Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Feddi Di'n Gariad I Mi?

Archwilio tarddiad traddodiad Diwrnod Sant Ffolant.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio tarddiad traddodiad Diwrnod Sant Ffolant.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fyddai’n bosib i’r myfyrwyr eu hunain gyflwyno’r gwasanaeth hwn.
  • Llwythwch i lawr y gerddoriaeth, ‘I just called to say I love you’ gan Stevie Wonder.
  • Fe fydd arnoch chi angen cannwyll a matsis ar gyfer yr ‘Amser i feddwl’.

Gwasanaeth

  1. Fe fydd pobl ledled y byd yn dathlu Diwrnod Sant Ffolant, a hynny’n debyg iawn i’r ffordd y byddwn ni’n dathlu yn y wlad hon. Fe fydd pobl yn rhoi cardiau ac anrhegion i’r rhai maen nhw’n eu caru, ac mae llawer yn rhoi melysion a siocledi. Mewn rhai gwledydd Asiaidd, fe fydd y merched yn rhoi siocledi i’r dynion ar Ddiwrnod Sant Ffolant, ac mae’r dynion yn dychwelyd y ffafr ymhen mis. Caiff y diwrnod hwnnw ei alw’n Ddydd Gwyn, ac mae pwysau mawr ar y dynion i ofalu bod yr anrheg sy’n cael ei hanfon yn ôl dair gwaith mwy gwerthfawr na’r anrheg wreiddiol.

    Mae amrywiaethau bach fel hyn yn pwysleisio arwyddocâd cyffredinol Diwrnod Sant Ffolant.

  2. Yn ôl cofnodion Cristnogol cynnar, mae sôn am ddau Sant Ffolant. Roedd y ddau yn byw yn y drydedd ganrif, a chafodd y ddau eu merthyru yn Rhufain. Caiff diwrnod eu gwyl ei ddathlu ar 14 Chwefror. Ond does dim cysylltiad amlwg â rhamant yn hanes yr un o’r ddau. 

  3. Mae’r cofnod ysgrifenedig cyntaf sy’n cysylltu Diwrnod Sant Ffolant â rhamant i’w gael yng ngwaith yr awdur cynnar Chaucer. Yn ei waith sy’n dyddio o 1382, Parlement of Foules, fe ysgrifennodd: ‘For this was on Saint Valentine’s Day, when every bird cometh there to choose his mate.’ 

    Yn wir, mae adar yn dechrau paru a nythu ar yr adeg hon o’r flwyddyn. Ond wyddom ni ddim a ddechreuodd y cysylltiad rhwng Diwrnod Sant Ffolant a chariad bryd hynny o achos y cyfeiriad hwn yng ngwaith Chaucer, neu tybed a oedd Chaucer yn cofnodi traddodiad oedd yn bodoli eisoes. Allwn ni ddim dweud. 

    Ond fe ledaenodd y traddodiad, heb amheuaeth, gyda’r syniad canoloesol o gariad boneddigaidd, ac fe deimlai dynion ifanc fwyfwy eu bod angen mynegi eu teimladau o gariad trwy benillion a barddoniaeth. 

    Yn y flwyddyn 1797, cyhoeddwyd y llyfr The Young Man’s Valentine Writer. Roedd y llyfr hwnnw’n cynnwys nifer fawr o gerddi rhamantus. Roedd hwn yn cynnig cyfle i ddynion ifanc, a oedd yn methu mynegi eu hunain yn farddonol, i ddewis a chopïo un o’r cerddi oedd wedi eu  hysgrifennu’n barod ar eu cyfer.

  4. Cyn dyfodiad y wasg brintio a’r cyfryngau torfol, roedd pennill neu benillion mewn llawysgrifen yn rhywbeth roedd pawb yn disgwyl eu cael  Ond gyda dyfodiad y post a phrintio diwydiannol, fe helpodd hynny i sefydlu’r traddodiad o anfon cardiau Sant Ffolant.

    Mae’r ymelwa masnachol llwyddiannus ar yr wyl wedi arwain at ei galw’n ‘Hallmark holiday’ – gwyl sy’n cael ei hyrwyddo gan gwmnïau er mwyn ceisio gwneud cymaint o elw â phosib ohoni. Rydyn ni’n gweld tystiolaeth o hynny yn y cynnydd ledled y byd yn achos yr wyl Gristnogol hon, a’r ffordd y gwnaeth cwmnïau diemwntau ddefnyddio’r diwrnod yn yr 1980au fel rheswm i werthu gemwaith. 

  5. Ond mae rhywbeth mwy, rhywbeth gwirioneddol ddilys, ynghylch yr wyl. Mae’r cardiau a’r anrhegion yn cael eu cynhyrchu ar raddfa eang, yn wir, ond mae ystyr bersonol iddyn nhw. Mae’n bwysig, mewn byd prysur, i ni neilltuo amser i roi gwybod i unigolion rydyn ni’n eu caru faint yn union rydyn ni’n eu gwerthfawrogi.

Amser i feddwl

Goleuwch gannwyll a chwaraewch y gerddoriaeth (gwelwch yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’). Wedi gwrando ar y cytgan cyntaf, adroddwch eiriau’r myfyrdod fel a ganlyn gan adael i’r gerddoriaeth barhau yn y cefndir.

Fe alwais i ddweud fy mod i’n dy garu. 
Efallai eich bod wedi cweryla gyda rhywun gartref heddiw
–  fe fyddai’n dda cysylltu, o bosib?
Efallai dydych chi ddim wedi sgwrsio ers tro gydag aelod oedrannus o’r teulu, efallai dydych chi ddim wedi cysylltu â’ch nain neu eich taid ers tro,
–  fe fyddai’n dda cysylltu, o bosib?
Efallai eich bod angen cymodi gyda ffrind am ryw reswm,
–  fe fyddai cysylltu’n helpu, o bosib?

Fe alwais i ddweud fy mod i’n dy garu.

Fe alwais i ddweud fy mod i’n meddwl amdanat ti.

Heddiw, gadewch i bob un ohonom ddweud wrth rywun yn rhywle ein bod ni’n meddwl amdanyn nhw.

Ac efallai y byddai’n bosib i ni wneud hynny hefyd ar ddyddiau heblaw ar Ddiwrnod Sant Ffolant.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon