Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Traddodiadau'r Nadolig: Torchau Nadolig

Dysgu am darddiad yr arferiad, a beth yw symbolaeth torch gelyn y Nadolig.

gan The Revd John Challis

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3
  • Ysgolion Eglwys

Nodau / Amcanion

Dysgu am darddiad yr arferiad, a beth yw symbolaeth torch gelyn y Nadolig.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen torch gelyn - o ddewis un wedi ei gwneud o gelyn ffug, ond bydd un o ddail celyn go iawn yn gwneud y tro lawn cystal.
  • Daw'r dyfyniad o Lythyr Paul, 1 Corinthiaid 9.24.

Gwasanaeth

  1. Dywedwch wrth y myfyrwyr eich bod chi, flynyddoedd yn ôl, yn arfer bod yn cwl ac yn ffasiynol. Dywedwch wrthyn nhw eich bod chi’n meddwl eu bod nhw’n cwl nawr. Pan oeddech chi’n ifanc doedd o ddim yn beth cwl iawn i gredu yn y Nadolig. Fe fyddai anffyddwyr ac agnostigiaid bob amser yn dweud mai gwyl baganaidd oedd y Nadolig.

    Mae pobl yn dal i ddathlu’r Nadolig hyd heddiw, ond mae llawer yn gwneud hynny heb wybod yn iawn beth yw gwir ystyr yr wyl. Mae llawer o draddodiadau sy’n parhau ers canrifoedd a phobl yn dal i’w cadw heb wybod pam yn aml. Fel gyda’r dorch gelyn hon!

  2. Dangoswch y dorch gelyn, a gofynnwch i’r myfyrwyr ble byddech chi’n gallu gosod hon. Yr ateb mwyaf amlwg mae’n debyg fyddai ar ddrws ffrynt eich ty. Efallai, am hwyl, y byddai rhywun yn awgrymu eich bod yn ei rhoi ar eich pen. Os bydd y myfyrwyr yn rhy gwrtais i awgrymu hynny, yna gosodwch chi’r dorch ar eich pen.

    Tra bydd y myfyrwyr yn edrych yn chwilfrydig arnoch chi, neu’n chwerthin gyda chi, fe allech chi awgrymu eich bod yn edrych yn cwl gyda’r dorch am eich pen. Fe allwch chi holi ai dyma’r lle y dylai torch gelyn gael ei gwisgo. Pan fydd y myfyrwyr yn ymateb trwy ddweud na, dywedwch eu bod yn rhannol gywir. Yn wir, dyna ble dylai torch o ddail gael ei gwisgo - ar y pen - ond nid torch o ddail celyn ychwaith.

    Cyfeiriwch at y Gemau Olympaidd, a dywedwch fod y Pencampwyr yn y Chwaraeon Olympaidd gwreiddiol yn cael eu hanrhydeddu â thorch o ddail (torch o ddail olewydden ar y dechrau a dail llawryf wedyn) er mwyn dangos eu buddugoliaeth. Ac am y pen yr oedd y dorch yn cael ei gwisgo bryd hynny.

  3. Ond pam rydyn ni’n addurno ein cartrefi gyda thorchau o ddail celyn ar adeg y Nadolig? A pham eu gosod ar y drws? Fel gyda llawer o draddodiadau’r Nadolig, mae tarddiad yr arferiad yn ansicr, ac yn aml yn mynd yn ôl i arferion ac ofergoelion pobl cyn cyfnod Cristnogaeth.

    Yn yr hen oes, roedd y pren celyn yn bren pwysig iawn yng ngogledd Ewrop, ac mae sôn amdano mewn llawer o chwedlau. Roedd y Celtiaid yn meddwl bod y dail pigog yn amddiffyn rhag ysbrydion drwg, ac roedd y dail yn cael eu gosod ganddyn nhw ar y drws i warchod y cartref rhag melltith gwrachod a diafoliaid.

    Yng ngolwg y Derwyddon, roedd dail bythwyrdd yn arwydd o fywyd tragwyddol.

    Yn achos y Rhufeiniaid, roedd y pren celyn yn gysylltiedig â’r duw Sadwrn. Yn ystod yr wyl ganol gaeaf, Satwrnalia, roedd celyn yn gynwysedig ymysg y pethau a gai eu hoffrymu i’r duw Sadwrn.

  4. Mae’n ymddangos bod y traddodiad o gael torchau celyn fel symbolau Cristnogol yn ystod yr Adfent (y pedair wythnos sy’n arwain at y Nadolig) wedi dechrau yn yr Almaen yn yr unfed ganrif ar bymtheg ymysg aelodau’r Eglwys Lutheraidd. 

    Roedd y cylch a’r dail pigog yn atgoffa pobl am goron ddrain Iesu pan gafodd ei groeshoelio, a’r aeron coch yn eu hatgoffa o’r dafnau gwaed. 

    Mae’r dail bythwyrdd yn cynrychioli bywyd tragwyddol a enillwyd i ni gan fuddugoliaeth Iesu pan drechodd angau ar y groes.

  5. Y dyddiau hyn, fe fydd teuluoedd Cristnogol yn rhoi torch ar ddrws ffrynt eu tai fel arwydd o fuddugoliaeth Iesu. Ei enedigaeth oedd dechrau’r fuddugoliaeth y byddai’n ei hennill dros bopeth sy’n ddrwg yn ein byd. 

    Yn nhymor y Nadolig, rydyn ni nid yn unig yn gosod torchau ar ddrysau ond hefyd ar feddau. Mae’r dorch ar adeg y Nadolig fel arwydd y groes. 

  6. Pan ysgrifennodd Paul at y bobl yng Nghorinth, fe ddywedodd, ‘Oni wyddoch am y rhai sy’n rhedeg mewn ras, eu bod i gyd yn rhedeg, ond mai un sy’n derbyn y wobr? Felly, rhedwch i ennill.’ Rhedwch ras bywyd – rhedwch ac enillwch y fuddugoliaeth. 

  7. (Gosodwch y dorch ar eich pen.) Pan fyddwch chi’n gweld torch, efallai na fyddwch yn ei gosod ar eich pen, ond fe fyddwch chi’n gwybod ei bod yn cynrychioli buddugoliaeth a gwaredigaeth oddi wrth bob drwg, buddugoliaeth y mae Cristnogion yn credu y mae Iesu wedi ei hennill oherwydd yr hyn a ddigwyddodd iddo ar y groes.

Amser i feddwl

Dydd Nadolig yw un o ddyddiau hapusaf y flwyddyn; meddyliwch am yr holl bethau rydych chi’n gobeithio a fydd yn digwydd y Nadolig yma.

Sut gallech chi gyfrannu i wneud y diwrnod yn un llwyddiannus iawn i bawb o’ch teulu?

Gweddi

Bydded i ras ein Gwaredwr Iesu Grist fod gyda ni,

a chariad diderfyn Duw ein Tad,

a bydded i’r Ysbryd Sanctaidd fod gyda ni hefyd,

bob un ohonom, y Nadolig hwn.

Cerddoriaeth

Emyn neu Garol

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon