Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bod Yn Wir Ddynol

Annog y myfyrwyr i ystyried dimensiwn ysbrydol eu bywyd.

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i ystyried dimensiwn ysbrydol eu bywyd.

Paratoad a Deunyddiau

  • Efallai y byddwch yn dymuno dangos ar y sgrin glip ffilm o un o gyfresi teledu David Attenbrough wrth i'r plant ddod i mewn i'r gwasanaeth.

  • Fe fydd arnoch chi angen un Arweinydd a dau Ddarllenydd.

Gwasanaeth

  1. Arweinydd Mae rhaglenni Bywyd Gwyllt, fel y rhai y mae David Attenbrough yn eu cyflwyno, yn dangos i ni rai golygfeydd rhyfeddol o fyd yr anifeiliaid.

  2. Darllenydd 1 Bydd dolffiniaid yn gweithio fel tîm wrth iddyn nhw hela am fwyd, gan orfodi haig o bysgod i'r wyneb lle maen nhw'n fwy agored i gael eu dal ganddyn nhw.

    Darllenydd 2 Mae tsimpansïaid yn defnyddio offer cyntefig i gael gafael ar fêl o grombil bonyn coeden ac i agor hadau a chnau.

    Darllenydd 1 Bydd gwenoliaid yn hedfan pellteroedd enfawr ar draws Anialwch y Sahara ar eu taith ymfudo flynyddol o Affrica i Ewrop.

    Darllenydd 2 Mae pryfed yn byw mewn grwpiau cymdeithasol cymhleth gyda threfniadau clir i ddynodi statws a swyddogaeth.

    Arweinydd Wrth i ni ryfeddu at yr agweddau hyn ar y byd naturiol, mae'n demtasiwn i ni weld ein gilydd yn ddim amgenach nag isrywogaeth sy'n rhannu'r blaned hon. Eto, gellir dadlau bod yna ffyrdd sy'n dangos pa mor wahanol yw bodau dynol i anifeiliaid. Dyma ychydig ohonyn nhw.

    Darllenydd 1 Mae gennym ni, fodau dynol, ddeallusrwydd sydd y tu hwnt i ymatebion greddfol anifeiliaid eraill. Rydyn ni'n gallu ffurfio barn, gwneud penderfyniadau a meddwl am ganlyniadau.

    Darllenydd 2 Mae ein deallusrwydd ni yn ein galluogi i greu technoleg soffistigedig – yn achos cyfathrebu, dulliau o deithio, peirianneg a llawer agwedd arall ar fywyd.

    Darllenydd 1 Gallwn ddarllen ac ysgrifennu, a defnyddio'r sgiliau hyn ar gyfer nifer o ddibennon, o anfon negeseuon testun syml i astudio neu berfformio dramâu Shakespeare.

    Darllenydd 2 Rydym yn dangos ymwybyddiaeth o'r goruwchnaturiol, boed hynny ar ffurf credoau crefyddol, byd dychymyg, neu ofergoelion.

  3. Arweinydd Nid oes creadur arall ar ein planed sy'n arddangos y nodweddion a'r medrau hyn ar unrhyw lefel sy'n uwch na lefel eithaf cyntefig. Mae Cristnogion ac Iddewon yn credu bod hyn oherwydd bod bodau dynol yn neilltuol am ein bod wedi cael ein creu 'ar lun a delw Duw' ac mai ein pwrpas yn y byd yw gofalu am y rhywogaethau eraill sy'n rhannu'r ddaear hon gyda ni.

  4. Dydd Sul, 19 Mai, fydd y Sulgwyn eleni, gwyl sydd hefyd yn adnabyddus fel y Pentecost.  Dyma'r diwrnod pan fydd Cristnogion yn dathlu gwaith Ysbryd Glân Duw yn ei fyd. Ef yw trydydd aelod y Drindod. Y Drindod yw’r modd y mae Cristnogion yn edrych ar Dduw fel person. Yn gyntaf, mae Duw y Tad - yr un sy'n rhoi trefn a ffurf i'r bydysawd. Yn ail, mae Iesu - Duw ar ffurf dyn, yn byw bywyd dynol. Yn olaf, mae'r Ysbryd. Felly beth yw rôl yr Ysbryd?

    Mae Cristnogion yn credu mai'r Ysbryd yw bywyd Duw sydd ar waith ym mhob un ohonom. Dyma'r hyn sy'n ein gwneud ni'n wahanol i weddill byd y creaduriaid, gan roi i ni ddychymyg, meddylgarwch, creadigrwydd, a'r gallu i ryfeddu at y goruwchnaturiol. Ef yw'r un sy'n ein galluogi i gyflawni'r cyfan o'r hyn y clywsom ni amdano’n gynharach.

    Mae'r Sulgwyn hefyd yn dathlu dimensiwn pellach o'i waith. Pan ymadawodd Iesu â'i ddisgyblion, fe addawodd y byddai'r rhai a oedd yn credu ynddo yn derbyn rhodd ychwanegol yr Ysbryd. Roedd hyn fel pe byddai pob bod dynol yn debyg i botel hanner llawn fel bod Duw’n gallu ein llenwi hyd yr ymyl os ydyn ni’n credu ynddo ef ac yn dilyn ei athrawiaethau.

    Beth yw canlyniad y 'llenwad’ hwn o’r Ysbryd? Awgrymodd Iesu ei fod yn cynnig lefel uwch hyd yn oed o bosibilrwydd: bydd gweddi yn effeithiol, syniadau yn fwy dychmygol ac, yn ben ar y cyfan, bydd perthnasedd rhwng pobl yn ddyfnach ac yn agosach.

Amser i feddwl

Arweinydd Byddwn yn sôn am bobl fel bod yn rhai sydd â golwg ar fywyd fel gwydr hanner llawn neu wydr hanner gwag. Mae'n ffordd o ddisgrifio a oes ganddyn nhw agwedd gadarnhaol neu agwedd negyddol at bethau neu atyn nhw eu hunain. Fel y clywsom, mae'r Sulgwyn yn dathlu'r awgrym y gallwn ni fod yn llawn hyd yr ymyl. Efallai mai dyna yw ystyr bod yn wir ddynol.

Gweddi
Annwyl Dduw,
diolch i ti am roi i bob un ohonom rôl neilltuol i chwarae rhan ym mywyd y blaned hon. 
Rydym yn derbyn hynny, ac yn ymrwymo ein hunain i ymddwyn yn gyfrifol. 
Diolch i ti am rodd dy Ysbryd sydd ar waith ynom. 
Boed i ni ganiatáu i ti ein llenwi hyd yr ymyl, fel y gallwn fod yn wir ddynol.

Cerddoriaeth

Are we human or are we dancer?’ gan The Killers

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon