Byd Wyneb I Wared
Ymateb i achosion o argyfwng mewn bywyd
gan Brian Radcliffe
Addas ar gyfer
- Ysgol gyfan (Uwchradd)
Nodau / Amcanion
Annog myfyrwyr i ystyried yr amrywiaeth o ymateb posib yn dilyn digwyddiad sy’n gallu newid bywyd.
Paratoad a Deunyddiau
- Dewiswch ddau Ddarllenydd i’ch helpu wrth gyflwyno’r gwasanaeth.
- Efallai yr hoffech chi ddefnyddio storïau sydd wedi bod yn y newyddion – rhai da a rhai drwg.
Gwasanaeth
- Rydyn ni’n byw mewn byd sy’n gallu bod â’i wyneb i waered yn aml. O ddydd i ddydd, mae’r bwletinau newyddion yn llawn o benawdau tebyg i’r rhai canlynol.
Darllenydd 1 Unigolyn lwcus yn ennill £20 miliwn ar y Loteri.
Darllenydd 2 Tri aelod o’r un teulu wedi’u lladd mewn damwain car ar y draffordd. Y tad yw’r unig un sy’n dal yn fyw.
Darllenydd 1 O fod yn llenwi silffoedd mewn archfarchnad i enwogrwydd rhyngwladol. Mae enillydd yr X Factor ar ben y byd.
Darllenydd 2 Camgymeriad llawfeddyg yn peri bod dyn yn methu cerdded.
- Mewn dim ond ychydig eiliadau mae’n bosib i fywyd unigolyn newid yn gyfan gwbl am byth. Ambell dro, fe all hynny fod yn newid er gwell, dro arall er gwaeth yn anffodus. Mewn achosion fel hyn mae’n amhosib gwneud cynlluniau wrth gefn. Mae’r pethau hyn yn aml yn bethau na allwch eu hosgoi. Ac maen nhw’n bethau a allai ddigwydd i unrhyw un ohonom ni.
- Roedd diwrnod olaf mis Mawrth eleni’n ddydd Sul y Pasg. Sul y Pasg yw’r diwrnod y bydd Cristnogion yn dathlu atgyfodiad gwyrthiol Iesu Grist. Roedd wedi cael ei groeshoelio ar y dydd Gwener blaenorol, wedi ei gladdu mewn bedd oedd fel ogof yn y graig gyda charreg fawr ar geg yr ogof, ac roedd y bobl yn meddwl mai dyna oedd diwedd y stori. Roedd tair blynedd ddramatig o weinidogaeth Iesu wedi dod i ben. Ond, nid dyna oedd y diwedd. Er mwyn gallu dangos ei rym dros farwolaeth a drygioni, fe atgyfododd Duw ei fab Iesu o farw’n fyw unwaith eto. Dyna’r penwythnos mwyaf ‘pen i waered’ yn holl hanes y byd.
- Felly, sut roedd hi wedyn ar y bobl hynny a oedd wedi gadael eu swyddi, eu teuluoedd a’u huchelgeisiau, er mwyn mynd i ddilyn Iesu? Sut gwnaethon nhw ymateb i’r newyddion ‘pen i waered’ hwn? Mewn gwirionedd, roedd eu hymateb yn amrywio.
Darllenydd 1 Roedd rhai wedi rhyfeddu cymaint wrth glywed y newyddion bod Iesu’n fyw roedden nhw’n llythrennol yn crynu’n gorfforol. Doedden nhw ddim yn siarad â neb arall oherwydd eu bod ofn y canlyniadau.
Darllenydd 2 Roedd rhai yn gwrthod credu wrth glywed y newyddion. Iddyn nhw, nonsens oedd y cyfan.
Darllenydd 1 Hyd yn oed pan ymddangosodd Iesu o’u blaen, doedd rhai ddim yn credu mai Iesu oedd yno. Roedd rhaid iddo fwyta tamaid o bysgodyn i brofi nad ysbryd oedd yno.
Darllenydd 2 Ac fe ddywedodd y sinig mwyaf ohonyn nhw, disgybl o’r enw Thomas, na fyddai’n credu oni bai ei fod yn gallu rhoi ei fys yn archollion Iesu.
Darllenydd 1 Roedd hyd yn oed Pedr, y cymeriad cryfaf yn ôl pob golwg, a’r un yr oedd Iesu wedi ei ddewis i fod yn ddirprwy iddo, yn methu deall beth oedd wedi digwydd, ac yn ceisio meddwl am y posibiliadau.
Darllenydd 2 Dim ond nifer fach o ferched wnaeth dderbyn y dystiolaeth fel yr oedd pethau, a gweld y gobaith newydd oedd i ddod.
- Mae gennym set dda o ddarluniau yma o’r amrywiaeth o ymatebion clasurol i argyfyngau mewn bywyd. Mae rhai pobl yn ‘rhewi’ ac yn methu gwneud dim. Dydyn nhw ddim yn gwybod sut i ymateb, ac maen nhw naill ai’n colli cyfle neu’n mynd ar eu pen i bwl o iselder ysbryd. Mae rhai eraill yn mynd rownd a rownd mewn cylchoedd ac yn swingio o fod yn optimistaidd i fod yn besimistaidd - o fod yn credu i fod ddim yn credu. Mae rhai, o bosib, oherwydd eu profiad blaenorol, yn cymryd amser hir i gael eu darbwyllo. Yn Saesneg, maen nhw’n galw hynny’n ‘living in denial’ - sef gwrthod derbyn beth sydd wedi digwydd er gwaethaf yr holl dystiolaeth. Dim ond nifer fach sy’n gallu dirnad y sefyllfa, newid cyfeiriad a dechrau ymateb yn syth i’r amgylchiadau newydd.
Amser i feddwl
Mae’n anodd cynllunio ein hymateb personol i argyfwng. I ryw raddau, mae’n gysylltiedig â’n personoliaeth. Eto, mae’n ddefnyddiol gallu cydnabod yr hyn sy’n digwydd yn ein hachos ni ein hunain. Mae’n gallu rhoi i ni rywfaint o reolaeth. Fe allwn ni ddewis a yw ein hymateb yn adeiladol ai peidio, a cheisio dygymod â’r hyn sydd wedi digwydd.
Mae hanes atgyfodiad Iesu’n rhoi persbectif arall i ni hefyd. Roedd yr argyfwng cychwynnol a oedd yn wynebu ei ddilynwyr yn newyddion drwg iawn. Roedd marwolaeth Iesu’n cynrychioli’r diwedd iddyn nhw. Roedden nhw mewn ffordd bengaead (cul de sac). Doedd dim ffordd allan. Roedd yn ymddangos fel pe na bai dim byd gwerth byw er ei fwyn, neu fe allen nhw fynd yn ôl at eu bywydau diflas blaenorol.
Mae pethau’n gallu teimlo felly i ninnau weithiau. Ambell dro, fe fyddwn ni’n teimlo ar goll, yn unig, ac yn teimlo gwacter oherwydd rhywbeth sydd wedi digwydd i ni. Eto, fe ddarparodd yr hyn a wnaeth Duw, yn ystod y Pasg cyntaf hwnnw, newyddion da allan o’r drasiedi ddyfnaf a thywyllaf a’r fwyaf erioed. Gan mai dyna’r hyn mae Duw’n ei wneud. Mae’r atgyfodiad yn arwydd bod Duw’n gallu dod â daioni, yn annisgwyl hyd yn oed, allan o’r sefyllfaoedd gwaethaf. Efallai nad dyna rydyn ni’n ei ddisgwyl, ond mae gobaith bob amser. Dyna pam mae’r storïau am Iesu’n cael eu galw’n Efengylau. Yr enw Saesneg am Efengyl yw Gospel, a’r ystyr yn llythrennol yw ‘good news’ – newyddion da.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch nad oes y fath beth yn bod, yn dy achos di, â ffordd bengaead.
Diolch dy fod ti’n gallu dod â rhywfaint o ddaioni hyd yn oed allan o ddrygioni.
Gad i mi fod â’r gallu i weithredu’n gadarnhaol mewn argyfwng, a bod â’r llygaid i adnabod dy fenter di.
Cerddoriaeth
Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir
‘Redemption Song’ gan Bob Marley.