Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ludiaid

Archwilio hanes a chefndir y Ludiaid, a dysgu gwersi ynghylch sut rydyn ni’n byw heddiw gyda thechnoleg sy’n newid bywydau.

gan Gordon Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3/4

Nodau / Amcanion

Archwilio hanes a chefndir y Ludiaid, a dysgu gwersi ynghylch sut rydyn ni’n byw heddiw gyda thechnoleg sy’n newid bywydau. 

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Holwch oes rhywun wedi clywed sôn am y ‘Ludiaid’ neu’r ‘Luddites’, a holwch beth yw ystyr y gair Ludiad. 

    Caiff ei gysylltu'n aml â rhywun sy'n anfodlon symud gyda'r oes, ac sy'n dal gafael yn yr hen ffyrdd traddodiadol o wneud pethau. Bron bob amser caiff ei ddefnyddio fel ffurf watwarus, negyddol. Felly, gall unrhyw un sy'n gwrthod anfon e-bost neu drydar gael ei alw'n Ludiad. 

  2. Ddau gan mlynedd yn ôl, ar 2 Ionawr 1813, fe agorodd yr achos yn erbyn 66 o bobl yn Efrog. Roedden nhw'n cael eu cyhuddo o ddinistrio peiriannau gwehyddu mecanyddol a oedd yn cael eu defnyddio i gynhyrchu tecstilau. 

    Prin wythnos yn ddiweddarach, ar 9 Ionawr, cafodd 17 ohonyn nhw'u dienyddio. Trawsgludwyd eraill i Awstralia. Roedd y dienyddiadau trwy grogi yn olygfa gyhoeddus. Rhoddwyd cryn sylw i sicrhau bod y dyrfa yn gallu gweld y bobl 'beryglus' hyn yn cael eu lladd.

  3. Felly, pwy oedd y Ludiaid a pham y maen nhw'n cael eu cofio hyd yn oed heddiw gyda'r term ‘Ludiaid’?

    Yn y flwyddyn 1813, roedd Prydain yng nghanol rhyfel hir a chostus yn erbyn Ffrainc. Roedd yn gyfnod anodd. Roedd tlodi a newyn yn beth cyffredin. Roedd gwrthdystiadau cyhoeddus. Mynnai'r gwrthdystwyr gyflogau gwell i weithwyr; ymatebodd yr awdurdodau â thrais. 

    Fe benderfynodd y gweithwyr diobaith, newynog, ymosod ar y ffatrïoedd ac ar y peiriannau oedd, iddyn nhw, wedi cymryd eu swyddi oddi arnyn nhw. Lledaenodd y protestiadau fel tân gwyllt, gan greu panig yng ngweddill y wlad, ac fe amlhaodd y straeon am fyddin o weithwyr, milisia cyfrinachol, a oedd yn cael ei harwain gan un Cadfridog Ludd, ac a oedd yn benderfynol o ddinistrio’r gymdeithas oedd ohoni ar y pryd.

    Ac felly, fe ddaeth y gwrthdystwyr hyn yn adnabyddus fel Ludiaid ar ôl ei harweinydd. Roedd perchnogion y ffatrïoedd wedi eu cythruddo ac yn ofnus. Adroddwyd bod rhai hyd yn oed wedi adeiladu lleoedd amddiffynnol oddi mewn i'w ffatrïoedd i ymguddio ynddyn nhw pe byddai ymosodiad.

  4. Fe ledaenodd y stori'n gyflym am dyrfa wyllt, dreisgar yn cael ei harwain gan gadfridog cyfrwys. Ond beth yw'r ffeithiau? 

    Fe achosodd y Ludiaid ddifrod i beiriannau. Fe wnaethon nhw roi rhai ffatrïoedd ar dân. Ond daeth y rhan fwyaf o'r trais o du'r awdurdodau yn eu hymdrechion i atal y 'fyddin gudd ddychrynllyd' hon. 

    Ym mis Ebrill 1812, ymosododd dwy fil o wrthdystwyr ar felin ger Manceinion. Gorchmynnodd y perchennog ar ei ddynion i saethu at y dorf. Cafodd tri o'r Ludiaid eu lladd ac anafwyd deunaw ohonyn nhw. Lladdwyd o leiaf bump arall gan filwyr y diwrnod canlynol.

    Yn eu gwrthdystiadau, roedd y Ludiaid yn arddel rhyw fath ar ddull doniol, gwatwarus. Roedden nhw'n ymddangos fel eu bod yn erbyn y ffordd yr oedd y byd yn gweithio, y ffordd yr oedd newidiadau yn cael eu gorfodi arnyn nhw. Gorymdeithiodd y dynion mewn dillad merched, hyd yn oed, gan alw eu hunain yn 'wragedd y Cadfridog Ludd'.

    Ond y ffaith fwyaf rhyfeddol un am y Ludiaid yw nad oedd y fath gymeriad â’r Cadfridog Ludd yn bod.  Er gwaethaf yr honiadau gan bobl ofnus eu bod wedi ei weld, cymeriad ffug ydoedd! Daeth yr enw ‘Ludd’ o enw gweithiwr ffatri ifanc, a oedd 22 mlynedd yn gynharach, wedi torri peiriant yn ei ddicter pan gafodd ei waith ei feirniadu.  Roedd y stori wedi cael ei hymestyn fel yn y diwedd doedd neb yn gwybod yn iawn beth oedd y ffeithiau cywir, ond yn sicr doedd yna ddim Cadfridog Ludd.

  5. Mae tynged ddychrynllyd y gweithwyr gafodd eu crogi a'u trawsgludo yn dangos i ni'r hyn all ddigwydd pan ddaw newidiadau mawr i'n bywydau, pethau nad oes gennym ni reolaeth drostyn nhw. Mae ofn yn gafael yn rhywun, dicter yn ffrwydro, a thrais yn dilyn - ar y naill ochr a'r llall. 

    Yn ystod yr unfed ganrif ar hugain mae'r byd yn newid yn gyflymach nag ar unrhyw adeg o'r blaen. A allwn ni ddysgu byw'n gytûn gyda'r newid, a pheidio â gadael iddo ein dinistrio ni? 

    A allwn ni osgoi creu mythau am ein gelynion, storïau sydd yn gwneud dim ond cynyddu ein hofnau?

Amser i feddwl

Pa wersi sy'n amlygu eu hunain i chi yn stori'r Ludiaid?

Ydych chi'n deall dicter y gweithwyr?

Ydych chi'n cydymdeimlo â'r awdurdodau a pherchnogion y ffatrïoedd yn eu hofn o fyddin y Cadfridog Ludd?

Ydych chi'n gweld sut y gall achlust ledaenu a chreu gelyn dychmygol?

Beth sydd yn newid yn eich bywyd chi, ac y mha ffordd yr ydych chi’n dygymod â'r newid hwnnw?

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon