Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Y Broga A Gwympodd I'r Hufen

Arddangos pa mor bwysig yw dyfalbarhau.

gan Alan M. Barker

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Arddangos pa mor bwysig yw dyfalbarhau. 

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen cynhwysydd plastig tryloyw, gyda chaead sy’n cau’n dynn, twb o hufen dwbl (ar wres ystafell) a bloc o fenyn.
  • Mae’r wefan www.cookuk.co.uk/children/butter.htm> yn cynnig cyfarwyddiadau ar wneud menyn.

Gwasanaeth

  1. Sgwrsiwch am yr hufen a’r menyn. Eglurwch mai trwy gorddi’r hufen (neu ei ysgwyd gan bwyll am hir) y mae gwneud menyn. Y dyddiau hyn mae’r broses yn cael ei gwneud mewn ffatri gyda pheiriannau ac offer mawr, ond yn draddodiadol roedd menyn yn cael ei wneud â llaw, gydag offer priodol, yn llaethdy claear y fferm. Roedd y broses o ‘gorddi’ i wneud menyn yn broses a oedd yn cymryd llawer amser ac roedd angen dyfalbarhau am hir. 
  1. Arllwyswch yr hufen i lenwi tua chwarter y cynhwysydd, a sicrhewch eich bod wedi rhoi’r caead arno i’w gau’n dynn. Gwahoddwch ddau neu dri o blant i’ch helpu chi ysgwyd y cynhwysydd yn gyson a rheolaidd yn eu tro am beth amser er mwyn ceisio gwneud menyn. Fyddan nhw’n llwyddo? Gofynnwch iddyn nhw symud i naill ochr yr ystafell, a pharhau i ysgwyd y cynhwysydd, tra byddwch chi’n adrodd y stori. 

  2. Adroddwch y stori draddodiadol am ‘Y broga a gwympodd i’r hufen’. 

    Roedd broga ifanc yn byw mewn pwll mwdlyd gyda’i frodyr a’i chwiorydd a’i rieni. Roedd wrth ei fodd yn ei gartref, ac roedd yn caru ei deulu. Roedd wedi dysgu nofio yn y pwll bach mwdlyd  hwnnw. ‘Dal ati, dal ati,’ felly y byddai ei deulu’n crawcian arno. ‘Cicia dy orau!’ Ac fe giciai'r broga bach gymaint ag a allai. Fe ddaliodd ati. Ond yn aml, pan fyddai’n nofio yn y dwr mwdlyd, fe fyddai’n teimlo awydd i gael mynd i archwilio’r byd y tu draw i’r pwll. 

    Felly, un diwrnod, fe neidiodd allan o’r pwll ac anelu am y fferm oedd yn ymyl.

    Sbonciodd y broga bach heibio corlannau’r defaid a’r wyn bach oedd newydd eu geni, heibio’r stablau lle’r oedd y ceffyl amyneddgar yn ei wylio. Aeth yn gyflym ar draws y buarth lle’r oedd yr ieir yn crafu ac yn clwcian, heibio’r beudy lle’r oedd y gwartheg yn cael eu godro, ac aeth i mewn i’r cysgod yn y llaethdy llaith a chlaear.

    Mae pob broga’n hoffi lle llaith a chlaear, ac fe arhosodd yno am sbel nes y penderfynodd ei bod hi’n amser iddo fynd yn ei ôl i’w pwll mwdlyd. Felly, fe roddodd hwb, sbonc a naid fawr - ac fe laniodd ynghanol llond jwg mawr o hufen! Ciciodd ei goesau eto i geisio dod allan o’r jwg. Ond roedd ochrau’r jwg yn llithrig. Ciciodd y broga ei goesau eto ac eto, ond doedd dim modd dianc! Fe ddechreuodd flino, ac roedd yn ofni y byddai’n suddo i waelod y jwg ac yn boddi. 

    Meddyliodd am ei deulu, yn ddiogel gartref yn y pwll mwdlyd. Fe gofiodd am sut roedden nhw’n ei annog wrth iddo ddysgu nofio - ‘Dal ati, dal ati!’ ‘Fe wna i ddal ati,’ meddai’r broga wrtho’i hun, a daliodd i gicio eto ac eto. ‘Ond i ba bwrpas?’ meddyliodd. Roedd yn blino mwy a mwy. Roedd wir yn meddwl y byddai’n boddi. Er hynny, fe ddaliodd ati i gicio’n galed a chadw rhag suddo, nes digwyddodd rhywbeth rhyfedd. 

    Roedd y broga’n gallu teimlo rhywbeth fel lympiau meddal  rhwng ei fysedd, ond fe ddaliodd ati i gicio. Ac ymhen sbel fe’i cafodd ei hun yn eistedd ar rywbeth oedd yn edrych fel mwd melyn! Roedd yr hufen wedi troi’n fenyn! Fe wthiodd ei goesau unwaith eto ac fe roddodd un naid enfawr, ac roedd allan o’r jwg ac yn rhydd!

    Yn ôl yn y pwll mwdlyd, fe gafodd groeso mawr gan weddill ei deulu oedd wedi bod yn pryderu amdano. ‘Fues i bron â boddi,’ meddai, ‘ond fe wnes i gicio’n galed. Fe wnes i ddal ati!’

  3. Cyfeiriwch yn ôl at y plant sydd wedi cael yr her o geisio gwneud menyn. Wnaethon nhw lwyddo? Os na wnaethon nhw, am ba hyd y bydd yn rhaid iddyn nhw ddal ati nes byddan nhw wedi llwyddo? Ym mhen hir a hwyr fe fydd yr hufen yn rhannu’n fenyn ac yn llaeth enwyn.

  4. Diweddwch y gwasanaeth trwy wahodd y gynulleidfa i ystyried arwyddocâd y stori. Sylwch ei bod yn darlunio’r angen i ddyfalbarhau neu i ddal ati. Ystyriwch y bydd rhai adegau ym mywyd yr ysgol pan fydd yn dda cofio am stori’r ‘broga a gwympodd i’r hufen’. Weithiau mae datrys problem yn gallu bod yn anodd iawn. Ond os gwnawn ni ddal ati a dyfalbarhau, fe ddaw’r atebion. Mae dyfalbarhad yn ein helpu i symud ymlaen ar yr adegau hynny pan fyddwn ni’n debygol o ddweud: ‘Help! Alla i ddim gwneud hwn.’ 

  5. Yn arbennig ar gyfer Ysgolion Eglwys: Yn ystod cyfnod y Garawys, mae Cristnogion yn cofio pa mor bwysig yw dyfalbarhau. Pan oedd Iesu’n cael ei demtio yn yr anialwch, fe gofiodd am gyngor da ac ni wnaeth ildio.

Amser i feddwl

Meddyliwch am amser pan oeddech chi’n wynebu her neu sefyllfa anodd . . .

moment pan oeddech chi’n teimlo eich bod yn methu mynd ymlaen. 

Pa gyngor gawsoch chi rydych chi’n ei gofio?

Gweddi
Arglwydd Dduw,
Pa her bynnag fydd o’n blaen heddiw
helpa ni i fod yn gryf
ac i beidio ag ildio.

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon