Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Nos Galan Gaeaf

Ystyried gwreiddiau traddodiad Noson Calan Gaeaf.

gan Jude Scrutton

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Ystyried gwreiddiau traddodiad Noson Calan Gaeaf.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae rhai Cristnogion yn annog pobl a phlant i beidio â chymryd rhan mewn dathliadau Calan Gaeaf. Cyhoeddir y gwasanaeth hwn er mwyn i’r myfyrwyr ddod i wybod hanes traddodiad Noson Calan Gaeaf, a phenderfynu drostyn nhw’u hunain wedyn beth maen nhw am ei wneud ar ddiwrnod olaf mis Hydref. Cofiwch ystyried polisi eich ysgol cyn cyflwyno’r gwasanaeth. Efallai y bydd rhai eglwysi lleol yn trefnu gweithgaredd amgen i’r digwyddiad arferol (golygydd).
  • Fe fydd arnoch chi angen gemau a gwisgoedd sy’n ymwneud â Chalan Gaeaf, er enghraifft, twco ’falau, neu unrhyw un o’r gemau sy’n dilyn. (Mae’n ddigon hawdd dod o hyd i’r rheolau trwy ddefnyddio peiriannau chwilio’r we.)

    Twco ’falau

    Twco ’falau, o bosib, yw’r gêm draddodiadol fwyaf poblogaidd sy’n ymwneud â Chalan Gaeaf. O ble y tarddodd y gêm, does neb yn siwr. Mae rhai’n dweud bod y gêm yn cael ei chysylltu â’r ddewines Rufeinig, Pomona, duwies y perllannau. Ond mae rhai eraill yn dweud ei bod hi’n bosib olrhain tarddiad y gêm i’r wyl grefyddol baganaidd Geltaidd, Samhain, pryd y byddai teuluoedd yn dod ynghyd i wledd gymunedol.

    Gêm sgramblo geiriau Calan Gaeaf
    Mae sgramblo geiriau’n hwyl, ac yn her, ac yn gêm dda i’w chwarae ar Galan Gaeaf, ac mae’n gêm sy’n profi’ch geirfa wrth i chi ei chwarae. Yn wir, mae’n bosib chwarae’r gêm hon mewn parti Calan Gaeaf yn yr ysgol, gan y bydd y plant yn sicr o fwynhau’r her. Yr hyn sy’n dda yw, yn wahanol i gemau Calan Gaeaf eraill, does dim angen llawer o le i’w chwarae, na ‘phrops’.

    Hela ysbrydion
    Fe fyddai’r gêm hon yn gêm boblogaidd gan oedolion, i’w chwarae ar Noson Calan Gaeaf. Er mwyn gallu chwarae’r gêm hon, rhaid i chi ddewis hen dy unig, a gallu cael mynediad iddo. Y mannau gorau ar gyfer y gêm hon yw hen adfail, ty sydd â stori ysbryd yn gysylltiedig ag ef, ty sydd yn ymyl rhywle sy’n gysylltiedig ag ysbrydion, ty gwag sydd â neb wedi bod yn byw ynddo ers talwm neu, wrth gwrs, fe fyddai ty sydd yn ymyl mynwent yn ddelfrydol.

    Pasio’r oren
    Mae’r gêm Pasio’r oren yn gêm y gallech chi ei haddasu ar gyfer Noson Calan Gaeaf. Mae’n gêm ardderchog ar gyfer plant bach, yn ogystal â bod yn gêm boblogaidd gydag oedolion mewn parti Calan Gaeaf. Gydag addasiadau bychain ar y pryd, mae’n bosib gwneud y gêm yn ddiddorol ac yn hwyl.

    Brathu’r afal
    Mae’r gêm brathu’r afal yn gêm addas arall y mae’n bosib ei chwarae ar Noson Calan Gaeaf. Eto, mae hon yn hwyl fawr, ac mae plant yn hoff ohoni. Mae’n rhoi cyfle i’r rhai sy’n cystadlu ennill gwobrau amrywiol. Mae hon yn amrywiad ar y gêm Twco ’falau - heb y dwr!.

    Dafaden ar drwyn y wrach
    Mae gosod y ddafaden ar drwyn y wrach yn arbennig ar gyfer plant bach, sy’n siwr o gael llawer o hwyl. Mae gwrachod bob amser yn cyfareddu plantos, o’r adeg y maen nhw’n clywed gyntaf am wrach hyll sy’n gallu bwrw swyn. Yn debyg i osod cynffon yr asyn, mae’r gêm hon yn mynd i fod yn ffefryn gan y plant bach, ac fe fydd cymryd rhan mewn gweithgaredd hwyliog fel hwn yn sicr o’u cadw’n brysur yn ystod parti Calan Gaeaf.
  • Fe fydd arnoch chi angen siart troi a phin ffelt hefyd.

Gwasanaeth

  1. Gofynnwch i’r myfyrwyr nodi eu hoff ddyddiau gwyl. (Lluniwch restr ar y siart troi.) 

    Holwch: Pa rai o’r rhain sy’n wyliau Cristnogol? Pa rai sydd ddim yn wyliau Cristnogol? Fe allai’r myfyrwyr nodi bod dathlu Calan Gaeaf yn draddodiad paganaidd neu’n anghristnogol. Dyma sail dda i ddechrau’r gwasanaeth. Mae’n bosib y bydd rhai myfyrwyr yn meddwl mai dathliad Americanaidd yw Calan Gaeaf (dyna feddyliais i!). 

  2. Hanes Calan Gaeaf

    –  Credir bod gwreiddiau dathlu Nos Calan Gaeaf yn yr wyl Geltaidd hynafol, Samhain. Roedd yr wyl hon, a oedd yn cael ei chadw ar ddiwrnod cyntaf mis Tachwedd, yn nodi dechrau’r gaeaf. Roedd y bobl yn credu y byddai’r ffordd i’r byd arall ar agor ar wyl Samhain, ac fe fydden nhw’n cynnau coelcerthi ac yn gwisgo dilladau arbennig er mwyn cadw ysbrydion draw.

    –  Yn yr wythfed ganrif, fe ddynododd y Pab Gregori III y diwrnod cyntaf o Dachwedd fel diwrnod i anrhydeddu’r holl saint a’r merthyron. Roedd yr wyl, Gwyl yr Holl Saint (All Saint’s Day) neu All Hallows, fel y gelwid hi ers talwm, yn cynnwys rhai o draddodiadau gwyl Samhain. 

    Roedd y noson cynt yn cael ei galw’n All Hallows’ Eve, a’r geiriau hynny a ddatblygodd ymhen amser i fod yn Halloween. (Dangoswch sut mae’r gair hwn wedi newid dros y blynyddoedd.)

    –  Yn yr unfed ganrif ar bymtheg, fe wnaeth y dramodydd William Shakespeare grynhoi’r teimlad poblogaidd am Galan Gaeaf yn un o’i ddramâu:

    Tis now the very witching time of night,
    When churchyards yawn and hell itself breathes out
    Contagion to this world
    .’
                                                                  o’r ddrama Hamlet 

    –  Yn ôl pob golwg , yn America y dechreuodd y syniad o ‘trick or treat’, lle mae’r dathliadau wedi troi’n rhywbeth llawer mwy masnachol gyda ffilmiau Hollywood. (Rhybuddiwch y myfyrwyr am bryderon a phroblemau curo ar ddrysau pobl ddieithr: fe allai fod yn weithred beryglus ymwneud â dieithriad, ar wahân i weithred allai amharu ar gartrefi lle mae babanod bach neu bobl oedrannus neu fregus yn byw, pobl y byddai’n hawdd eu dychryn ac a fyddai’n dioddef o gael eu blino.)

  3. Dros amser, fe ddatblygodd yr arferion Calan Gaeaf yn ddigwyddiad cymunedol seciwlar, a’i nodweddion yn canolbwyntio mwy ar y plant. 

    Mewn nifer o wledydd ledled y byd, wrth i’r dyddiau fyrhau a’r nosweithiau’n oeri, mae pobl yn dal i hebrwng misoedd y gaeaf trwy ddod ynghyd gan wisgo gwisgoedd neilltuol a rhannu melysion.

    (Rhowch gyfle i rai o’r myfyrwyr roi cynnig ar un neu ddwy o’r gemau a nodwyd ar y dechrau: gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’.)

Amser i feddwl

Meddyliwch am Nos Galan Gaeaf rydych chi wedi’i mwynhau.

Sut gallwn ni wneud Nos Galan Gaeaf eleni’n hwyl ac yn ddiogel i bawb?

Gweddi

‘Crist, ein Harglwydd,
fe ddioddefaist ti, ac fe gefaist ti dy demtio.
Mae gen ti’r nerth i helpu’r rhai hynny
y mae’r diafol yn ymosod arnyn nhw,
oherwydd ti yw’r un sy’n rhoi cefnogaeth i bob Cristion.
O Arglwydd, gwarchod gyda dy law dde
y rhai hynny sy’n ymddiried yn dy enw.
Gwared nhw rhag yr Un Drwg,
a rho iddyn nhw lawenydd tragwyddol.

Amen.’
              addasiad o weddi Sant Gregori o Khandzta (759–861)

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Chwaraewch y gerddoriaeth ‘Thriller’ gan Michael Jackson (mae’n bosib y gallech chi chwarae’r fersiwn YouTube, gyda’r fideo – ond gwiriwch yr hawlfraint)

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon