Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bywydau Cudd 1

Herio’r myfyrwyr i feddwl am sut y byddai’n bosib iddyn nhw ddefnyddio’u doniau i wneud daioni.

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Herio’r myfyrwyr i feddwl am sut y byddai’n bosib iddyn nhw ddefnyddio’u doniau i wneud daioni.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Tybed faint ohonoch chi sy’n mwynhau tynnu lluniau? Rwy’n siwr bod llawer ohonoch chi’n tynnu digon o luniau o ddydd i ddydd gyda’ch ffonau symudol ac, o bosib, yn eu huwch  lwytho ar Facebook ac ati. Efallai bod rhai ohonoch chi â’ch bryd ar fod yn ffotograffwyr proffesiynol ryw ddiwrnod. Pe byddech chi’n gallu ennill eich bywoliaeth yn tynnu lluniau, tybed beth fyddai testun eich lluniau? Meddyliwch am hyn am foment - pe byddech chi’n ffotograffydd, lluniau beth fyddech chi’n eu tynnu? 

    Darllenydd 1  Pe bawn i’n ffotograffydd, fe fyddwn i’n tynnu lluniau ‘selebs’. Fe fyddwn i’n mynd i bob man efo’r ‘paparazzis’ ac yn cuddio mewn llwyni er mwyn cael bod  mewn lle da i dynnu’r lluniau, ac yn cael fy nhalu mewn miliynau am lun o David Beckham yn ei drôns, neu lun gwleidydd enwog yn cusanu ei ysgrifenyddes. Fe fyddai hynny’n weithgaredd cyffrous iawn! 

    Darllenydd 2  Pe bawn i’n ffotograffydd, fe fyddwn i’n tynnu lluniau anifeiliaid. Rydw i wrth fy modd yn tynnu lluniau fy nghath fach. Mae hi mor ‘ciwt’! Un tro fe ddefnyddiodd Fearne Cotton un o fy lluniau i yn y casgliad oedd ganddi o luniau dan y pennawd, ‘Want to see something cute?’ ar Twitter.

    Darllenydd 3  Pe bawn i’n ffotograffydd, fe fyddwn i’n tynnu lluniau trychinebau naturiol. Dychmygwch ddal y foment honno mewn llun pan fydd llosgfynydd yn ffrwydro, neu dwr tal yn dymchwel mewn daeargryn. Fy mreuddwyd i yw cael cyhoeddi un o fy lluniau yn y cylchgrawn National Geographic.

  2. Mae’r gwasanaeth heddiw’n ymwneud â bywyd ffotograffydd go iawn, dyn o’r enw Andrew McConnell, sydd wedi ennill gwobrau am ei waith. Mae wedi cael cyhoeddi lluniau mewn cyhoeddiadau fel y National Geographic. Mae wedi ennill sawl gwobr am ei waith arbennig. Heddiw, rydyn ni’n mynd i ddod i wybod rhywbeth am luniau ei brosiect diweddaraf, a chlywed am ei reswm dros dynnu’r lluniau neilltuol hyn. 

    Mae’r cyfweliad sy’n dilyn yn seiliedig ar gyfweliad gwirioneddol gydag Andrew McConnell ac adroddiadau amdano.

  3. Holwr  Felly, Andrew, beth ydych chi wedi ei ddewis fel thema i’ch lluniau yn y project yma? Rhywun enwog? Anifeiliaid bach ciwt? Trychineb daeargryn difrifol?

    Andrew  Na, dim byd felly. Mae’r ffotograffau sydd gen i yn y casgliad yma i gyd yn bortreadau o ffoaduriaid trefol, lluniau wedi eu tynnu mewn wyth o ddinasoedd ar draws pedwar cyfandir.

    Holwr  Dydi hynny ddim yn swnio fel rhywbeth cyfareddol a deniadol iawn! Pam y byddech chi’n dewis tynnu lluniau ffoaduriaid?

    Andrew  Na, does dim o gwbl yn gyfareddol yn y sefyllfa. Cefais fy nghadw yn y ddalfa dair gwaith tra roeddwn i’n gweithio ar y project. Ond fe ddewisais y testun oherwydd pan fydd pobl yn meddwl am ffoaduriaid maen nhw’n meddwl am bobl mewn gwledydd tramor wedi gorfod gadael eu cartrefi oherwydd amgylchiadau neilltuol ac yn byw mewn pebyll yng nghanol unlle. Sut bynnag, nid dyna yw hanes pob ffoadur. Mae’n wir fod y bobl hynny wedi cael eu gorfodi i adael eu cartrefi a phopeth arall oherwydd eu hamgylchiadau. Ond y dyddiau hyn mae llawer o ffoaduriaid sydd ddim yn aros mewn gwersylloedd. Erbyn hyn mae dros 6 miliwn o bobl - mwy na hanner ffoaduriaid y byd - yn byw yn rhai o ddinasoedd mwyaf y byd. 

    Holwr  Doeddwn i ddim yn gwybod hynny! Ond dydi hynny ddim yn egluro pam gwnaethoch chi ddewis tynnu’r lluniau yma.

    Andrew  Yr hyn roeddwn i eisiau ei wneud oedd herio’r ystrydeb honno bod ffoaduriaid yn byw gyda’i gilydd mewn gwersyll, a chyflwyno, gobeithio, ffordd newydd o ystyried ffoaduriaid yn ein byd modern. Roeddwn i eisiau dangos bod ffoaduriaid yn bresennol yma yn ein mysg ni yn ein dinasoedd. Roeddwn i eisiau cyflwyno ffoaduriaid fel unigolion, nid fel môr o wynebau dienw, neu fel ystadegyn neu un mewn tyrfa.

    Holwr  A sut gwnaethoch chi lwyddo i wneud hynny?

    Andrew  Fe dreuliais i amser gydag unigolion a gwrando arnyn nhw’n dweud eu hanes ac yn egluro sut roedden nhw wedi cyrraedd y sefyllfa hon yn eu bywyd. Mae’r arddangosfa’n ymwneud â’r unigolyn ac yn ymwneud â rhoi llais i bob person. Mae pob stori’n cael ei hadrodd ochr yn ochr â’r llun perthnasol.

    Holwr  Beth oedd ymateb y ffoaduriaid y buoch chi’n siarad â nhw?

    Andrew  Fe wnes i ofalu fy mod i’n parchu dymuniadau pob unigolyn. Roedd rhai ddim eisiau cael tynnu eu llun. Roedd rhai ddim eisiau cael eu henwi. Roedd llawer yn pryderu am ddiogelwch eu ffrindiau ac aelodau eu teuluoedd a oedd yn dal i fyw yn eu cartrefi.  Ond roedd y rhan fwyaf yn falch o gael cyfle i adrodd eu stori. Yn eu stori y mae’r grym. 

    Holwr  Ble bydd eich ffotograffau’n cael eu harddangos? Mewn oriel yn rhywle? 

    Andrew  Na, enw’r arddangosfa yw ‘Hidden Lives - The Untold Story of Urban Refugees’, ac mae’n cael ei dangos yng ngorsaf ryngwladol St Pancras yn Llundain o 6 - 31 Ionawr 2013. Y gobaith yw y bydd yn cael ei symud i Frwsel ac yna i Efrog Newydd. Mae hyd at filiwn o bobl yn pasio trwy orsaf St Pancras bob wythnos. Mewn lle felly y dylai ffotograffau gael eu harddangos, lle mae cymaint o bobl a phosib yn gallu gweld y lluniau.

    Holwr  Mae’n amlwg bod gennych chi ddawn fel ffotograffydd. Sut ydych chi’n meddwl y gall eich dawn chi helpu i godi proffil y ffoaduriaid trefol?

    Andrew  Un cyfrwng allan o nifer yw ffotograffiaeth er mwyn gallu disgrifio’r sefyllfaoedd anodd sy’n wynebu pobl fel y rhai hyn. Rydw i wedi ceisio creu delweddau sy’n denu sylw pobl ac sy’n gwneud iddyn nhw fod eisiau gwybod mwy. Rydw i’n gobeithio y bydd pobl yn ymddiddori yn fy lluniau, ac ar yr un pryd yn dysgu mwy am y ffoaduriaid trefol sy’n byw ochr yn ochr â ni yn ein dinasoedd.

Amser i feddwl

Mae wedi bod yn ddiddorol clywed hanes Andrew McConnell a’i resymau dros ddewis tynnu lluniau’r ffoaduriaid trefol. Mae’n amlwg ei fod wedi defnyddio ei ddoniau creadigol er mwyn gwneud rhywfaint o les i eraill.

Fe allwn ni i gyd ddysgu rhywbeth wrth ystyried ei esiampl. Mae gennym ni i gyd ddoniau. Mae pob un ohonom ni’n dda am wneud rhywbeth. Efallai mai arlunio neu ddawnsio yw’r peth hwnnw, neu goginio neu ysgrifennu storïau. Efallai ein bod yn dda am chwarae offeryn cerdd neu’n dda mewn chwaraeon. Treuliwch foment yn meddwl am yr hyn rydych chi’n dda am ei wneud.

Y ffordd rydyn ni’n dewis defnyddio ein doniau sy’n bwysig:

– peidio âgwastraffu’r doniau rydyn ni wedi’u cael;
– peidio â bod yn hunanol a chadw ein doniau i ni ein hunain.

Mae’n bwysig dod o hyd i ffyrdd o ddefnyddio ein doniau er budd pobl eraill, fel y mae Andrew McConnell wedi’i wneud.

Felly, sut gallwch chi ddefnyddio eich dawn greadigol er budd pobl eraill?

Darllenydd 1  Rydw i’n hoffi coginio ac yn cael hwyl dda arni. Fe allwn i wneud cacen, mae’n debyg, a mynd â hi i’r hen wraig sy’n byw drws nesa i ni. Mae hi’n eithaf unig, dwi’n meddwl.

Darllenydd 2  Rydw i’n hoffi rhedeg. Fe allwn i gofrestru i gymryd rhan yn y ras hwyl sy’n cael ei chynnal yn y parc yr wythnos nesaf er mwyn codi arian at yr hosbis leol.

Darllenydd 3  Rydw i’n hoffi arlunio. Fe allwn i wirfoddoli i helpu gyda Chlwb Celf yr ysgol isaf. Fe fyddai’n dda gallu ysgogi pobl eraill i fwynhau arlunio hefyd.

Arweinydd  Beth fyddech chi’n gallu ei wneud?

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n cofio am y ffoaduriaid sy’n byw mewn amgylchiadau anodd mewn dinasoedd mawr ledled y byd.
Rydyn ni’n gweddïo y byddan nhw’n cael eu trin fel unigolion, ac nid fel ystadegau.
Rydyn ni’n diolch am waith Andrew McConnell
ac yn gweddïo y bydd ei arddangosfa’n codi ymwybyddiaeth ac yn peri i bobl ganfod ar hap a dod i wybod am y ffoaduriaid trefol.
Rydyn ni’n meddwl am ein doniau ni ein hunain,
ac yn gweddïo y byddwn ni’n gallu dod o hyd i ffyrdd o’u defnyddio er budd pobl eraill.

Dyddiad cyhoeddi: Ebrill 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon