Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Buddugoliaeth 'Google Earth'!

Defnyddio stori Saroo Munshi Khan er mwyn meddwl am ddyfalbarhad a phwysigrwydd y teulu.

gan Ronni Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Defnyddio stori Saroo Munshi Khan er mwyn meddwl am ddyfalbarhad a phwysigrwydd y teulu. 

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae’r stori’n seiliedig ar erthygl yn y cylchgrawn Vanity Fair, Tachwedd 2012.

  • Fe fydd arnoch chi eisiau darllenydd i ddweud stori Saroo.

  • Byddwch yn sensitif, oherwydd fe allai’r gwasanaeth godi cwestiynau, yn enwedig yn achos plant sydd wedi cael eu mabwysiadu neu sydd mewn gofal.

Gwasanaeth

  1. Arweinydd  Pe byddech chi'n gwybod eich bod wedi cael eich mabwysiadu pan oeddech chi’n blentyn, pa mor bell fyddech chi'n fodlon mynd i ddarganfod eich teulu biolegol? Gwrandewch ar y stori wir hon.

  2. Darllenydd  Cefais fy ngeni yn India, ac roedd fy nheulu yn dlawd iawn. Mor dlawd yn wir fel nad oedden ni'n mynd i'r ysgol - roedd fy nau frawd hyn, Guddu and Kullu, yn gweithio i gynnal ein mam, fy chwaer fach Shekila a mi. 

    Arweinydd  Treuliodd Guddu ei ddyddiau’n chwilio am sborion ar drenau a fyddai’n teithio o le i le. Byddai'n mynd ar drên a byddai'n chwilio ym mhob man arni am dameidiau o fwyd y byddai'n gallu eu rhannu, neu bethau y byddai'r teithwyr wedi eu gadael ar eu hôl ac y byddai'n gallu eu gwerthu. Weithiau byddai'n cael hyd i ddarnau o arian! Ond oherwydd bod y trenau'n aml yn teithio'n bell, byddai i ffwrdd o gartref am ddyddiau lawer.

    Darllenydd  Un diwrnod, pan oeddwn i’n bump oed, aeth Guddu â mi gydag ef.  Fe wnaethon ni neidio ar drên lleol oedd â chut ieir arni. Fe wnaethon ni stwffio'r wyau hynny i fyny'n crysau, ond yna fe welodd y gwarchodwyr ni, ac fe gawsom ni ein gwahanu. Er na allwn i ddarllen nac ysgrifennu, fe allwn i gofio'r ffordd yn ôl adref, ac fe gerddais ar draws y ddinas ar ben fy hun, gyda'r wyau nad oedd wedi torri.

    Fe ddechreues i deithio ymhellach oddi cartref yng nghwmni Guddu.

    Un noson, fe aethon ni i'r orsaf i weld beth fydden ni'n dod o hyd iddo. Fe wnaethon ni deithio am ddwy awr, ac yna roedd hi'n nos, felly fe wnaethon ni ddal y trên adref, ac fe wnes i syrthio i gysgu.

    Y diwrnod wedyn, pan wnes i ddeffro, roedd y trên yn parhau i deithio. Doedd dim sôn am Guddu. Roeddwn i ar fy mhen fy hun - heb arian, heb fwyd, a dim syniad i ble roedd y trên yn mynd. Wyddwn i ddim ychwaith beth oedd enw'r dref roeddwn i'n byw ynddi.  Roeddwn i'n bum mlwydd oed ac ar goll yn llwyr.

    Arweinydd  Yn y diwedd, fe gafodd Saroo ei hun yn y ddinas enfawr, Calcutta. Am wythnosau, fe deithiodd i mewn ac allan o'r ddinas, yn gobeithio y byddai'n cael hyd i'r ffordd adref ond ni lwyddodd. Yn y diwedd, cafodd ei hun mewn canolfan plant, yng ngofal Cymdeithas Indaidd ar gyfer Nawdd a Mabwysiad.  

    Yn y cartref plant amddifaid, cafodd Saroo ddillad glân a'i ddysgu sut i ddefnyddio cyllell a fforc. Yn y diwedd, cafodd ei fabwysiadu gan John a Sue Brierley, cwpl oedd yn byw yn Tasmania, Awstralia. Fe wnaethon nhw roi cartref cariadlon iddo a gofalu'n dyner amdano. Fe aeth i'r brifysgol a dechrau gweithio ar gwmni gwefan ei rieni.

    Darllenydd  Eto, roeddwn yn gwybod fod gen i deulu arall yn rhywle, fy nheulu biolegol. Felly, fe wnes i benderfynu ceisio dod o hyd iddyn nhw.

    Arweinydd  Mae India yn wlad enfawr, ac ni wyddai Saroo hyd yn oed enw ei dref enedigol. Ond fe wyddai'n fras faint gymerodd y trên i gyrraedd Calcutta. Ac felly, gan ddefnyddio lluniau ar ‘Google Earth’, fe ddechreuodd edrych ar ysgubiad o gylch y teithiau trên, gan edrych ar nodweddion y trefi gwahanol.

    Darllenydd  Ac yna, fe welais i'r lle! Yr afon gyda rhaeadr, y seidins trên, y bont a'r tanc diwydiannol - roedden nhw'n gyfarwydd i mi – roedden nhw’n sillafu’r gair ‘cartref’. Roeddwn i'n gwybod mai hwn oedd y lle. Fe gefais hyd i glipiau fideos ar 'YouTube' ac yna grwp 'Facebook' o'r dref. 

    Arweinydd  
    Yn y diwedd, 25 mlynedd ar ôl iddo adael, cafodd Saroo ei hun yn ôl yn India. Teithiodd i'r dref, yna rhedodd i'w hen gartref.  Ond doedd ei fam ddim yno. 

    Darllenydd  Fe wnes i gyfarfod â dyn mewn oed, ac roedd yn adnabod fy mam! Roedd hi wedi dod yn Fwslim ac wedi newid ei henw, ac roedd hi wedi symud ty. Fedrwn i ond prin siarad fy mamiaith, ond rywfodd roedd o wedi deall pwy oeddwn i'n chwilio amdani!

    Arweinydd  Cafodd Saroo ei arwain gan y dyn i dy cyfagos. Cododd gwraig oedrannus ei golygon i fyny, gwelodd Saroo, a'i gymryd i'w breichiau, dan grio. 

    Cafodd Saroo ei ail-gyflwyno i'w deulu biolegol, dair blynedd ar ôl iddo ddechrau chwilio amdano.

Amser i feddwl

Beth ydych chi'n ei werthfawrogi fwyaf?

Eich ffrindiau? Eich teulu? Eich ffôn newydd? Eich lle yn yr ysgol?

Pa mor werthfawr yw eich teulu i chi? Cymaint fel eich bod yn chwilio amdanyn nhw am dair blynedd?

Gweddi
Arglwydd Dduw,
diolch i ti am deuluoedd –
teuluoedd biolegol
teuluoedd mabwysiedig
teuluoedd meithrin
llys-deuluoedd –
yr holl bobl sy'n gofalu amdanom, a'r
rhai rydyn ni’n eu caru.
Helpa ni bob amser i fod yn werthfawrogol
o'r bobl sy'n ein caru ni, ac sy'n gofalu amdanom ni.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon