Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Estyn Am Y Ser - Ac Am Eich Barcutan!

Dathlu rhyfeddod awyr y nos, a gwaith y project ‘Reach for the Stars’ yn Afghanistan – project sy’n addysgu plant Afghanistan am seryddiaeth.

gan Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3/4

Nodau / Amcanion

Dathlu rhyfeddod awyr y nos, a gwaith y project ‘Reach for the Stars’ yn Afghanistan – project sy’n addysgu plant Afghanistan am seryddiaeth.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Darllenwch y geiriau canlynol, ac yna gofynnwch i’r myfyrwyr ydyn nhw’n gwybod am beth rydych chi’n sôn!

    Acamar
    Algol
    Beid
    Keid
    Navi

    Dywedwch eich bod, am unwaith, yn gwybod am beth rydych chi’n sôn, gan mai enwau sêr yw’r rhain.  

    –  Daw’r enw Acamar o air Arabeg yn golygu ‘pen yr afon’.
    –  Daw’r enw Algol o hen air Tsieineaidd sy’n golygu ‘pen yr anghenfil.
    –  Cafodd y seren o’r enw Navi ei henwi ar ôl enw canol y gofodwr Americanaidd Gus Grissom, a fu farw mewn tân a ddigwyddodd yn ystod profion cyn lansio’r llong ofod Apollo 1 yn ei chenhadaeth i lanio ar y lleuad. Ivan oedd ei enw canol ac, o droi’r enw y tu ôl ymlaen, fe alwyd y seren yn Navi. 

    Rhif sy’n cael ei roi’n aml ar lawer o’r sêr – amcangyfrifir bod rhagor o sêr yn y bydysawd nag sydd o ronynnau tywod ar y Ddaear.

  2. Yn achos llawer o’r sêr sydd ag enwau arnyn nhw, mae eu henwau’n nodi bod y sêr yn ffurfio rhannau o luniau a ffurfiwyd gan bobl yr hen fyd i gysylltu’r clystyrau o sêr roedden nhw’n gallu eu gweld yn yr awyr. Rydyn ni’n parhau i ddefnyddio rhai o’r lluniau hynny hyd heddiw fel ffordd o gofio patrwm a safle’r sêr. 

    (Efallai yr hoffech chi bwysleisio’r gwahaniaethau rhwng seryddiaeth (astronomy, sef gwyddor astudio’r bydysawd) ac astroleg (astrology, sef y syniad anwyddonol am y sêr a’r planedau a’u dylanwad ar fywydau pobl).)

  3. (Dangoswch y barcutan, neu dangoswch ddelweddau o rai’n hedfan barcutan.) Sut mae’n bosibl cysylltu barcudiaid â’r sêr?

    Cawn yr ateb yng ngwaith y project sydd wedi’i sefydlu yn Afghanistan, y project Reach for the Stars. Mae’r project yn ymwneud â chael plant sy’n byw yn Afghanistan - gwlad sydd wedi’i rhwygo oherwydd cynnen - i fod â diddordeb mewn seryddiaeth.

    Fe fydd aelodau o dîm Reach for the Stars yn mynd i’r ysgolion yn Afghanistan i addysgu’r plant am awyr y nos, ac fe fyddan nhw’n cynhyrchu adnoddau addysgol a phecynnau yn ymwneud â seryddiaeth, pecynnau y maen nhw’n gallu eu hanfon yn rhad ac am ddim i ysgolion, i wersylloedd ffoaduriaid, ac i gartrefi plant amddifad. Mae’r pecynnau’n cynnwys pensiliau, beiros, pinnau ffelt a phapur, cyfarpar sydd ddim ar gael i’r plant fel rheol hyd yn oed yn yr ysgolion. Yn y pecynnau, caiff  popeth ei gyflwyno a’i ysgrifennu yn yr iaith Pashto - sef iaith y plant yn Afghanistan.

    Mae tîm Reach for the Stars yn credu bod rhyfeddodau awyr y nos yn perthyn i bawb.

    Ble bynnag rydyn ni yn y byd, rydyn ni i gyd yn gweld yr un awyr, hyd yn oed os mai rhannau gwahanol ohoni y byddwn ni’n eu gweld. Dyna pam y mae gwahanol enwau ar y sêr, fel Acamar a Beid, yn dod o’r iaith Arabeg, tystiolaeth o archwiliad hynafol Islamaidd o awyr y nos a rhyfeddodau’r bydysawd.

  4. A beth am y barcudiaid rheini? Mae pobl yn Afghanistan wrth eu bodd yn hedfan barcudiaid, ac mae plant Hawaii hefyd y wrth eu bodd yn hedfan barcudiaid. Felly, er mwyn helpu i ddathlu’r syniad bod harddwch yr awyr yn perthyn i’r byd cyfan, fe drefnodd arweinwyr y project Reach for the Stars bod plant o ynys Big Island, Hawaii yn gwneud barcudiaid i’w hanfon i blant yn wrth eu bodd yn Afghanistan.

    Yn y ffordd hon, mae cysylltiad rhwng y barcudiaid a’r sêr, wrth i blant o ddau gefndir hollol wahanol ddathlu gwyddoniaeth, dathlu rhyfeddod, a dathlu’r llawenydd o hedfan barcutan!

Amser i feddwl

Mae awyr y nos yn perthyn i’r holl fyd.

Lle bynnag rydyn ni, a phwy bynnag ydyn ni, mae awyr y nos yn ein symbylu i ddysgu rhagor trwy wyddoniaeth a chelfyddyd – neu’n syml yn gwneud i ni aros ac edrych i fyny ar yr awyr a rhyfeddu.

Mae’r project ‘Reach for the Stars’ yn annog ac yn ysbrydoli plant ledled y byd, gan ddechrau yn Afghanistan.

Sut gallech chi ymateb?

Ymwneud â’r project . . . codi arian at elusen . . . dechrau trwy edrych allan ar noson glir, ac edrych ar yr awyr, a chael eich ysbrydoli?

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Os oes myfyrwyr yn y gwasanaeth sydd o Afghanistan, gofynnwch iddyn nhw baratoi cerddoriaeth ar gyfer y gwasanaeth hwn. Fel arall, chwaraewch gerddoriaeth electronig gynnar, fel ‘Oxygene’ gan Jean-Michel Jarre (ar gael yn rhwydd i’w llwytho i lawr oddi ar  y we).

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon