Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ble Rydyn Ni'n Mynd?

Meddwl am fywyd fel taith, a holi sut y gallen ni ddod o hyd i’r llwybr iawn.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Meddwl am fywyd fel taith, a holi sut y gallen ni ddod o hyd i’r llwybr iawn.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen map, cwmpawd, teclyn sat nav, ac unrhyw beth arall y gallwch chi feddwl amdano fyddai’n cynrychioli’r syniad ein bod angen help er mwyn dod o hyd i’r ffordd iawn i rywle.
  • (Dewisol) Paratowch rai myfyrwyr i adrodd eu hanes eu hunain yn mynd ar goll (gwelwch rhif 2).

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y casgliad o eitemau sydd gennych chi fel ‘props’, a holwch beth yw’r cysylltiad rhyngddyn nhw. 

    Ydyn, maen nhw i gyd yn bethau sy’n gallu ein helpu i ddod o hyd i ble rydyn ni, ac yn bethau sy’n gallu ein helpu i ddangos y ffordd i ble bynnag rydyn ni eisiau mynd. 

  2. Tybed ydych chi wedi bod ar goll ryw dro? Wnaethoch chi golli eich rhieni yn yr archfarchnad, neu yng nghanol y dref, ryw dro? Neu, aethoch chi a’r teulu ar goll pan oeddech chi’n teithio yn y car i rywle dieithr? Neu, wnaethoch chi deimlo’n ansicr ynghylch pa ffordd i fynd adref ar ôl i chi gerdded i rywle gwahanol? 

    (Fe allech chi ofyn yma i rai o’r myfyrwyr adrodd eu hanesion eu hunain yn mynd ar goll.)

    Cyn i fapiau gael eu dyfeisio, fe fyddai morwyr yn y byd hynafol yn defnyddio’r sêr i’w helpu i deithio cefnforoedd y byd. Mae pobl ym mhob oes wedi mynd ar goll lawer gwaith wrth deithio, a phob amser wedi gweld yr angen am help pethau fel sêr, mapiau a sat navs i’w harwain. 

  3. Mae bywyd ei hun fel taith ar hyd ffordd, ffordd sydd â chroesffyrdd yn torri ar ei thraws, a chyffyrdd arni lle mae’n rhaid i chi ddewis pa ffordd i’w dilyn. Mae pwrpas ac ystyr ein bywyd cyfan yn dibynnu’n aml ar ba lwybr y byddwn yn ei ddewis.

    Ac ar ein taith trwy fywyd, fe fydd arnom ni i gyd angen rhywbeth i ddangos y cyfeiriad iawn i ni, neu i’n cyfeirio ar hyd y ffordd iawn.

  4. Fe fydd rhai ohonoch yn gwneud, neu wedi gwneud, penderfyniadau pwysig ynghylch eich dyfodol. Efallai eich bod wedi dewis pa bynciau i’w dilyn, o’r opsiynau sydd ar gael i chi, neu angen dewis pa bynciau rydych chi am eu hastudio ar gyfer Lefel A. Efallai bod rhai ohonoch yn meddwl am ba brifysgolion i’w nodi ar eich ffurflen UCAS, neu hyd yn oed yn meddwl am gymryd blwyddyn o hoe cyn mynd ymlaen â’ch addysg. 

    Yn fwy na thebyg, fe fyddwch chi angen rhywfaint o help ac arweiniad ynghylch pa lwybr y dylech chi ei gymryd, a sut i fynd o gwmpas ystyried y dewisiadau. 

    Heb amheuaeth, fe fyddwch chi’n ceisio cyngor eich rhieni, eich athrawon, ffrindiau ac eraill er mwyn dewis y cwrs sydd orau ar eich cyfer chi.

  5. Mae gan bob crefydd ei llyfr sanctaidd ei hun. Mae pob llyfr sanctaidd (y Torah yn achos Iddewon, er enghraifft, y Qur’an i’r Mwslimiaid, a’r Beibl i Gristnogion) fel map yn dangos ffyrdd, neu fel cwmpawd ar gyfer bywyd i ddilynwyr y ffydd honno. Mae’r llyfrau sanctaidd hyn yn rhoi canllawiau defnyddiol ar sut i fyw bywyd yn y ffordd orau y gallwch chi, ac yn y ffordd y byddai Duw’n dymuno i chi fyw. 

    Maen nhw nid yn unig yn trosglwyddo rheolau, maen nhw’n llyfrau da i droi atyn nhw am arweiniad ac anogaeth. Yn wir, mewn rhai Beiblau, yn y dechrau neu ar y diwedd, fe gewch chi restr o rannau penodol y gallwch chi droi atyn nhw i’w darllen os ydych chi’n methu ymdopi ag ambell broblem (ofn, pryder, dicter, amheuaeth, anobaith, ac ati).

Amser i feddwl

Y tro nesaf y byddwch yn gorfod penderfynu rhywbeth, peidiwch ag anghofio am yr holl adnoddau sydd gennych chi wrth law i’ch helpu  ac i ddangos i chi’r llwybr iawn i’w gymryd er mwyn gallu cyrraedd y man iawn.

Gweddi

Arglwydd, arwain trwy'r anialwch,Fi, bererin gwael ei wedd,Nad oes ynof nerth na bywydFel yn gorwedd yn y bedd:Hollalluog,Ydyw'r Un a'm cwyd i'r lan. (William Williams, Pantycelyn) Efallai bod rhai yn fwy cyfarwydd â’r geiriau Saesneg:

Guide me, O thou great Redeemer,

pilgrim through this barren land,

I am weak but thou art mighty,

hold me in thy powerful hand.

Bread of heaven,

Feed me now and evermore.’

          (cyfieithiad Peter Williams o eiriau William Williams)

Dad nefol,

helpa fi i weld a chlywed am y ffordd gywir i’w chymryd yn y penderfyniadau y bydd yn rhaid i mi eu gwneud heddiw ac yn y dyfodol.

Dyddiad cyhoeddi: Hydref 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon