Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Beth Sydd Mewn Enw?

Meddwl pa mor bwysig yw ein henwau.

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Meddwl pa mor bwysig yw ein henwau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Daw’r hanes am Dduw’n galw Samuel o 1 Samuel 3: ‘Yn y dyddiau pan oedd y bachgen Samuel yn gwasanaethu’r Arglwydd gerbron Eli, yr oedd gair yr Arglwydd yn brin, a gweledigaeth yn anfynych.’ 

    ‘Un noswaith yr oedd Eli’n gorwedd yn ei le, ac yr oedd ei lygaid wedi dechrau pylu ac yntau’n methu gweld. Nid oedd lamp Duw wedi diffodd eto, ac yr oedd Samuel yn cysgu yn nheml yr Arglwydd, lle’r oedd arch Duw. Yna galwodd yr Arglwydd ar Samuel. Dywedodd yntau, “Dyma fi.” Rhedodd at Eli a dweud, “Dyma fi, roeddit yn galw arnaf.” Atebodd ef, “Nac oeddwn, dos yn ôl i orwedd.” Aeth yntau a gorwedd. Yna galwodd yr Arglwydd eto, “Samuel!” Cododd Samuel a mynd at Eli a dweud, “Dyma fi, roeddit yn fy ngalw.” Ond dywedodd ef, “Nac oeddwn, fy machgen, dos yn ôl i orwedd.” Yr oedd hyn cyn i Samuel adnabod yr Arglwydd, a chyn bod gair yr Arglwydd wedi ei ddatguddio iddo. Galwodd yr Arglwydd eto’r drydedd waith, “Samuel!” A phan gododd a mynd at Eli a dweud, “Dyma fi, roeddit yn galw arnaf,” deallodd Eli mai’r Arglwydd oedd yn galw’r bachgen. Felly dywedodd Eli wrth Samuel, “Dos i orwedd, ac os gelwir di eto, dywed tithau, ‘Llefara, Arglwydd, canys y mae dy was yn gwrando.’” Aeth Samuel a gorwedd yn ei le.

    ‘Yna daeth yr Arglwydd a sefyll a galw fel o’r blaen, “Samuel! Samuel!” A dywedodd Samuel, “Llefara, canys y mae dy was yn gwrando.”’

Gwasanaeth

  1. Ydych chi’n hoffi eich enw cyntaf? Oes gennych chi enw arall hefyd? Ydych chi’n hoffi hwnnw? Fyddai’n dda gennych chi pe byddech chi wedi cael eich galw wrth enw gwahanol? 

    Mae’n dipyn o gyfrifoldeb enwi plentyn: fel arfer dyna’r enw fydd gan y plentyn hwnnw am weddill ei oes. 

    Efallai eich bod yn hoffi eich enw’n fawr, neu efallai eich bod chi’n ei gasáu, ac yn dymuno ei newid am enw arall. Weithiau mae enw’n gallu bod yn destun sbort, yn enwedig gan blant eraill, ac mae plant yn gallu bod yn ddiarhebol o greulon. Er enghraifft, os yw priflythrennau enw plentyn yn sillafu gair anffodus, fel TWP (neu ryw beth gwaeth), yna fe allai’r plentyn hwnnw ei chael hi’n anodd ar adegau wrth fynd trwy’n ysgol.

    Mae llawer o bobl yn darganfod bod eu henw’n nodi pwy ydyn nhw, ac yn dylanwadu ar sut maen nhw’n gweld eu hunain. Enw llawn awdur y gwasanaeth hwn, er enghraifft, yw Helen Sophie Eva (Fe allech chi addasu hyn yma a rhoi eich enw eich hun, os hoffech chi, fel enghraifft a dweud beth yw ei ystyr). Ystyr yr enw Helen yw ‘goleuni’, mae Sophie yn deillio o’r enw Sophia, sy’n golygu ‘doethineb’, ac Eva oedd enw ei nain. Dyw’r awdur ddim yn honni ei bod yn llawn doethineb na goleuni, ond fe hoffai feddwl y gallai fod. Ac mae’n ceisio cadw’n unol ag ystyr yr enw.

    Oes unrhyw un ohonoch yn gwybod beth yw ystyr eich enw chi? (Byddwch yn barod i wrando ar awgrymiadau rhai o’r myfyrwyr. Os ydych chi’n cyflwyno’r gwasanaeth fel gwasanaeth dosbarth efallai y gallai’r myfyrwyr ymchwilio i ystyr eu henwau o flaen llaw.)

  2. Rwy’n siwr bod gan lawer ohonoch chi eich llysenwau eich hunain, neu ryw fath o fersiwn byr o’ch enwau. Rydw i’n gwybod pan fydda i mewn sefyllfa lle mae fy enw llawn yn cael ei ddefnyddio, mae honno’n sefyllfa ffurfiol, neu fwy na thebyg rydw i mewn rhyw fath o drwbl! 

  3. Hyd yn oed cyn eich gweld chi, fe fydd pobl wedi clywed eich enw ac wedi ffurfio barn amdanoch chi - a hynny ambell dro ar gam. Er enghraifft, wrth glywed eich enw, fe all pobl ffurfio barn am y wlad rydych chi’n dod ohoni, neu am eich crefydd, neu yn achos pobl yn ein hardal ni ein hunain, fe allan nhw eich cysylltu â chefndir eich rhieni neu’r dosbarth maen nhw’n perthyn iddo, neu hyd yn oed eich cysylltu â’r ddegawd y cawsoch chi eich geni ynddi. 

    Tybed oes rhywun yma sy’n gallu dweud o ble daw’r dyfyniad canlynol: ‘That which we call a rose by any other name would smell as sweet’?

    Mae’r geiriau’n dod o’r ddrama Romeo and Juliet, gan William Shakespeare, ac mae’n dod o ran o’r ddrama lle mar Juliet yn siarad am Romeo. Dyma’r dyfyniad eto gyda’r geiriau sy’n dod o’i flaen hefyd:  

    ‘Tis but thy name that is my enemy;
    Thou art thyself, though not a Montague.
    What's Montague? It is nor hand, nor foot,
    Nor arm, nor face, nor any other part
    Belonging to a man. O, be some other name!
    What’s in a name? That which we call a rose
    By any other name would smell as sweet.’

    Mae Juliet yn dweud pe na fyddai gan Romeo y cyfenw Montague, yna fyddai dim i rwystro’u cariad. Ond mae’r enw Montague yn ei wneud yn elyn, ac nid pwy ydyw o ddifrif, fel person. 

  4. Yn y Beibl, lle mae’r hanes am Moses yn gweld y berth oedd fel petai’n llosgi, mae Moses yn clywed llais Duw’n galw ei enw. Ac mae’r bachgen Samuel hefyd yn clywed Duw’n galw ei enw yntau hefyd. (Fe allwch chi wrando yma ar y darn yn cael ei ddarllen o’r Beibl – gwelwch yr adran, ‘Paratoad a deunyddiau’.) 

    A dyma ddyfyniad o’r Hen Destament o’r hyn mae Duw’n ei ddweud wrth ei bobl: ‘Paid ag ofni, oherwydd gwaredaf di; galwaf ar dy enw; eiddof fi ydwyt’ (Eseia 43.1). Mae hyn yn golygu bod Duw’n adnabod ei bobl i gyd, bob un; mae’n gwybod pwy ydyn nhw. Nid dim ond rhif neu ystadegyn ydyn nhw.

    Weithiau, rydych chi’n cael hanes am Dduw’n dewis newid enw ambell gymeriad. Er enghraifft, fe newidiwyd enw Saul i Paul ar ôl ei brofiad ar y ffordd i Ddamascus pan welodd o Iesu atgyfodedig. Ac fe newidiodd Iesu enw Simon i ‘Pedr’, sy’n golygu ‘craig’. 

  5. Yn amser y Beibl, roedd pobl yn meddwl yn ddwys iawn wrth enwi eu babanod, ac roedd ystyr i bob enw. Fe ddewiswyd yr enw ‘Iesu’ gan Dduw ei hun. Fe gyhoeddodd yr angel beth fyddai ei enw a rhoddodd hefyd y rheswm dros yr enw: ‘am mai ef a wareda ei bobl oddi wrth eu pechodau’ (mae’r enw ‘Iesu’ yn golygu ‘mae’r Arglwydd yn waredwr).

    Mae gan Iesu sawl enw a theitl arall hefyd; mae Cristnogion yn ei alw’n Fab Duw, Crist, Meseia, Arglwydd, Emaniwel, i enwi dim ond rhai. Mae’r enwau hyn i gyd yn dweud rhywbeth wrthym am ei natur ac am ei bwysigrwydd i Gristnogion. 

  6. Mae sawl enw ar Dduw hefyd. Mae’n cael ei alw’n wahanol enwau yn y Beibl. (Iawe, Arglwydd, Tad, er enghraifft), ac mae gan rai crefyddau a sectau eu henwau eu hunain ar Dduw, er enghraifft, Allah, Brahma, Jehovah, Zeus. Mae’r enwau hyn yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl, ac yn dangos i ni rywbeth o natur y dwyfol.

Amser i feddwl

Beth sydd mewn enw? Llawer iawn. Mae’n dweud pwy ydych chi. Trwy alw eich enw fe fydd pobl yn gallu cael eich sylw. Oherwydd eich enw fe fydd pobl efallai yn eich barnu, ac fe all eich enw ddylanwadu ar y ffordd rydych chi’n meddwl amdanoch eich hun.

Treuliwch foment neu ddwy yn ystyried sut rydych chi’n teimlo am eich enw.


Ydych chi’n gwybod pam mai’r enw hwn roddwyd arnoch chi?


Os na wyddoch chi, efallai yr hoffech chi ymchwilio beth yw ystyr eich enw, ac yna meddwl am gyflawni beth bynnag mae’n ei olygu. 

Neu, os nad ydych chi’n hoff o’ch enw, meddyliwch pa enw yr hoffech chi fod wedi ei gael.

Dyddiad cyhoeddi: Chwefror 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon