Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

X-Factor Y Nadolig

Ystyried y gwir ‘rywun enwog’ sydd y tu ôl i ddathliadau’r Nadolig.

gan Tim and Vicky Scott

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried y gwir ‘rywun enwog’ sydd y tu ôl i ddathliadau’r Nadolig.

Paratoad a Deunyddiau

Fe allech chi lwytho i lawr gerddoriaeth y ddwy record sengl  sy’n cael eu crybwyll yn adran, a chwarae’r recordiad wrth i’r myfyrwyr ddod i mewn i’r gwasanaeth, ac wrth iddyn nhw fynd allan. Y ddwy gân yw: ‘Cannonball’, yn cael ei chanu gan y grwp Little Mix, a ‘Wherever you are’, yn cael ei chanu gan y Military Wives gyda Gareth Malone.

Gwasanaeth

  1. Chwaraewch y record sengl gan y rhai a enillodd gystadleuaeth yr X Factor y llynedd - Little Mix - a holwch y myfyrwyr ydyn nhw’n cofio ai dyma’r record oedd ar frig y siartiau adeg y Nadolig. Yr ateb - na. Y gân oedd ar y brig oedd ‘Wherever you are’, yn cael ei chanu gan gôr gwragedd y milwyr, y Military Wives, gyda Gareth Malone.

    Mae’n dymor yr X Factor eto. Fe fu cystadleuwyr gobeithiol o fannau ledled Prydain yn breuddwydio am gael mynd i Lundain i lansio’u gyrfa a chael newid eu bywyd am byth. Ac, fel gyda’r diarhebol Marmite, rydyn ni naill ai’n caru’r gystadleuaeth neu’n ei chasáu!

  2. Yn ogystal â bod yn adeg rowndiau terfynol byw cystadleuaeth  The X Factor, mae mis Rhagfyr i lawer un yn adeg pan fydd y tymor ysgol newydd hwnnw, a ddechreuodd ym mis Medi, yn raddol ddod i ben. Ac efallai eu bod yn dechrau meddwl am y tymor nesaf a’r gwyliau a ddaw ar ddiwedd hwnnw wedyn. Yn achos rhai pobl, aelodau o’ch teulu chi efallai, fe all heddiw hon fod yn ddiwrnod arall o ddiweithdra neu’n ddiwrnod arall yn yr un hen swydd undonog ddiflas.

    Mae Cristnogion yn credu mai i’ch sefyllfa chi, beth bynnag yw’r sefyllfa honno, y bydd Iesu’n dod eto gyda’i bresenoldeb bywiol i’ch galw chi o’r newydd.

  3. Ar ryw bwynt yn ystod y dydd heddiw, pan fyddwch chi’n gwneud eich gwaith cartref efallai, neu’n golchi’r llestri, neu’n siopa am anrhegion Nadolig, beth am i chi oedi a threulio moment neu ddwy yn meddwl am Iesu?

    -  Adeg y Nadolig, mae Cristnogion yn dathlu nid yn unig enedigaeth Iesu, ond hefyd y ffaith ei fod wedi tyfu i fyny ac wedi lansio gweinidogaeth a newidiodd fywydau, ac sydd wedi gadael ei ôl ar filiynau ar filiynau o fywydau trwy gydol hanes y ddwy fil o flynyddoedd diwethaf. Ydych chi wedi ystyried o gwbl pam y mae Iesu yn rhywun enwog sydd wedi parhau i fod yn fyd-enwog am yr holl amser?

    -  Ydych chi’n gwybod i ble’r aeth Iesu i lansio’i weinidogaeth, gweinidogaeth a barodd am dair blynedd? Nid Jerwsalem, y brifddinas brysur, nid i’r Deml lle’r oedd y rhai fyddai’n cyfateb i bobl fel Simon Cowell a Gary Barlow ac eraill tebyg i’w cael, ond i ogledd y wlad lle’r oedd bywyd yn cael ei ystyried yn llai ‘pwysig’. Fe aeth Iesu at y bobl gyffredin, oedd yn gwneud gwaith cyffredin fel pysgota, ac at y bobl oedd yn byw bywyd syml iawn. Fe ddaeth i’w bywyd a’u gwaith dydd i ddydd a gweithio ochr yn ochr â nhw, a threulio amser gyda nhw.

    Mae Efengyl Ioan, yn y Beibl, yn cyfeirio at Iesu fel pennaf ffordd Duw o gyfathrebu â dynoliaeth - fel y ‘Gair’, ac mae’n dweud: ‘A daeth y gair yn gnawd a phreswylio yn ein plith, yn llawn gras a gwirionedd; gwelsom ei ogoniant ef, ei ogoniant fel unig Fab yn dod oddi wrth y Tad.’ (Ioan 1.14).

Amser i feddwl

‘... tu hwnt i’r Iorddonen, Galilea’r cenhedloedd; y bobl oedd yn trigo mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr, ac ar drigolion tir cysgod angau y gwawriodd goleuni.’ (Mathew 4.15–16a).

Mae gan ein cymdeithas heddiw obsesiwn ynghylch enwogrwydd a ‘selebs’. Mae cylchgronau, gwefannau a rhaglenni teledu’n mynnu rhoi i ni ddarluniau o fywydau pobl gyfoethog ac enwog. Dychmygwch sut byddai pethau pe bai rhywun enwog yn symud i fyw i’ch cymdogaeth chi - fe fyddai camerâu teledu ym mhob man, y paparazzi’n gwersylla ar garreg y drws, a phawb am y gorau’n ceisio cael cip ar y ‘seleb’. 

Mae Cristnogion yn credu ffaith ryfeddol iawn: bod mab Duw ei hun, brenin y bydysawd, wedi dod yn fod dynol ac wedi dod i fyw gyda ni – fe ddaeth i fyw i’n cymdogaeth ni i ddangos i ni faint mae Duw’n ein caru ni – bob un ohonom – hyd yn oed os nad ydyn ni’n gyfoethog nac yn enwog yng ngolwg y byd

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Chwaraewch un o’r caneuon a gyrhaeddodd y brig yn y gystadleuaeth The X Factor, neu unrhyw hoff garol Nadolig.

 

Dyddiad cyhoeddi: Rhagfyr 2012    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon