, a symud ymlaen yn eich perthynas gyda’r person hwnnw?

Pa mor anodd yw hynny i chi?

Dyddiad cyhoeddi: Medi 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon