Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

El Sistema

Egluro beth yw gwaith y cynllun El Sistema, y rhaglen gerddoriaeth i bobl ifanc sy’n byw yn Venezuela, ac annog y myfyrwyr i ymwneud â grwpiau a phrojectau cymunedol.

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Egluro beth yw gwaith y cynllun El Sistema, y rhaglen gerddoriaeth i bobl ifanc sy’n byw yn Venezuela, ac annog y myfyrwyr i ymwneud â grwpiau a phrojectau cymunedol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Paratowch ddarn o gerddoriaeth glasurol i’w chwarae wrth i’r myfyrwyr ddod i mewn i’r gwasanaeth.
  • Gallwch ddod i wybod mwy am El Sistema wrth edrych ar y wefan:  elsistemausa.org

Gwasanaeth

  1. Beth yw eich barn am gerddoriaeth glasurol?

    Rwy’n gweld rhai ohonoch chi’n ysgwyd eich pen. Nid dyna’ch dewis chi. Pam tybed?

    Efallai oherwydd y math o offerynnau cerdd sy’n cael eu defnyddio - dim gitâr drydan, na gitâr fas, peiriannau drymiau, na syntheseiddwyr.

    Efallai mai oherwydd bod cerddoriaeth glasurol yn gerddoriaeth offerynnol yn bennaf. A hyd yn oed pan fydd geiriau’n cael eu canu, fe fydd y rheini’n aml mewn Eidaleg neu Ladin.

    Efallai mai oherwydd bod y math o gerddoriaeth yn gysylltiedig â phobl hyn yn hytrach nag â phobl ifanc.

    Efallai mai oherwydd eich bod yn teimlo bod y math o gerddoriaeth yn elitaidd. Nid yw’n rhywbeth y mae pawb yn gallu cymryd rhan ynddo am ei fod yn rhy ddrud ac yn rhy gymhleth.

  2. Mae José Antonio Abreu yn credu bod cerddorfa glasurol mewn gwirionedd, yn cynrychioli’r gymdeithas ddelfrydol. Mae mewn cerddorfa nid yn unig harmoni ond hefyd ysbryd tîm a chydlyniad, cyd-gefnogaeth a chydymdeimlad a dealltwriaeth. Mae’n pwysleisio bod cerddorfa glasurol yn gallu mynegi teimladau mwyaf aruchel, ac mae’n credu bod pobl ifanc yn gallu profi’r gwirioneddau hyn. Yn fwy na hynny, mae ganddo dystiolaeth i brofi hynny.

    Economegydd a cherddor yw José, o wlad Venezuela. Nid yw Venezuela’n un o’r gwledydd cyfoethocaf yn Ne America. Ac mae gan y wlad ei siâr o broblemau cymdeithasol ymysg yr ieuenctid yno - camddefnyddio cyffuriau, torcyfraith, ac mae nifer y rhai sy’n peidio â mynd i’r ysgol yn uchel iawn yn y cymunedau trefol tlawd.

    Dros 30 mlynedd yn ôl, fe luniodd José gynllun peilot o’r hyn a elwir yn El Sistema (y System) er mwyn mynd i’r afael â’r math yma o broblemau.

  3. Rhaglen hyfforddi gerddorol yw El Sistema, sy’n gweithredu ledled y wlad yn Venezuela. O oedran mor ifanc â dwy neu dair oed, mae rhai’n cymryd rhan mewn sesiynau grwp yn seiliedig ar weithgareddau’n ymwneud ag offerynnau taro syml, canu recorders a chymryd rhan mewn sesiynau canu lleisiol. Erbyn mae’r plant yn saith oed maen nhw wedi datblygu sgiliau rhythm a melodi, ac felly’n barod i ddewis offeryn llinynnol neu offeryn chwyth i’w ganu. Maen nhw’n derbyn hyfforddiant arbenigol ac  maen nhw’n datblygu eu gallu trwy addysgu’r naill a’r llall.

    Efallai bod hyn yn swnio’n gyfarwydd i lawer ohonoch chi sy’n cael gwersi offerynnol yn yr ysgol, ond mae rhai gwahaniaethau sylfaenol.

    Yn gyntaf, mae El Sistema’n rhad ac am ddim i’r plant - mae’n cael ei ariannu gan y llywodraeth, felly nid yw’n beth elitaidd. Mae unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan yn gallu gwneud hynny.

    Yn ail, mae pawb yn perfformio y rhan fwyaf o’r amser. Does dim cyfle i deimlo’n nerfus ynghylch chwarae o flaen pobl eraill neu o flaen cynulleidfa. Mae’n beth naturiol i berfformio. Caiff y gerddoriaeth ei chreu er mwyn y gynulleidfa ac er mwyn y chwaraewyr eu hunain.

    Yn drydydd, bydd y sesiynau grwp yn cael eu cynnal sawl gwaith yr wythnos, felly mae’r plant yn llai tebygol o anghofio’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu’r tro cynt.

    Yn olaf, nid yw’n orfodol i’r plant fynychu. Mae ganddyn nhw ddewis cymryd rhan ai peidio. Dydyn nhw felly ddim yn cael eu gwthio gan eu rhieni a’u gorfodi i gymryd rhan mewn rhywbeth dydyn nhw ddim eisiau ei wneud. Yn wir, ychydig iawn o ddiddordeb sydd gan rai o’r rhieni.

    O ganlyniad, mae cyfradd y presenoldeb yn uchel, ac mae nifer fawr o blant yn cymryd rhan. Maen nhw’n mwynhau bod yno. Yn fwy na hynny, yn y mannau lle mae El Sistema’n bodoli, mae’r gweithwyr cymdeithasol a’r gwleidyddion yn nodi bod lleihad mawr mewn achosion o droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ymysg y bobl ifanc, ac mae cyswllt cymunedol cryf yno.

  4. Beth mae hyn yn ei ddweud wrthym ni? Ydw i’n awgrymu y dylai pob un ohonoch chi fod yn rhan o gerddorfa’r ysgol? Efallai y gallech chi, ond dim ond un enghraifft yw hynny. 

    Yr hyn rydw i’n ei awgrymu yw eich bod yn cymryd rhan mewn rhyw weithgaredd, a’ch bod yn cymryd golwg eang ar yr hyn sydd ar gael ar eich cyfer. 

    Wrth i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn rhywbeth, rydych chi’n mynd i’r afael â’r hyn, yn fy marn i, yw prif achos problemau sy’n dod i ran rhai pobl ifanc – sef diflastod. Os nad oes gan bobl ifanc rywbeth i’w wneud, mae’n ddigon hawdd iddyn nhw lithro i’r mannau llwyd. 

    Efallai nad ydych chi’n serennu yn y gweithgareddau, efallai dydyn nhw ddim yn apelio’n fawr atoch chi ar yr olwg gyntaf, ond ddylai hyn ddim eich rhwystro rhag cymryd golwg ar beth sydd ar gael, a rhoi cynnig arni – pa un ai chwarae offeryn cerdd, nofio cydamseredig, loncian neu ymuno â chlwb fyddai’r gweithgaredd hwnnw (ychwanegwch chi eich enghreifftiau eich hunan o weithgareddau yn eich cymuned leol). 

  5. Beth sydd yn hyn i chi? Mae gobaith da i chi wneud ffrindiau, dysgu sgiliau newydd a phrofi bodlonrwydd o berfformiad, neu lwyddiant grwp. Byddwch yn llenwi’ch amser a chewch gyfle i gadw draw oddi wrth y pethau hynny dydych chi ddim yn wir eisiau ymwneud â nhw. Ac wrth gwrs, yn ben ar y cyfan, rydych chi’n mynd i ennill hyder.

Amser i feddwl

Meddyliwch am weithgaredd, neu nifer o weithgareddau, neu am broject cymunedol y gallech chi ei ystyried.

Sut gallwch chi ddod i wybod mwy?

Mae rhai aelodau o El Sistema wedi dod yn berfformwyr rhyngwladol. Dychmygwch beth allai ddigwydd yn eich achos chithau hefyd.

Gweddi

Arglwydd Dduw,

diolch i ti am y cyfleoedd sydd gennym ni i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr ysgol hon ac yn ein cymuned.

Gad i mi ddefnyddio fy nychymyg wrth wneud fy newisiadau.

Helpa f i lenwi fy amser gyda phleser a phwrpas.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Defnyddiwch y darn o gerddoriaeth glasurol a ddewiswyd gennych chi i’w chwarae wrth i’r myfyrwyr ddod i mewn i’r gwasanaeth.

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon