Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Petai A Phetasai

Ystyried grym y gair, ‘pe’.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried grym y gair, ‘pe’.

Paratoad a Deunyddiau

Ceisiwch gopi o’r gerdd ‘If’ gan Rudyard Kipling – fe allech chi baratoi un neu ddau o’r myfyrwyr i ddarllen y gerdd ar yr adeg briodol yn y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Gair bach yw ‘pe’, eto mae’n llawn ystyr.

    Pa mor aml rydych chi wedi meddwl, ‘Beth pe byddwn i?’ neu, ‘Pe bawn i ddim ond wedi . . . ?’

    -  Yn aml, fe fyddwn ni’n defnyddio’r gair ‘pe’ i nodi y gallen ni fod wedi dewis llwybr hollol wahanol, ac yn aml yn cyfeirio at bethau y bydden ni wedi dymuno eu gwneud.

    ‘Pe bawn i wedi mynd i’r cyngerdd hwnnw ....’
    ‘Pe bawn i wedi darllen y cyfarwyddiadau’n iawn ....’
    ‘Beth pe bawn i wedi dweud ie, iawn?’

    -  Mae’n gallu nodi’r gwahaniaeth rhwng derbyn sefyllfa a gwybod y gallech chi fod wedi gwneud yn well.

    Yn aml, fe fyddwn ni’n dweud, ‘Pe bawn i ddim ond wedi gwneud ... hyn a hyn.’
    ‘Pe bawn i ddim ond wedi adolygu rhagor.’
    ‘Pe bawn i ddim ond wedi gwneud ychydig bach mwy o ymdrech.’
    ‘Pe bawn i heb ddweud [neu wneud] ... y peth a’r peth.’

    Meddyliwch am amser y gwnaethoch chi ddefnyddio’r geiriau, ‘Pe bawn i ddim ond wedi’, ac yna meddyliwch sut roeddech chi’n teimlo ar y pryd.

    -  Neu, ambell dro efallai eich bod wedi defnyddio’r geiriau hanner cellweirus, hanner ingol, ‘Fel pe bai o bwys gen i!’ - ‘As if!’ yn Saesneg. Mae’n dynodi, mewn ffordd, bod yr hyn sy’n cael ei drafod, er yn ddymunol yn amhosibl neu’n annhebygol. O, ie! Fel pe tai hynny’n debygol o ddigwydd!’

    ‘Mae’r bachgen weli dy draw acw eisiau i mi fynd allan efo fo - fel pe byddwn i’n debygol o wneud hynny!’ - Mae’r geiriau bach, ‘pe bawn i’ neu’r ‘As if!’ yn rhoi cymaint o bwyslais negyddol i’r frawddeg.

  2. (Darllenwch y gerdd enwog gan Rudyard Kipling.)

    Mewn arolwg barn gan y BBC ychydig flynyddoedd yn ôl, pleidleisiwyd mai’r gerdd hon oedd hoff gerdd y genedl.

    Mae cerdd Kipling yn sôn am lawer o bethau rydyn ni’n eu cael yn anodd eu gwneud. Bwriad y gerdd oedd cyfarwyddo. Ysgrifennodd y bardd hi i’w fab ifanc, Arthur. Roedd yn meddwl y byd o Arthur. (Yn anffodus fe laddwyd Arthur yn ddiweddarach yn y Rhyfel Byd Cyntaf.)

    Efallai bod Kipling yn meddwl amdano’i hun hefyd, ac yn ceisio gweld lle’r oedd wedi cyflawni’r awgrymiadau hyn.

    Mae heriau clir y gall oedolion, pobl ifanc, a phlant eu cymryd o’r gerdd hon. Mae ynddi elfen o ansicrwydd a hefyd elfen o ‘beth petai ....’ Os gall rhywun wneud y pethau hyn i gyd, yna fe fydd yn cyflawni pethau mawr, nid yn unig mewn cymdeithas, ond hefyd o’i fewn ei hun, a dod o hyd i ffordd o dderbyn ei hun.

  3. Mae ‘Beth petai ...’ a ‘Petawn i heb ...’ yn aml yn dod ar ôl gwneud camgymeriadau y gallen ni fod wedi eu hosgoi pe bydden ni wedi bod yn fwy gofalus.

    Mae dwy linell yng ngherdd Kipling a allai fod o help i ni osgoi rhai o’r achosion hyn sy’n peri i ni edifarhau.

    If you can meet with Triumph and Disaster
    And treat those two imposters just the same
    .’

    Mae’r bardd yn dymuno i ni allu cwrdd â ‘buddugoliaeth’ a ‘thrychineb’, a thrin y ddau dwyllwr fel ei gilydd, yn yr un ffordd. Mae buddugoliaeth a thrychineb yn aml yn peri i ni fod yn fath gwahanol o bobl i’r hyn ydyn ni mewn gwirionedd. Wrth i ni fod yn fuddugoliaethus, fe fyddwn ni’n aml yn dechrau bod yn orhyderus; wrth i ni weld trychineb fe fyddwn ni’n aml yn beio ein hunain ac yn pendroni gormod ar ein methiannau.

    Nid ymwneud â chael ein siglo gan fuddugoliaeth neu drychineb y mae’r ddwy linell; maen nhw’n ymwneud â gweld ein lle rhwng y ddau beth.

    Ac maen nhw’n ymwneud â deall bod holi ‘Beth petai?' yn ffordd ddiwerth ambell dro o ystyried yr hyn y byddwn ni wedi’i wneud.

  4. Yn y gwasanaeth Hwyrol Weddi ar y Sul mewn eglwysi yn Lloegr, mae gweddi’n cael ei hadrodd sy’n cynnwys y geiriau: 

    Help us to amend what we are, 
    and direct what we shall be
    .’ 

    Efallai y dylai ddweud hefyd, ‘ ... and be rid of the “what ifs”, neu a chael gwared â’r holl beth petai’.

Amser i feddwl

Heddiw, efallai y dylen ni edrych ar y gair bach ‘pe’, ac ystyried ei ystyr sylfaenol. Ei swyddogaeth mewn brawddeg yw nodi y gallai rhywbeth neilltuol ddigwydd ar ôl i rywbeth arall ddigwydd neu ddod yn wir. 

Efallai hefyd y dylen ni geisio myfyrio ar rywbeth a ddywedodd Bertrand Russell un tro. Ei rybudd ef oedd ein bod yn aml yn meddwl ein bod yn gwybod beth yw ystyr gair, ond nad ydyn ni’n gwybod mewn gwirionedd. Y ffordd rydyn ni’n dweud gair sy’n rhoi ystyr iddo’n aml.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

If I could turn back time’ gan Aqua (ar gael i’w llwytho i lawr oddi ar  y we)

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon