Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dwy Fedal Victoria Cross, Er Na Wnaeth Danio'r Un Ergyd

Sul y Cofio

gan Guy Donegan-Cross

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Adrodd stori Noel Chavasse, y milwr o adeg y Rhyfel Byd Cyntaf a wnaeth arddangos ei ffydd trwy ddewrder ar y llinell flaen.

Paratoad a Deunyddiau

  • Os hoffech chi gael delweddau o Noel Chavasse, ar ffurf fideo sy’n para am tua munud, ewch i’r wefan: www.youtube.com/watch?v=Dl8Dx-ofgUE
  • Fe allech chi greu ffilm ddolennog o’r delweddau i’w chwarae drosodd a throsodd fel cefndir i’r stori.

Gwasanaeth

  1. Noel Chavasse oedd yr unig ddyn yn y Rhyfel Byd Cyntaf i dderbyn dwy fedal Victoria Cross, yn ogystal â nifer o fedalau eraill. (Caiff y fedal Victoria Cross ei chyflwyno am ddewrder eithriadol ar faes y gad.)

  2. Roedd Noel Chavasse yn fab i esgob Lerpwl. Meddygaeth oedd y pwnc a astudiodd yng Ngholeg y Drindod Rhydychen, ac fe aeth yn ei flaen a phasio’n llawfeddyg. Yn 1913, fe ymunodd â’r Royal Army Medical Corps.

    Roedd hefyd yn athletwr. Yn y Gemau Olympaidd yn 1908, roedd ef a’i frawd, a oedd yn efell iddo, yn cynrychioli Prydain yn y ras 400 llath (400 metr). 

    Pan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914, fe gynigiodd wasanaethu yn Ffrainc, ac roedd yn aelod o’r gatrawd  Liverpool Scottish Regiment, fel is-gapten a llawfeddyg - Surgeon-Lieutenant. Golygai hyn ei fod yn swyddog gyda dyletswyddau milwrol yn ogystal â bod yn llawfeddyg.

    Ym mis Tachwedd 1914, anfonwyd ei gatrawd i’r Ffrynt Orllewinol (Western Front, sef llinell flaen y frwydr yng ngwlad Belg a Ffrainc).

    Mae nifer o’r llythyrau a anfonodd Noel Chavasse adref yn parhau i fod ym meddiant aelodau ei deulu. Mae’r llythyrau yn dangos cymaint o waith oedd yn ei wneud yn gofalu am ei ddynion, ac fel y byddai’n ymgyrchu er eu mwyn i geisio cael cyfleusterau iddyn nhw ymolchi ac i gael gwared a llau o’u pen. Ac fe wnaeth waith arloesol o ddefnyddio chwistrelliadau rhag tetanws yn achos milwyr oedd wedi eu hanafu er mwyn lleihau’r risg o heintiad yn deillio o’r anafiadau a’r briwiau.

    Roedd hefyd yn frwdfrydig iawn ynghylch pa mor bwysig oedd darparu gofal ysbyty a chyfnod gwella i unrhyw filwr a oedd yn dangos arwyddion o’r hyn y bydden ni’n ei adnabod heddiw fel  chwalfa nerfau neu nervous breakdown. Roedd ymhell o flaen ei amser wrth ddelio ag achosion o’r fath. Yn y dyddiau hynny roedd milwyr a fyddai’n dioddef o’r hyn a gai ei alw bryd hynny’n shell shock yn cael eu hystyried yn llwfr ac yn wanllyd. Mae’n debyg i’r agwedd hon ar ei waith rwystro Noel rhag cael dyrchafiad yn ei swydd.

  3. Felly, sut yr enillodd Noel Chavasse ei fedalau?

    Ym mis Mawrth 1915, fe gymrodd ei gatrawd ran yn yr  ymosodiad yn Ypres yn Ffrainc, lle cafodd nwy gwenwyn ei ddefnyddio am y tro cyntaf. Erbyn mis Mehefin 1915 dim ond 142 o ddynion allan o’r 829 o ddynion a gyrhaeddodd yr un pryd â Chavasse oedd yn parhau i fod ar ddyletswydd weithredol. Roedd y gweddill wedi eu lladd neu wedi eu hanafu’n ddifrifol. Gofynnodd Noel am gramoffon i’r dynion (efallai y bydd rhaid i chi egluro beth yw gramoffon).

    Ym mis Mehefin 1915, bu ei gatrawd yn ymladd ym Mrwydr Hooge, yng ngwlad Belg. Er mai gwaith y cynorthwywyr swyddogion meddygol oedd chwilio am y dynion oedd wedi eu hanafu yn nhir neb (y rhanbarth anial rhwng llinell flaen yr Almaenwyr a llinell flaen y cynghreiriaid) yn ystod y nos, fe fyddai Noel yn mynd yn rheolaidd i’r ardal honno i chwilio am filwyr a oedd wedi’u hanafu. Am y gweithredoedd dewr hyn a wnâi yn ychwanegol at ei waith meddygol o ddydd i ddydd y cafodd Noel Chavasse ei wobrwyo â’r fedal Military Cross.

    Ym mis Gorffennaf 1916, symudwyd ei gatrawd i ardal y Somme, yn Ffrainc. Ym mis Awst 1916, derbyniodd y gatrawd orchymyn i symud ymlaen yn erbyn tref Guillemot. Fe wnaethon nhw ddioddef colledion mawr gan golli chweched ran o’u llu mewn pedwar ymosodiad. Allan o’r 600 o ddynion, anafwyd 167, ac fe anafwyd neu fe laddwyd 17 o swyddogion yn ystod y weithred hon yn unig.

    Y diwrnod cyntaf, fe ofalodd Noel am y rhai oedd wedi eu hanafu, allan yn y man agored yng nghanol y tanio parhaus, a hynny’n aml yng ngolwg y gelyn. Yn ystod y noson honno fe dreuliodd bedair awr yn chwilio am y rhai oedd wedi eu hanafu ar y tir yn union o flaen llinell y gelyn. Cafodd ei anafu ei hun wrth i ddarnau o siel ei daro yn ei gefn. Er gwaethaf hynny, fe ddaliodd ati’r diwrnod wedyn gyda’i waith meddygol, a mynd hefyd i’r ffosydd blaen a chario milwr oedd wedi’i anafu’n ddifrifol i ddiogelwch tua 500 i ffwrdd. Yr ail noson, fe aeth a pharti o 20 o wirfoddolwyr gydag ef a mentro i dir neb gan basio o fewn 20 metr i linell flaen yr Almaen er mwyn achub tri dyn arall oedd wedi’u hanafu. Ar ben hynny, yng nghanol cawodydd bwledi gynnau’r gelyn fe lwyddodd i gladdu cyrff dau swyddog oedd wedi’u lladd, a chasglu sawl disg adnabod. Am hyn, fe gyflwynwyd ei fedal Victoria Cross gyntaf i Noel Chavasse. Mae’r dyfyniad swyddogol yn nodi, ‘His courage and self-sacrifice were beyond praise.’

    Oherwydd ei archollion ei hun, fe dreuliodd gyfnod mewn ysbyty, ond wedi iddo wella roedd yn benderfynol o fynd yn ei ôl at ei uned ar y llinell flaen. Ymhen blwyddyn wedyn, bron, ar 31 Gorffennaf 1917, yn ystod Trydedd Frwydr Ypres, symudodd y fyddin Brydeinig ymlaen. Tra roedd yn gweithio yn yr orsaf glirio i’r anafedig cafodd Noel ei daro yn ei ben gan ddarn o siel, a chollodd lawer o waed. Roedd pryder y gallai asgwrn ei benglog fod wedi cracio. Rhwymwyd ei friwiau ond fe wrthododd Noel gael ei gludo oddi yno.

    Am ddau ddiwrnod, fe fynnodd fynd i faes y gad, gan achub a thrin milwyr oedd wedi cael eu hanafu, a pharhau i weithio mewn amgylchiadau peryglus heb orffwys a heb fwyta ac yntau’n teimlo’n wan iawn oherwydd ei anafiadau ei hun hefyd. Fe lwyddodd i achub llawer o filwyr a fyddai wedi marw fel arall. Am hyn, fe gyflwynwyd iddo’r ail fedal Victoria Cross.

  4. Am dri o’r gloch y bore ar 2 Awst, tra roedd yn ceisio gorffwys ychydig, fe ddisgynnodd siel ar y man lle’r oedd Noel yn gweithio. Fe laddwyd neu fe anafwyd pawb oedd yno’n ddifrifol. Anafwyd Noel yn ddrwg iawn, roedd ganddo bedwar neu bump o archollion, a’r anaf mwyaf oedd archoll agored yn ei stumog. Fe lwyddodd i lusgo’i hun o’r twll ymochel i dwll ymochel arall. Anfonwyd am help meddygol a chafodd lawdriniaeth i geisio gwella’i archollion. Ond ymhen dau ddiwrnod, am 1 o’r gloch bnawn Sadwrn, 4 Awst 1917, bu farw Noel yn dawel.

Amser i feddwl

Ar garreg fedd Noel Chavasse mae’r geiriau canlynol, geiriau a lefarodd Iesu: ‘Greater love hath no man than to lay down his life for his friends.’ (Nid oes gan neb gariad mwy na hyn, sef bod rhywun yn rhoi ei einioes dros ei gyfeillion.) Doedd dim posib cael geiriau mwy addas i’w rhoi ar garreg fedd y dyn dewr hwn, Noel Chevasse, a oedd yn Gristion. Fe ddangosodd trwy ei weithredoedd faint oedd ei ymrwymiad i Grist, a faint oedd ei gariad tuag at eraill.

Mae llawer o bethau’n debyg yn stori Noel Chevasse a stori Iesu.

-  Roedd Noel yn ofalgar tuag at ei gyd-filwyr - gofalai am eu triniaeth feddygol ac am eu hamodau byw. 

-  Fe frwydrodd Noel ar ran rhai a oedd yn dioddef - y milwyr rheini a oedd yn dioddef o shell-shock ac a oedd yn cael eu cyhuddo o fod yn llwfr. 

-  Fe gondemniodd bobl grefyddol a oedd yn siarad llawer ond yn gwneud dim.

-  Fe roddodd fywyd pobl eraill yn gyntaf o flaen ei fywyd ei hun, ond nid mewn modd kamikaze hunanddinistriol ychwaith. Roedd newydd ddyweddïo, a doedd Noel ddim eisiau marw. Ond pan ddeuai’r angen roedd yn gallu bod yn ddewr iawn.

Gweddi

Mewn ysbaid o dawelwch, cofiwch y rhai hynny a fu farw mewn rhyfel. 

(Saib)

Arglwydd,

rydyn ni’n diolch bod Noel Chavasse wedi caru eraill gyda’r un dewrder ag a ddangosaist ti ar y groes. 

Gad i ni fod â’r dewrder i roi ein hunain er mwyn helpu eraill, hyd yn oed pan fydd hynny’n golygu ymdrech fawr iawn.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Gwrandewch ar gerddoriaeth Elgar, Enigma Variations, ar gael yn rhwydd i’w llwytho i lawr oddi ar y rhyngrwyd

Dyddiad cyhoeddi: Tachwedd 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon