Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Goleuni Yn Y Tywyllwch

Sul yr Adfent (Cristnogaeth); Hanukkah (Iddewiaeth)

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried y ffaith bod goleuni’n symbol allweddol, ac felly’n ffactor  sy’n uno o fewn prif grefyddau’r byd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Llwythwch i lawr wahanol ddelweddau o oleuni; fe allech chi adael iddyn nhw redeg yn y cefndir wrth i chi arwain y gwasanaeth.
  • Fe allech chi hefyd ddangos lluniau’r gwahanol symbolau y mae cyfeiriad atyn nhw yn rhif 2.

Gwasanaeth

  1. Fe fyddwn yn cael gwybod yn aml am y gwahaniaethau sydd rhwng gwahanol grefyddau. Ac fe fydd pobl yn egluro i ni mai’r gwahaniaethau hynny yw achos llawer o’r anghydfod sy’n bodoli yng ngwledydd y byd. Ddim yn aml y byddwn ni’n edrych ymhellach na hynny, ac yn ystyried yr hyn sy’n debyg yng nghrefyddau’r byd, fel sy’n cael ei amlygu yn eu tebygrwydd o ran y ffordd maen nhw’n defnyddio symbolau pwysig. 

  2. Symbol yw rhywbeth sy’n cynrychioli rhywbeth arall, rhywbeth llawer mwy fel arfer.

    Meddyliwch am y symbolau a welwch chi o’ch cwmpas o ddydd i ddydd - arwyddion ffyrdd, labeli cynllunwyr, bathodynnau clybiau pêl-droed. Neu, ystyriwch symbolau crefyddol allweddol - y groes yn achos Cristnogaeth, yr Om gan yr Hindwiaid, a seren a chilgant Islam. Fe allwch chi’n hawdd adnabod y rhain fel symbolau am eu bod yn cynrychioli rhywbeth, ac mae llawer o deimladau a meddyliau yn gysylltiedig â’r rhain.

    Un symbol cryf iawn sy’n cael ei ddefnyddio gan lawer o grefyddau yw goleuni.

  3. Gadewch i ni ddechrau gyda Christnogaeth. Mae Cristion yn credu mai Iesu yw goleuni’r byd. Mae’n cael ei weld fel y goleuni a fydd yn arwain pobl o dywyllwch i oleuni Duw. Yn ystod cyfnod yr Adfent (y pedair wythnos sy’n arwain at y Nadolig), mae Cristnogion yn meddwl am aros am ddyfodiad Crist, ac am bwysigrwydd dod allan o’r tywyllwch i’r goleuni a gweld pethau fel y maen nhw mewn gwirionedd. 

  4. Mae gan Hindwiaid a Sikhiaid eu gwyl o oleuni eu hunain, gwyl bum diwrnod o’r enw Divali pan fydd pawb yn llawenhau ym muddugoliaeth y da dros y drwg, buddugoliaeth goleuni dros y tywyllwch, a gwybodaeth dros anwybodaeth. Mae’r wyl yn cael ei dathlu trwy oleuo lampau bach clai (o’r enw divas), a chyda thân gwyllt. Fe fydd y bobl yn rhoi anrhegion a melysion i’w gilydd: mae’r wyl yn ffefryn mawr gan y plant.

  5. Mewn Iddewiaeth, mae gwyl Hanukkah yn nodi buddugoliaeth ryfeddol grwp o Iddewon (o’r enw Macabeaid) dros Roegiaid Syria - ar adeg pan oedd Groegiaid Syria’n berchen ar yr ymerodraeth fwyaf ei grym, gyda’r fyddin fwyaf, yn yr hen fyd. Ar ddiwedd rhyfel a oedd wedi parhau am dair blynedd fe lwyddodd y Macabeaid i ail-ddal Jerwsalem ac ail gysegru’r Deml i Dduw. Pan oedd y Macabeaid yn glanhau’r Deml ac yn ei gwneud yn barod i’w hailgysegru, fe ddaethon nhw o hyd i un pot o olew cysegredig heb ei agor, gyda sêl yr Uwch Offeiriad arno heb ei dorri. Ond pan ddaethon nhw i oleuo’r ganhwyllbren wyth cangen oedd yn y Deml (y menora), fe welson nhw mai dim ond digon o olew i barhau am ddiwrnod oedd ganddyn nhw. Fe wnaethon nhw oleuo’r canhwyllau beth bynnag, ond yn wyrthiol fe barhaodd y canhwyllau ynghyn am wyth diwrnod. Ar ôl hynny, fe wnaethon nhw alw’r digwyddiad yn wyrth yr olew.

  6. Hyd yn oed os nad ydych chi’n grefyddol, allwch chi ddim gwadu pa mor bwysig yw goleuni i fodau dynol. Os byddwch chi’n cael breuddwyd cas, yn blentyn neu’n oedolyn, y peth cyntaf y byddwn ni’n ei wneud yw estyn am y switsh golau er mwyn cael gwared â’r tywyllwch. Mae golau’n cael ei ystyried yn symbol o obaith. Mae’n rhoi cynhesrwydd ac amddiffyniad; heb oleuni fyddai’r bodau dynol cyntaf ddim wedi goroesi mewn llawer o’r amgylcheddau oeraidd y gwnaethon nhw gartrefu ynddyn nhw. 

  7. Pe byddech chi’n meddwl am y llyfrau roeddech chi’n eu darllen pan oeddech chi’n llai, neu rydych chi’n eu darllen ar hyn o bryd, does gen i ddim amheuaeth y byddai rhai ohonyn nhw’n siwr o fod wedi cynnwys stori am frwydr y da yn erbyn y drwg, a oedd yn cael ei disgrifio’n aml fel brwydr y goleuni yn erbyn y tywyllwch. 

    –Yn y gyfres deledu BBC, Merlin, un o’r ychydig ffyrdd o gadw’r marw neu’r Dothrak i ffwrdd yw brwydro yn eu herbyn â thân. 
    –Mae’r Dementors ym myd Harry Potter yn gallu cael eu hanfon i ffwrdd gan swyn Patronus, swyngyfaredd ddisglair llawn goleuni.
    –Yn The Fellowship of the Ring, cyfrol gyntaf trioleg The Lord of the Rings gan J. R. R. Tolkein, goleuni yw’r antithesis neu’r gwrthgyferbyniad i’r tywyllwch. Mae Galadriel, brenhines y corachod, yn rhoi i Frodo ffiol fach risial oedd yn tywynnu, ffiol oedd yn cynnwys goleuni gwyn seren ddisglair. Mae hon ar gyfer amser, meddai, ‘pan fydd pob goleuni arall yn diffodd’. 

  8. Felly cofiwch pan fyddwch chi’n rhoi eich bys ar y switsh i oleuo ystafell, neu’n goleuo cannwyll, neu’n edrych ar fflamau tân agored, rydych chi’n troi at un o’r symbolau pwysicaf un yn achos crefydd ac yn achos dynoliaeth. Er bod llawer o wahaniaethau rhwng gwahanol grefyddau, yn eu dealltwriaeth o arwyddocâd goleuni, dydyn nhw ddim mor wahanol â hynny yn y pen draw.

Amser i feddwl

Goleuwch gannwyll, a gadewch i’r myfyrwyr edrych ar y golau. Os yw hynny’n bosib, trowch bob golau arall i lawr.

Gweddi

Dduw ein Harglwydd,

diolch i ti am oleuni, ac am yr hyn oll y mae’n ei olygu i ni.
Mewn adegau tywyll, gad i ni fod fel goleuni i’r rhai hynny sydd mewn angen.
Gad i’n gwên a’n cariad a’n gofal oleuo bywydau ein gilydd heddiw.

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon