Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bugeiliaid Y Stryd

Codi ymwybyddiaeth am waith Bugeiliaid y Stryd.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Codi ymwybyddiaeth am waith Bugeiliaid y Stryd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Ymateb eglwys gyd-enwadol yw Bugeiliaid y Stryd i broblemau trefol neu ddinesig. Mae Bugeiliaid y Stryd yn ymwneud â phobl ar y stryd, yn gofalu, yn gwrando ac yn sgwrsio â nhw. Fe allwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar y wefan: www.streetpastors.co.uk/

  • Fe fydd arnoch chi angen: 
    brwsh bach a phadell lwch
    pâr o fflip-fflops
    blanced ffoil neu, os nad oes un ar gael, fe fyddai llun un yn gwneud y tro
    hefyd llun o fugail neu fugeiliaid stryd wrth eu gwaith

  • Byddwch yn barod i gyflwyno’r darlleniad, neu gofynnwch i rywun arall baratoi ar gyfer darllen y darn o Efengyl Mathew 25.34–40 (gwelwch yr adran ‘Amser i feddwl’).

Gwasanaeth

  1. Yn ôl yn yr 1970au, roedd rhaglen deledu o’r enw What’s My Line? lle roedd panel o dri yn gorfod dyfalu beth oedd gwaith cystadleuydd. Roedd hawl gan bob un ar y panel i ofyn ychydig o gwestiynau, ond dim ond ‘Yes’ neu ‘No’ fyddai’r cystadleuydd yn cael ei roi fel ateb. Wrth gwrs, po fwyaf anghyffredin oedd yr alwedigaeth hawddaf yn y byd oedd hi i’r cystadleuydd ennill. 

    Efallai y gallech chi feddwl am swydd fyddai’n anodd iawn i’r panel ddyfalu beth yw hi. Beth am sommelier – swyddog gwin mewn bwytai arbennig, neu lanhawr tanc siarcod neu hyd yn oed gasglwr mwydod?

  2. (Dangoswch yr eitemau sydd gennych chi yn y drefn maen nhw wedi eu rhestru uchod.)

    Fe allech chi ofyn i dri myfyriwr ofyn cwestiwn yr un i chi er mwyn eich holi am y swydd sydd gennych chi mewn golwg yma. Byddwch chithau’n gallu rhoi atebion o ‘Ie’ neu ‘Na’ iddyn nhw wrth iddyn nhw geisio dyfalu’r swydd. (Bugail Stryd)

    Efallai yr hoffai myfyrwyr sy’n byw mewn ardal lle mae bugeiliaid stryd yn weithredol, ac sydd wedi nodi’r swydd, egluro i chi pam fod y gweithwyr hyn yn defnyddio’r eitemau sydd gennych chi wrth wneud eu gwaith. 

  3. Fel arfer, mae Bugeiliaid Stryd yn gweithio ar nos Wener a nos Sadwrn, o tua 11 o’r gloch y nos hyd 4 o’r gloch y bore. Yn eu gwaith, fe fyddan nhw’n cerdded strydoedd y dref neu’r ddinas lle mae pobl yn ymgynnull yr adeg honno o’r nos ar ôl bod mewn parti neu glwb efallai. 

    (Dangoswch y brwsh bach a’r badell lwch.)

    Pan fydd Bugeiliaid y Stryd yn gweld poteli neu wydrau wedi torri, a’r rheini wedi eu gadael ar y palmant neu’r ffordd, fe fyddan nhw’n codi’r gwydr gyda’r brwsh a’r badell lwch ac yn ei roi mewn bin neu’n cael ei wared.

    (Dangoswch y fflip-fflops.)

    Pan fyddan nhw’n gweld merched ifanc yn droednoeth, ac efallai’n cario’u hesgidiau sodlau uchel (am fod eu traed y brifo gormod i wisgo’r esgidiau ddim mwy), fe fydd Bugeiliaid y Stryd yn rhoi pâr fflip-fflops iddyn nhw am ddim i’w gwisgo am eu traed.

    (Dangoswch y flanced ffoil.)

    Yr adeg hon o’r flwyddyn, mae hi’n oer iawn yn y nos, ac mae llawer o bobl sydd wedi mynd allan am noson dda heb fod wedi gwisgo digon o ddillad amdanyn nhw. Mae’n hawdd iawn dioddef o hypothermia, yn enwedig os yw rhywun wedi yfed gormod o alcohol. Pan fydd Bugeiliaid y Stryd yn sylwi ar rywun sydd mewn perygl o fynd i stad o hypothermia, fe fyddan nhw’n gallu cynnig un o’r blancedi hyn iddyn nhw. 

  4. Fe fydd Bugeiliaid y Stryd yn gallu trefnu tacsi i rai gael eu cludo adref, neu dendio ar rai sy’n sâl neu’n wedi colli cyswllt â'u hamgylchedd; yn gallu tawelu sefyllfaoedd allai fod yn fflamychol, ac yn gyffredinol yn gallu bod yn ffrind i unrhyw un sydd angen gofal yr adeg honno o’r bore, a’i helpu. 

    Caiff y bugeiliaid hyn eu monitro gan yr heddlu, ac mae’n rhaid iddyn nhw ddilyn 50 awr o hyfforddiant mewn sawl maes, o gymorth cyntaf i reoli gwrthdaro ac amddiffyn plant.

    Mae’n bosib eu hadnabod oddi wrth eu gwisg – siaced a het sydd â’r geiriau ‘Street Pastors’ arnyn nhw. (Dangoswch lun o Fugail neu Fugeiliaid Stryd.) 

  5. Gwirfoddolwyr yw pob un o’r Bugeiliaid Stryd. Mae llawer ohonyn nhw dros 60 oed, a llawer ohonyn nhw ag wyrion ac wyresau eu hunain. Ac maen nhw’n bobl sy’n dod o bob math o wahanol gefndiroedd. 

    Pam maen nhw’n dymuno gwneud y gwaith hwn? Mae llawer o bobl ifanc yn gofyn y cwestiwn hwn iddyn nhw! Fel arfer yr ateb fydd – am eu bod eisiau gofalu am bobl eraill. Mae pob un o’r bugeiliaid yn Gristnogion a fyddai’n dweud eu bod ddim ond yn gwneud yr hyn y byddai Iesu eisiau iddyn nhw ei wneud, cerdded lle byddai ef wedi cerdded, gan gynnig help a chyfeillgarwch i’r bobl y mae’n eu caru. Fe allech chi ddweud bod Bugeiliaid y Stryd yn ‘Eglwys weithredol ar y strydoedd’. 

  6. Fe fydd cyfeillgarwch yn datblygu, ac mae llawer o bobl ifanc yn enwedig yn ddiolchgar iawn am gonsyrn a gofal y bugeiliaid hyn sydd o ddifrif yn ofalgar tuag atyn nhw ar yr adegau pryd y gallen nhw fod yn fwy bregus neu’n fwy agored i niwed nag arfer.

    Nododd un cofnod diweddar ar Facebook, ‘Can anyone tell me how I woke up this morning wearing a pair of purple and yellow striped flip-flops of all things?’

    Mae’n amlwg bod Bugeiliaid y Stryd wedi bod ar waith yn rhywle y noson flaenorol!

Amser i feddwl

Myfyriwch ar y geiriau canlynol o Efengyl Mathew 25.34-40: ‘Yna fe ddywed y Brenin wrth y rhai ar y dde iddo, “Dewch, chwi sydd dan fendith fy Nhad, i etifeddu’r deyrnas a baratowyd i chwi er seiliad y byd. Oherwydd bûm yn newynog a rhoesoch fwyd i mi, bûm yn sychedig a rhoesoch ddiod i mi, bûm yn ddieithr a chymerasoch fi i’ch cartref; bûm yn noeth a rhoesoch ddillad amdanaf, bûm yn glaf ac ymwelsoch â mi, bûm yng ngharchar a daethoch ataf.” Yna bydd y rhai cyfiawn yn ei ateb: “Arglwydd,” gofynnant, “pryd y’th welsom di’n newynog a’th borthi, neu’n sychedig a rhoi diod i ti? A phryd y’th welsom di’n ddieithr a’th gymryd i’n cartref, neu’n noeth a rhoi dillad amdanat? Pryd y’th welsom di’n glaf neu yng ngharchar ac ymweld â thi?” A bydd y Brenin yn eu hateb, “Yn wir, rwy’n dweud wrthych, yn gymaint ag i chwi ei wneud i un o’r lleiaf o’r rhain, fy nghymrodyr, i mi y gwnaethoch.”’

Gweddi
Annwyl Dduw,
diolch i ti am waith bugeiliaid y stryd yn ein trefi a’n dinasoedd.
Diolch i ti am eu gofal,
yn enwedig dros bobl ifanc fel ni.
Gofala am y bugeiliaid hyn, ac arwain nhw at bobl sydd angen
rhywun i wrando arnyn nhw,
rhywun i ddweud gair caredig wrthyn nhw,
neu sydd angen pâr o fflip-fflops, hyd yn oed.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon