Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Diwedd Y Byd

Oes gennych chi ‘restr bwced’ (bucket list)?

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Gwasanaeth Blwyddyn Newydd sy’n annog y myfyrwyr i feddwl am beth sy’n eu hysgogi a beth sy’n gyrru eu bywydau ymlaen.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae clip o gyfweliad newyddion, sy’n para dau funud, i’w gael ar y rhyngrwyd – cyfweliad gyda Alice Pyne. Fe fyddai’n ychwanegu’n sylweddol at y gwasanaeth pe byddech chi’n gallu chwarae’r clip i’r myfyrwyr. Ewch i’r wefan:  www.itv.com/news/granada/2012-08-21/terminally-ill-teenager-completes-her-bucket-list/.
  • Gwiriwch wybodaeth ddiweddar am Alice.
  • Paratowch ddarllenydd os nad ydych am ddefnyddio’r clip.
  • Mae dameg y dyn cyfoethog hunanol i’w chael yn Efengyl Luc 12.16–21.

Gwasanaeth

  1. O, wel, rydyn ni i gyd yn dal yma felly?

    (Saib)

    Onid oedd y byd i fod i ddod i ben ychydig cyn y Nadolig? Yn ôl calendr Hir Gyfrif Mesoamericanaidd, roedd amser yn dod i ben ar 21 Rhagfyr 2012. Ond wnaeth o ddim. Fe aeth pawb ati i ddathlu'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd yn union fel arfer. Dyna ryddhad!

    Cyn i ni fynd yn rhy hunanfodlon, fodd bynnag, mae gen i ychydig o newydd drwg. Mae rhai arbenigwyr sy'n honni bod y calendr flwyddyn allan ohoni. Mewn ffaith, mae'r byd yn mynd i ddod i ben yn y flwyddyn 2013. Yn fwy na hynny, mae NASA, Asiantaeth Ofod Gogledd America, wedi cyflwyno rhybudd am weithgaredd anarferol ar yr haul ymhellach ymlaen eleni. Bydd y ddaear yn cael ei tharo â chwa o fflerau'r haul yn ystod yr hyn sy'n cael ei adnabod fel y 'solar maximum'. Mae yna berygl o blacowt electronig a dinistr o holl ffynonellau grym trydanol. Efallai y dylem ni ddechrau cynllunio ar gyfer hyn. 

  2. Pe byddech yn gwybod mai cyfnod cyfyngedig o amser sydd gennych i fyw, beth fyddech chi'n cynllunio'i wneud? Dyma stori un glaslanc.

    (Chwaraewch y clip o eitem newyddion Granada (gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’), neu defnyddiwch y sgript sy’n dilyn.)

    Darllenydd
      Cafodd Alice Pyne ddiagnosis nifer o flynyddoedd yn ôl fod ganddi afiechyd terfynol. Er mwyn iddi beidio â digalonni, fe anogodd ei mam iddi wneud rhestr o bethau yr oedd yn awyddus i'w gwneud cyn i'w bywyd ddod i ben. Roedd y rhestr yn cynnwys cyfarfod 'Take That', mynd i weld morfilod, nofio gyda siarcod a chynllunio mwg Emma Bridgewater i'w werthu ar gyfer elusen. Ei nod mwyaf uchelgeisiol, fodd bynnag, oedd annog mwy o bobl i ychwanegu eu henwau ar gofrestr mêr esgyrn. Hyd yn hyn, mae hi wedi annog 40,000 o bobl i gymryd y cam hwnnw.

    Mae rhai o'r profiadau ar restr Alice yn bethau i roi mwynhad personol iddi. Rwy'n siwr y gallai llawer ohonom feddwl am leoedd yr hoffem ni ymweld â nhw, enwogion yr hoffem ni gyfarfod â nhw neu sgiliau yr hoffem ni eu dysgu pe bydden ni ag ychydig o amser ar ôl.

    Ond mae Alice hefyd wedi ystyried anghenion pobl eraill, yn neilltuol yn y dyfodol. Mae ei mwg Emma Bridgewater ar gael i chi i'w brynu, a bydd hynny'n parhau i godi arian ar gyfer elusen ar ôl i Alice farw.

    Yn fwy arwyddocaol hyd yn oed, mae hi wedi cynyddu'r posibilrwydd o ymestyn bywyd llawer mwy o ddioddefwyr sydd â'r un cyflwr meddygol â hi. Mae'r bobl hynny sydd wedi rhoi eu henwau ar gofrestr mêr esgyrn yn gallu darparu adnodd meddygol a fydd yn ymestyn neu'n arbed bywydau pobl ymhell i'r dyfodol.

  3. Dydw i ddim yn bersonol yn coelio fod y byd yn mynd i ddod i ben eleni, felly fydda i ddim yn paratoi rhestr bwced ar gyfer yr un mis ar ddeg nesaf - (saib) - er efallai na fyddai'n ddrwg o beth i nodi rhai blaenoriaethau personol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

    Mae rhai sy'n awgrymu y dylem yn wir fyw pob dydd o'n bywyd fel pe byddai hwnnw’r diwrnod olaf sydd gennym i’w fyw.

    Fe fydd rhai pethau ar fy rhestr ar gyfer 2013 yr wyf yn awyddus i'w gwneud er mwynhad i mi fy hun (efallai yr hoffech chi gynnig rhai enghreifftiau). Ond beth am ystyriaethau eraill?

    Mae'r Iesu’n adrodd stori am ddyn cyfoethog oedd yn meddwl am ddim ond ei fwynhad ei hun.  Roedd yn mynd i 'fwyta, yfed a bod yn hapus'. Doedd o'n meddwl dim am bobl eraill.  Bu farw'r dyn yn gynt nag yr oedd wedi disgwyl ac fe ddaeth wyneb yn wyneb â Duw. Fe gafodd ei wneud i deimlo'n euog iawn am fod mor hunanol.

    Dydw i ddim eisiau cyrraedd diwedd 2013 a theimlo'n euog oherwydd fy mod yn edrych yn ôl a sylwi pa mor hunanol roeddwn i wedi bod. Felly, fe fyddaf yn ceisio cynnwys rhai uchelgeisiau a fydd yn cymryd anghenion pobl eraill i ystyriaeth. (efallai yr hoffech chi gynnig enghraifft.)

Amser i feddwl

Felly beth amdanoch chi? Beth ydych chi eisiau ei gyflawni eleni – ar eich cyfer eich hun, ac ar gyfer eraill? Gadwch i ni gymharu ein nodiadau ymhen 12 mis.

Gweddi

Annwyl Dduw,

diolch i ti am y rhodd o bob diwrnod newydd, bob wythnos newydd, bob mis newydd, a blwyddyn newydd.

Helpa fi i ddychmygu beth y byddwn i’n debygol o allu ei brofi,

beth fyddwn i’n debygol o allu ei gyflawni,

pwy y byddwn i’n debygol o’i gyfarfod yn y dyfodol,

a beth fyddai’r budd y gallen ni ei roi i’r naill a'r llall.

Emyn

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Forever young’ gan Bob Dylan

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon