Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Anrheg Annisgwyl

Ydyn ni’n barod am anrheg y Nadolig?

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried sut rydyn ni’n delio â’r pethau annisgwyl sy’n digwydd adeg y Nadolig, a holi ydyn ni’n barod i ryfeddu at yr anrheg a roddodd Duw i ni, sef Iesu Grist.

Paratoad a Deunyddiau

  • Lluniwch eich rhestr Nadolig ddychmygol.
  • Dewiswch gyfieithiad modern o’r Beibl er mwyn cael y darlleniadau ar gyfer yr ‘Amser i feddwl’.
  • Dewiswch dri darllenydd.

Gwasanaeth

  1. Oes gennych chi restr Nadolig? Dyma fy un i (chwifiwch ddalen o bapur sy’n nodi eich rhestr ddychmygol). Tybed beth sydd ar eich rhestr chi? 

    Fe fyddwn ni’n llunio rhestr Nadolig am ein bod eisiau cael rhywfaint o reolaeth dros yr hyn y byddwn ni efallai’n ei dderbyn fel anrhegion ar ddydd Nadolig. Ydych chi’n hoffi cael anrhegion sy’n ‘syrpreis’? Beth yw’r peth gwaethaf gawsoch chi erioed fel syrpreis? (Efallai yr hoffech chi roi enghraifft o’ch profiad personol, neu annog y myfyrwyr i sôn am eu profiadau nhw.)

  2. Pan fyddwn ni’n cael anrheg, does dim byd gwaeth na chael rhywbeth annisgwyl sy’n achosi embaras i chi wrth ei agor. Mae teimlad fel pe byddai rhywbeth yn suddo yn eich stumog ar adegau felly, wrth i ni sylweddoli beth yw’r anrheg. Fe fyddwn ni’n ceisio gwenu ac yn ceisio diolch yn y ffordd orau bosib. Os mai dilledyn yw’r anrheg, mae’n rhaid i ni wisgo’r peth hwnnw, ac fe fyddwn ni’n ofni i rai wneud hwyl am ein pen os byddan nhw’n gwybod sut rydyn ni’n teimlo mewn gwirionedd. 

    Mae anrhegion syrpreis yn gallu bod yn embaras weithiau, yn enwedig os oedden ni’n disgwyl derbyn rhywbeth hollol wahanol. 

  3. Yn achos Cristnogion, mae’r Nadolig yn ymwneud â’r anrheg a roddodd Duw i’r byd pan anfonodd ei fab, Iesu, fel baban bach. Fe ddaeth y baban hwn fel tipyn o syrpreis i lawer un. 

    Mae Cristnogion yn credu bod Mair, mam Iesu, yn wyryf pan glywodd ei bod yn mynd i gael babi. Roedd yn syrpreis mawr iawn iddi ddarganfod ei bod yn feichiog.

    Roedd yn syrpreis i Joseff hefyd. 

    Cafodd y bugeiliaid syndod pan ddangosodd yr arddangosfa ddisglair sain-a-golau iddyn nhw bod angen iddyn nhw fynd ar eu hunion i Fethlehem i weld y baban Iesu. 

    Sylwodd y doethion ar seren newydd annisgwyl yn awyr y nos, ac roedd hyn yn peri syndod iddyn nhw. 

    A chafodd Herod, y brenin yn Jerwsalem ar y pryd, syrpreis enfawr pan glywodd fod baban wedi ei eni, ac mai hwnnw oedd gwir frenin Israel. 

  4. A yw stori’r Nadolig yn llawn syndod i ninnau hefyd, neu a ydyn ni’n meddwl ein bod yn gwybod beth sy’n ynghlwm â’r holl ddathlu? 

    Mae’r rhan fwyaf ohonom yn gallu canu rhai o’r carolau, ac yn gallu adrodd rhai rhannau o’r stori am y baban, y bugeiliaid a’r doethion. Rydyn ni’n meddwl ein bod yn gwybod yr hanes, ac rydyn ni’n disgwyl y bydd rhywfaint o syrpreis mewn stôr i ni yn ystod gwyl y Nadolig. 

  5. Sut byddwch chi’n ymateb i syrpreisys? Mae’n bosib i chi gladdu anrheg Nadolig sy’n peri embaras i chi mewn cwpwrdd neu ddrôr ac anghofio amdano. Neu, fe allech chi fynd â’r eitem i siop elusen. Neu hyd yn oed ei roi yn y bin neu’r bin ailgylchu.

    Yn anffodus, dyna sut mae llawer o bobl yn trin gwir stori’r Nadolig hefyd. Mae yno yn rhywle yn y cefndir, neu o’r golwg, a fyddwn ni ddim yn gwneud llawer o sylw o’r stori. Yn wir, fe fydd rhai’n fwriadol yn osgoi mynd i wasanaeth carolau, ddim yn prynu cardiau Nadolig crefyddol, nac yn gwylio rhaglenni teledu a fydd ag Iesu’n ganolog iddyn nhw. Yn hytrach, fe fydd y rhan fwyaf o bobl yn dewis canolbwyntio ar fwyta, yfed, a chael eu diddanu.

    Tybed ai oherwydd bod arnom ni ofn y byddwn ni’n cael rhywfaint o syrpreis?

Amser i feddwl

Gwrandewch ar y tri darlleniad byr canlynol. Rhagfynegiadau ydyn nhw am y person y byddai’r baban Iesu’n tyfu i fyny i fod.

Darllenydd 1  ‘Meddai’r angel wrthi, “Paid ag ofni, Mair, oherwydd cefaist ffafr gyda Duw; ac wele, byddi’n beichiogi yn dy groth ac yn esgor ar fab, a gelwi ef Iesu. Bydd hwn yn fawr, a Mab y Goruchaf y gelwir ef; rhydd yr Arglwydd Dduw iddo orsedd Dafydd ei dad, ac fe deyrnasa ar dy Jacob am byth, ac ar ei deyrnas ni bydd diwedd.”’ (Luc 1.30-33)

Darllenydd 2  ‘Yna bendithiodd Simeon hwy, a dywedodd wrth Fair ei fam, “Wele, gosodwyd hwn er cwymp a chyfodiad llawer yn Israel, ac i fod yn arwydd a wrthwynebir; a tithau, trywenir dy enaid di gan gleddyf; felly y datguddir meddyliau calonnau lawer.”’ (Luc 2.34-35)

Darllenydd  3  ‘A daeth y Gair yn gnawd a phreswylio yn ein plith, yn llawn gras a gwirionedd; gwelsom ei ogoniant ef, ei ogoniant fel unig Fab yn dod oddi wrth y Tad.’ (Ioan 1.14)

Dydw i ddim yn gallu dweud fy mod i’n deall beth mae’r geiriau’n ei olygu yn union. Maen nhw’n dod fel rhywfaint o syrpreis. Mae angen meddwl tipyn am eu hystyr.

Dyna’r peth am stori’r Nadolig. Os ydyn ni’n fodlon cymryd golwg fanylach arni, fe fydd y stori’n dweud rhywbeth gwahanol wrthym ni – rhywbeth am Dduw, rhywbeth amdanom ni ein hunain, a rhywbeth am y ffordd orau o fyw ein bywydau.

Felly, y Nadolig hwn, beth am i chi dreulio ychydig o amser yn darllen trwy’r stori’n dawel i chi eich hun, a byddwch yn barod i gael syrpreis.

Gweddi

Annwyl Dduw,

diolch i ti am y Nadolig, am y mwynhad ac am y cynnwrf.

Gad i ni gymryd rhan o ddifrif yn y gweithgareddau,

nid yn ddiofal a difeddwl.

A gad i ni gael ein rhyfeddu gan stori’r Nadolig.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Y gerddoriaeth ‘Human’ gan The Killers (ar gael mewn sawl lle i’w llwytho i lawr oddi ar y rhyngrwyd)

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon