Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dreigiau

Diwrnod Sant Siôr (23 Ebrill)

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio ein dreigiau personol ni ein hunain.

Paratoad a Deunyddiau

Fe allech chi lwytho i lawr rai delweddau o ddreigiau i’w taflunio yn ystod y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Yr wythnos hon mae pobl Lloegr yn dathlu bywyd eu nawddsant, sef Sant Siôr - sydd â chwedl amdano’n lladd y ddraig. Heddiw, fe hoffwn i sgwrsio am y dreigiau hynny y gallen ni ddod wyneb yn wyneb â nhw (mewn ffordd o siarad) o ddydd i ddydd. 

  2. Roedd draig yn cael ei hystyried y rhywbeth i’w hofni a’i threchu. Wrth gwrs, rydyn ni’n gwybod mai creaduriaid chwedlonol yw dreigiau – creaduriaid dychmygol o fyd hud a lledrith. 

  3. Fodd bynnag, mae gan bawb ei ‘ddraig’ ei hun i’w threchu’n ddyddiol. Oes arnoch chi ofn rhywbeth? Oes arnoch chi ofn pry copyn? Oes arnoch chi ofn nadroedd? Efallai mai ofn uchder sydd arnoch chi. Neu, efallai bod rhywbeth mwy na hynny. Efallai eich bod ofn cerdded i mewn i ystafell lle mae pobl dydych chi ddim yn eu hadnabod, neu efallai eich bod ofn mynd allan i’r stryd. Ac fe allai’r ofn fod mor ddifrifol fel ei fod yn ffobia ac yn eich rhwystro chi rhag byw bywyd normal. 

  4. Ambell dro, mae ofn y peth yn fwy na’r peth ei hun. Fe fydd ar y pry copyn bach lawer mwy o’ch ofn chi nag a fydd gennych chi o ofn y pry copyn! Ystyriwch y gwahaniaeth sydd rhyngoch chi o ran maint! Fe allai’r bobl sy’n ddieithr i chi yn yr ystafell fod yn rhan bwysig o’ch dyfodol chi, wyddoch chi ddim. Ac yn eu mysg, fe allai rhai fod yr un mor nerfus â chi ynghylch y sefyllfa. 

  5. Yn aml iawn, diffyg gwybodaeth sy’n peri i ni fod yn ofnus. Os byddwn ni’n byw ein bywyd yn ofni rhywbeth, fe all yr ofn hwnnw fynd yn drech na ni. Fe all fynd yn rhywbeth mor ddifrifol yn ein meddyliau fel bod y broblem yn mynd yn amhosib ei threchu. Fe fydd y ddraig yn deor ac yn lledu ei hadenydd.

Amser i feddwl

Dydw i ddim yn hoffi’r syniad o ladd dreigiau, ond fe fyddai’n bosib eu dofi efallai.

Felly, meddyliwch am un peth mae’n rhaid i chi ei wneud heddiw sy’n codi rhywfaint o ofn arnoch chi.

– ofn codi eich llaw i ateb cwestiwn yn y dosbarth rhag ofn i chi roi’r ateb anghywir;

– ofn siarad â rhywun sy’n cael ei ystyried yn ‘amhoblogaidd’;

– ofn gofyn am help gan athro neu athrawes, neu ofn ymuno â  chlwb o’r newydd;

– ofn y cyfan o’r pethau hyn, a phethau eraill hefyd?

Pa ddraig bynnag sy’n codi ofn arnoch chi, ceisiwch ei dofi. Teimlwch yr ofn, ond daliwch ati i wneud beth bynnag sydd raid i chi – efallai na fydd pethau mor ddrwg wedi’r cyfan, ac mae’n bosib y byddwch chi lawer mwy ar eich ennill yn y diwedd nag oeddech chi wedi meddwl a fyddai’n bosib!

Gweddi

Yn eich meddwl, edrychwch ar eich draig bersonol chi.

Yna, cynlluniwch strategaeth i ddelio â’r ddraig honno heddiw, yfory, ac am weddill eich bywyd.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon