Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Dim Ond Rhwybeth Y Mae'n Rhaid Ei Ni Ei Wneud

Ystyried beth mae'n ei olygu i sefyll yn gadarn dros ein hargyhoeddiadau.

gan Janice Ross

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Ystyried beth mae'n ei olygu i sefyll yn gadarn dros ein hargyhoeddiadau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Casglwch wybodaeth ynghylch trychineb yr eirlithrad yn Chamonix, a lluniau o ddringwyr (oddi ar y wefan: www.telegraph.co.uk).

  • Argraffwch chwe chopi o'r stori sydd i'w gweld islaw o bennod 4 yn Llyfr yr Actau.

  • Fe fydd arnoch chi angen paratoi chwe disgybl i ddarllen y rhannau canlynol: adroddwr, dau arweinydd crefyddol, gwarchodwr mewn teml, a Phedr ac Ioan.

Gwasanaeth

  1. Dangoswch y delweddau yr ydych wedi eu casglu ynghyd o ddringwyr, ac adroddwch y stori ganlynol am drychineb eirlithrad Chamonix.

    Roedd Steve Barber (47) a John Taylor (48) yn rhannu'r un hoffter o ddringo. Roedd y dringo yr oedden nhw yn ymgymryd ag ef, yng nghadwyn mynyddoedd Mont Blanc ger Chamonix yn Ffrainc, er budd Hosbis yn Efrog. Gyda nhw roedd Roger Payne, un o ddringwyr mwyaf cydnabyddedig y DU.

    Mis Gorffennaf 2012 oedd hi. Roedd yr amodau'n dda y diwrnod hwnnw. Roedd y dringwyr wedi eu cadwyno ynghyd â rhaffau ar uchder o 13,000 troedfedd pan gawson nhw eu taro gan eirlithrad ‘slab’. Cafodd hyn ei achosi gan eira trwm a'i gychwyn gan wyntoedd cryfion. Ni chafodd y dringwyr gyfle i achub eu hunain. Disgrifiodd un o’r rhai a oroesodd ei hun yn cael ei ysgubo i lawr y llethr fel pe byddai mewn 'peiriant golchi'.

    Cafodd ffrind i Roger Payne a oedd wedi dychryn yn aruthrol ei gyfweld yn ddiweddarach am y trychineb, ac fe ddywedodd rywbeth fel hyn, ‘Efallai fod rhai pobl yn holi pam yr ydyn ni'n gwneud hyn. Mae'n rhaid i ni oherwydd ei fod yno. Mae'n rhywbeth mae’n rhaid i ni ei wneud.’

    Fe atebodd y cyfwelydd yn dyner, ‘Does ddim rhaid i chi egluro'ch hun i ni. Mae'n ddrwg gennym am eich colled.’

  2. Mae llawer o bobl yn gwneud pethau peryglus iawn oherwydd 'bod rhaid iddyn nhw’. Mae ganddyn nhw ddyhead cryf i wthio'u hunain i'r eithaf, i oresgyn yr hyn sy'n ymddangos yn amhosibl, boed hynny'n fynyddoedd, chwaraeon eithafol, neu dorri recordiau'r byd ar lefel Olympaidd.

  3. Yn llyfr yr Actau gallwn ddarllen am enedigaeth yr Eglwys Fore. Roedd yn gyfnod terfysglyd. Roedd enw Iesu'n atsain drwy Jerwsalem. Daeth cannoedd yn Gristnogion yn feunyddiol wrth iddyn nhw wrando ar bregethau'r disgyblion, a oedd yn aml yn cael eu dilyn gan wyrthiau rhyfeddol o iacháu.

    Wrth gwrs, nid oedd pawb yn hapus am hyn. Roedd yr arweinwyr crefyddol, a oedd wedi bod yn gyfrifol am groeshoeliad Iesu ychydig dros chwe wythnos yn flaenorol, yn teimlo'n flin ac o dan fygythiad. Gwrandewch ar yr hyn ddigwyddodd yn yr addasiad canlynol o'r stori sydd i’w chael ym mhennod 4 Llyfr yr Actau.

    Adroddwr  Cythruddwyd yr offeiriaid a'r arweinwyr crefyddol oherwydd bod Pedr ac Ioan yn addysgu'r bobl ac yn dweud bod Iesu wedi ei godi o farw’n fyw. Roedd Pedr ac Ioan hyd yn oed wedi iacháu claf oedd yn methu cerdded.

    Arweinydd Crefyddol 1 Daliwch Pedr ac Ioan a rhowch nhw yn y carchar dros nos. Bydd hynny'n eu sobri! Maen nhw wedi cynhyrfu dinas Jerwsalem drwyddi draw.

    Y Gwarchodwr yn gafael yn Pedr ac Ioan ac yn eu symud i'r ochr.

    Adroddwr Y diwrnod canlynol, caiff Pedr ac Ioan eu dwyn gerbron yr holl henaduriaid crefyddol a'r athrawon.

    Daw'r gwarchodwr â nhw’n ôl.

    Maen nhw'n dechrau eu holi.

    Arweinydd Crefyddol 2 Trwy ba nerth yr ydych chi'n gwneud y pethau hyn?

    Pedr  Trwy enw Iesu, yr un y gwnaethoch chi ei groeshoelio, y cafodd y claf hwn oedd ddim yn gallu cerdded, ei iacháu.

    Adroddwr  Roedd yr arweinwyr crefyddol wedi eu synnu. Roedd y Pedr hwn, a oedd ddim ond yn bysgotwr, yn llefaru gyda'r fath ddewrder a nerth ac awdurdod, a doedden nhw ddim yn gallu gwadu bod y claf nad oedd yn gallu cerdded wedi cael ei iacháu'n wyrthiol. Fe wnaeth yr arweinwyr orchymyn i'r gwarchodwr symud Pedr ac Ioan ymaith unwaith yn rhagor.

    Mae'r gwarchodwr yn eu harwain i’r ochr unwaith eto.

    Arweinwyr Crefyddol 1 a 2 (Yn ymgynghori â’i gilydd ac yn edrych yn bryderus) Beth wnawn ni â'r dynion hyn? Mae Jerwsalem gyfan yn sôn amdanyn nhw. Dydyn ni ddim eisiau i'r peth hwn ledaenu ymhellach.

    Adroddwr  Fe wnaethon nhw alw Pedr ac Ioan i mewn eto.

    Mae'r gwarchodwr yn eu hebrwng i mewn eto.

    Arweinydd crefyddol  Iawn. Dyma'r ddedfryd. Chewch chi ddim siarad am Iesu nac addysgu yn ei enw mwyach.

    Pedr ac Ioan Allwn ni ddim peidio â siarad am yr hyn yr ydym wedi ei weld a'i glywed - mae'n rhywbeth yr ydym yn gorfod ei wneud.

    Adroddwr  Nid hwn oedd yr ateb yr oedd yr arweinwyr crefyddol wedi ei ddisgwyl! Doedden nhw ddim yn gallu penderfynu sut i'w cosbi y tro hwn. Wedi'r cyfan, roedd Jerwsalem gyfan yn ymddangos fel pe bydden nhw’n clodfori Duw am yr hyn oedd wedi digwydd. Doedd ganddyn nhw ddim dewis ond eu rhyddhau y tro hwn. Wrth gwrs, fe aeth Pedr ac Ioan yn syth yn ôl at y gwaith yr oedden nhw'n ei wneud, a pharhau i ddweud wrth eraill am Iesu.

    Byddai'r disgyblion hyn yn cael eu herlid o achos eu ffydd yn ddiweddarach, eu carcharu a'u curo laweroedd o weithiau, fel llawer o rai eraill a gredai. Er gwaethaf hyn, byddai neges Iesu yn parhau i fynd o amgylch y byd. Roedd hyn yn rhywbeth yr oedd y bobl hyn yn 'gorfod ei wneud.'

Amser i feddwl

Byddai'r cyfnod hwn wedi bod yn un eithaf pryderus i Pedr ac Ioan - roedden nhw wedi gweld Iesu'n cael ei ladd gan yr union bobl a oedd yn awr yn eu gwrthwynebu nhw.

Sut ydych chi'n teimlo pan fyddwch yn wynebu gwrthwynebiad? Gall y gwrthwynebiad ddod efallai oherwydd rhywbeth yr ydym yn credu ynddo neu oherwydd y ffordd yr ydym yn dewis byw ein bywyd, ond mae rhai adegau pan fydd yn rhaid i ni wneud yr hyn sy'n iawn.

Gweddi
Diolch i ti, Arglwydd, am bobl sydd ddewr ac yn eofn, pobl sydd wedi ymestyn ein gwybodaeth am y byd a'i holl brydferthwch trwy eu gorchwylion.

Diolch i ti am y Cristnogion cynnar hynny oedd yn gorfod lledaenu'r newyddion da am Iesu, heb gyfrif beth fyddai'r gost iddyn nhw.  Helpa ni i sefyll yn gadarn dros ein hargyhoeddiadau. 

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon