Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Sakura - Dros Dro (Tymor Blodeuo)

Annog y myfyrwyr i ystyried natur fyrhoedlog bywyd, ac i fyw yn y presennol.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i ystyried natur fyrhoedlog bywyd, ac i fyw yn y presennol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Llwythwch i lawr ddelweddau o goed ceirios Japaneaidd yn llawn blodau.

Gwasanaeth

  1. Bob gwanwyn mae’r coed yn Japan yn ffrwydro’n fôr o wyn a phinc wrth i flodau blwyddyn newydd y coed ceirios, neu’r sakura, ymddangos. Mae’r blodau’n parhau am tua mis, ac yna fe fyddan nhw’n diflannu’n raddol. Mae’r coed wedyn yn llawn dail nes bydd y rheini’n disgyn yn yr hydref, ac fe ddaw’r brigau noeth i’r golwg eto.

  2. Mae tymor blynyddol y coed ceirios yn rhan bwysig iawn o’r diwylliant Japaneaidd - yn gymaint felly, nes eu bod yn cynnal partïon i edrych ar y blodau. Mae cofnod o’r traddodiad hwn, sy’n cael ei alw’n hanami, mor bell yn ôl â’r drydedd ganrif Cyn Crist. Mae cynnal picnics yn y gerddi a’r coedlannau’n dal i fod yn beth cyffredin heddiw yn Japan, ac mae’r blodeuo’n cael ei nodi yn y bwletinau newyddion ar y teledu yno. Caiff nwyddau o Japan eu haddurno’n aml â blodau sakura, ac maen nhw’n symbol Japaneaidd rhyngwladol hefyd. Mae harddwch syml, cain a bregus y blodau’n cynrychioli’r arddull ddylunio Japaneaidd.

  3. Yn ogystal â bod yn hynod o hardd, mae’r sakura yn cynrychioli cysyniad diwylliannol Japaneaidd pwysig, sef mono no aware. Mae hyn yn golygu harddwch fel ymwybyddiaeth o fyrhoedledd pethau, a thristwch tyner wrth iddyn nhw ddarfod - sylweddoli nad yw pethau’n para’n hir a derbyn bod pethau’n newid. Does dim byd yn para am byth, ac mae pawb yn ei dro yn heneiddio ac yn marw. Mae bod yn ymwybodol o natur dros dro pethau yn gwneud y prydferthwch, y byddwch chi’n ei brofi ar y foment, yn llawer harddach ac mae’r holl beth yn llawer mwy teimladwy.

  4. Dyna pam y mae’r goeden geirios yn symbol mor ddwfn a chryf yn Japan. Mae tymor byr, ond hynod o hardd, y sakura yn cynrychioli ysblander byr bywyd - mae ei gyfnod yn hardd ond yn fyr, ac mae hynny’n ei wneud y werthfawr. Gall elfen drist fod yn perthyn i amser yn pasio: fe fydd unrhyw un sydd wedi colli ffrind annwyl neu aelod o’r teulu, neu sy’n cofio am eu hieuenctid wrth iddyn nhw heneiddio, yn gallu ategu bod hyn yn wir. Cyn y gallwch chi golli rhywbeth, rhaid i chi fod wedi cael y peth hwnnw yn y lle cyntaf, a does dim posib tynnu’r llawenydd o hynny. Fe allwn ni hefyd fwynhau moment o’r fath gymaint â hynny’n fwy hefyd - fe fyddan nhw’n fwy real ac yn fwy arbennig yn ein golwg - os gwnawn ni sylweddoli na fydd yn para am byth.

Amser i feddwl

Mae llawer peth cyffrous i edrych ymlaen ato yn y dyfodol - mwy o ryddid, mwy o gyfleoedd - ond mae plentyndod a llencyndod yn bethau na ddôn nhw byth yn ôl. Mae ysbryd y mono no aware yn galw arnom ni i werthfawrogi’r hyn sy’n eiddo i ni nawr, oherwydd fydd y pethau hynny ddim yn para am byth. Gwerthfawrogwch lawenydd y foment a nodwch ei fod yn pasio wrth i chi wneud hynny. Ddaw’r pethau hyn ddim yn ôl, ond roedd y profiad yn wych tra roedd yn parhau. Mae llawer o bobl yn treulio’u bywydau’n deisyfu pethau, ac yn dyheu i bethau ddigwydd, ac yn anwybyddu’r pethau sy’n digwydd o’u cwmpas ar y funud honno. Os oes un wers y gallwn ni ei chymryd o’r symbolaeth y mae’r Japaneaid yn ei chysylltu â blodau’r coed ceirios, y wers honno yw: does dim amser tebyg i’r presennol.

Treuliwch foment neu ddwy yn meddwl am y pethau sydd gennych chi ar hyn o bryd, a’u gwerthfawrogi. Nid beth fydd gennych chi neu beth fydd yn digwydd ymhen ychydig funudau, neu ar ddiwedd y diwrnod ysgol, ond nawr. Rydych chi fel y blodau ar y goeden geirios, yn hardd ac yn y presennol.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Turn! Turn! Turn!’ gan Byrds

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon