Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bwywdau Cudd 2

Defnyddio ffotograffau o ffoaduriaid trefol gan y ffotograffydd a wobrwywyd, Andrew McConnell, er mwyn annog y myfyrwyr i ystyried sut mae’n teimlo i fod ar goll mewn tyrfa.

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Defnyddio ffotograffau o ffoaduriaid trefol gan y ffotograffydd a wobrwywyd, Andrew McConnell, er mwyn annog y myfyrwyr i ystyried sut mae’n teimlo i fod ar goll mewn tyrfa.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen paratoi un arweinydd a thri myfyriwr i ddarllen.

  • Fe fydd arnoch chi angen copïau printiedig o rai o’r ffotograffau, a’r storïau sy’n cyd-fynd â nhw, o’r arddangosfa o waith Andrew McConnell, neu’r modd o’u dangos ar sgrin. Mae’r rhain i’w cael ar y wefan Hidden Lives (cliciwch ar: www.hidden-lives.org.uk ac mae rhagor o wybodaeth i’w chael hefyd ar: www.bbc.co.uk/news/in-pictures-20900282 a hefyd ar http://vimeo.com/52559188).

  • Ar gyfer cam 7, fe fydd arnoch chi angen copi printiedig o ffotograff o Datt Cung neu’r modd o’i ddangos ar sgrin (cliciwch ar: www.hidden-lives.org.uk/countries/Malaysia/Datt/index.asp

  • Dewiswch gerddoriaeth o ddiwylliant arall sydd o bosib yn anghyfarwydd i gymuned yr ysgol, neu trefnwch i gael recordiad o’r gerddoriaeth ‘An Englishman in New York’ gan Sting, a’r modd o chwarae’r naill gerddoriaeth neu’r llall.

Gwasanaeth

  1. Ar dudalen gartref gwefan Hidden Lives (gwelwch y cyfeiriad uchod) mae sioe sleidiau ddi-dor o ffotograffau Andrew McConnell, y gallech chi eu taflunio ar sgrin yn ystod y cyflwyniad canlynol.

    Arweinydd 
     Llundain, Birmingham, Efrog Newydd, Nairobi, Bangkok, Kuala Lumpur, Port au Prince … dyma rai yn unig o’r dinasoedd mawr ledled y byd y bu’r ffotograffydd llwyddiannus, Andrew McConnell, yn ymweld â nhw wrth weithio ar ei broject o dynnu lluniau ffoaduriaid trefol.

    Roedd y bobl hyn wedi gadael eu teuluoedd, eu swyddi a’u cartrefi, ac wedi ffoi o’u gwlad eu hunain. Roedd gan bob un ohonyn nhw stori wahanol i’w hadrodd ynghylch sut y gwnaethon nhw ddioddef trais, sut y cawson nhw eu herlid, a’u hecsploetio, a sut y gwnaethon nhw a ffoi am eu bywyd. Roedd llawer ohonyn nhw’n ofni y bydden nhw’n cael eu lladd. Roedden nhw wedi ffoi i’r ddinas yn y gobaith o ddod o hyd i rywle lle bydden nhw’n gallu bod yn ddiogel, cael ennill bywoliaeth, a datblygu synnwyr o gymuned.

    Tybed beth wnaethon nhw ei ddarganfod, o ddifrif, pan wnaethon nhw gyrraedd y ddinas fawr? Tybed sut fath o fywyd oedd ganddyn nhw wedyn?

    Daliwch y sioe sleidiau ar saib tra bydd y rhai sy’n darllen yn cyflwyno’u rhannau.

  2. Beth amdanoch chi? Sut byddwch chi’n teimlo pan fyddwch chi’n ymweld â dinas fawr? 

  3. Darllenydd 1  Rydw i wrth fy modd mewn dinas. Ambell dro, fe fydda i’n mynd i Lundain gyda fy ffrindiau, neu i gwrdd â fy nghyfnitherod yno. Fe fyddwn ni’n mynd i’r siopau, ac rydw i wrth fy modd yng nghanol y dyrfa o gwmpas Piccadilly Circus. Ond, wedi dweud hynny, fe fyddwn ni bob amser yn dilyn map i weld ble rydyn ni, ac yn gofalu bod gennym mi arian a ffonau symudol. Fe alla i ddychmygu y byddai bod mewn lle dieithr felly yn beth brawychus iawn pe byddech chi ddim yn adnabod unrhyw un yno, na hyd yn oed yn deall yr iaith y mae’r bobl yn ei siarad yno.

  4. Darllenydd 2  Rydw i’n cofio’r tro cyntaf i mi fynd i’n dinas ni ar fy mhen fy hun ar y bws. Roeddwn i’n eithaf pryderus. Un ar ddeg oed oeddwn i, ac roeddwn i wedi perswadio fy mam fy mod i’n gwybod beth roeddwn i’n ei wneud - ond doeddwn i ddim ychwaith, mewn gwirionedd. Fe wnes i ddod oddi ar y bws sawl stop yn rhy fuan, ac fe fues i’n crwydro yma ac acw am hydoedd. Roedd gen i ormod o ofn gofyn i neb pa ffordd i fynd. Roeddwn i’n hollol ar goll am tuag awr cyn i mi rywsut ddod o hyd i’r parc lle’r oeddwn i fod i gyfarfod fy ffrindiau. Ond, roedden nhw wedi blino disgwyl amdanaf. Mae’n amlwg eu bod wedi meddwl fy mod i wedi penderfynu peidio mynd yno, ac roedden nhw wedi mynd ymlaen heb aros mwy amdanaf. Doedd gen i ddim byd arall i’w wneud wedyn ond dod o hyd i fan aros am fws a mynd yn ôl adref ar fy union. Wnes i erioed yn fy mywyd deimlo mor unig.

  5. Darllenydd 3  Rydw i’n gorfod mynd i’r dref ddwywaith neu dair bob wythnos i weithio mewn siop. Rydw i’n dal i gasáu’r siwrne bob tro. Rydw i’n poeni y bydd rhywun wedi meddwi’n dod ar y bws, neu y bydd rhywun yn fy nilyn i adref. Rydw i’n dychmygu bod perygl ym mhob man. Er bod pobl o fy  nghwmpas bob amser, rydw i’n teimlo’n unig iawn.

    Ail ddechreuwch y sioe sleidiau.

  6. Arweinydd  Gall dinas fawr fod yn lle brawychus. Mae pobl o’ch cwmpas ym mhob man, ond eto fe allwch chi deimlo’n unig iawn yno. Mae llawer o’r ffoaduriaid sydd yn y ffotograffau wedi dianc i’r dinasoedd mawr, ac maen nhw wedi sylweddoli beth yw’r realiti llym. Maen nhw’n byw dan amodau cyfyng iawn. Does ganddyn nhw fawr ddim arian ac maen nhw’n byw mewn ofn yn barhaus.

    Fe dynnodd Andrew McConnell y ffotograffau hyn er mwyn amlygu cyflwr y ffoaduriaid trefol.

    Mae pob ffotograff yn bortread sydd wedi ei osod gyda golygfeydd o’r ddinas yn gefndir iddyn nhw. Mae Andrew McConnell yn pwysleisio’r awyrgylch drefol trwy dynnu lluniau ei wrthrychau yn ystod y nos, gyda chefndir o oleuadau artiffisial yn goleuo strydoedd y ddinas. Mae pob portread wedi ei lwyfannu er mwyn gallu cyfleu’r effaith fwyaf. Rhaid i’r ffotograffydd gael ei olygfa’n union fel mae’n dymuno.

    Wrth i chi edrych yn fanwl ar bob un o’r delweddau hyn, caiff eich llygaid eu tynnu at y manylion sy’n darlunio’r cefndir prysur, yr olygfa ddinesig lawn - ac mae’n hawdd peidio â chymryd sylw o’r unigolyn sydd ym mlaen y llun. Onid yw hyn yn wir mewn sefyllfaoedd yn ein bywyd hefyd? Mae’n hawdd iawn edrych heibio’r unigolyn, a gall hwnnw fod yn unig iawn. Mor hawdd yw hi i rywun fod ar goll, yn ddi-nod, ac yn anweladwy! Yn ninasoedd enfawr gwledydd y byd, mor hawdd yw hi i unigolyn fod yn hollol anhysbys!

    Tra roedd Andrew McConnell yn siarad gyda’r ffoaduriaid, fe wnaeth ddarganfod i ba raddau yr oedd y bobl hyn yn cael eu hanwybyddu a’u hanghofio yn y dinasoedd. Dydyn nhw ddim yn gwybod beth yw eu hawliau. Maen nhw’n aml yn rhy ofnus i fynd allan o’u cuddfannau. Maen nhw’n dioddef yn barhaus o ran cael eu gwahaniaethu. Mae bron yn amhosibl iddyn nhw ddod o hyd i waith. A’r unig beth maen nhw’n gallu ei wneud yw cuddio eu hunain allan o olwg pobl.

  7. Stopiwch y sioe sleidiau unwaith eto a dangoswch y llun o Datt Chung.

    Dyna i chi ddelwedd ryfeddol! Dyma olygfa ddinesig anhygoel, delwedd ardderchog o ddinas Kuala Lumpur yn y nos. Mae’r ddinas enfawr hon, yng ngwlad Malaysia, yn cael ei dangos yn ei holl ysblander gyda’r Petronas Towers enwog wedi eu goleuo i bawb eu gweld.

    Ym mlaen y llun, bron yn anweladwy, mae dyn yn sefyll. Mae golau ar ei wyneb, ac fe allwch chi weld ei grys porffor, ond fe allech chi’n hawdd beidio â sylwi arno oherwydd y cefndir llachar godidog. 

    Mae stori y tu ôl i’r ffotograff hwn. Pan geisiodd y ffotograffydd ddal y ddelwedd ar lefel y stryd, roedd goleuadau llachar y ddinas yn ei gwneud hi’n amhosibl iddo ynysu’r unigolyn yn y llun. Fe chwiliodd yma ac acw am le addas i dynnu’r llun, ac yn y diwedd fe ddewisodd fynd i ben to’r adeilad i wneud hynny. Heb ormod o oleuadau stryd yn agos iawn ato, fe lwyddodd McConnell yn strategol i osod yr unigolyn yn y ffrâm, a thrwy hynny gyfleu’n berffaith y synnwyr o ba mor llethol yw’r ddinas fawr yng ngolwg y ffoadur.

    Mae stori arall y tu ôl i’r ffotograff hwn hefyd, sef y llun o Datt Cung - ffoadur Chin ethnig o Burma, sydd yn awr yn byw yn Kuala Lumpur. Un diwrnod, fe’i harestiwyd am helpu dau o bobl o’i bentref genedigol gyda’u bagiau siopa. Mae’n debyg bod y ddau yn aelodau o Ffrynt Genedlaethol Chin. Cafodd Datt Cung ei holi a’i boenydio am ddau fis. Cafodd ei guro a’i arteithio. Ac yna, fe gafodd ei ddedfrydu i naw mlynedd o fyw mewn gwersyll llafur. Ar ôl wyth mlynedd a phum mis, cafodd ei ryddhau pan ofynnodd Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig i lywodraeth Burma ryddhau carcharorion gwleidyddol. Roedd arno gymaint o ofn cael ei arestio unwaith eto, fe ddihangodd i wlad Malaysia.

    Mae bywyd ym Malaysia yn parhau i fod yn anodd i Datt gan nad yw’n gallu siarad iaith pobl y wlad honno. Mae arno ofn mynd allan oherwydd nid yw wedi cael ei gydnabod fel ffoadur. Mae’n dyheu am y dydd y bydd rhyddid crefyddol a rhyddid ymadrodd yn Burma, fel y caiff fynd yn ei ôl adref i’w wlad ei hun.

Amser i feddwl

Gosodwch her i’r myfyrwyr agor eu llygaid i weld y bobl sydd o’u cwmpas a gweld eu hanghenion.

Arweinydd  Mor hawdd yw hi i ni beidio â gweld yr unigolyn yn y ddinas! Mor hawdd yw hi i ni beidio â gweld yr unigolyn mewn tyrfa! 

Rydyn ni’n byw gyda ffoaduriaid o’n cwmpas ni yn ein dinasoedd, ond dydyn ni ddim yn sylwi arnyn nhw. Fe allai’r unigolyn sy’n eistedd gyferbyn â chi ar y bws neu’r trên tanddaearol fod yn ffoadur. Fe allai’r unigolyn sydd o’ch blaen chi yn y ciw yn y siop fod yn ffoadur, neu efallai bod rhywun sy’n byw heb fod ymhell oddi wrthych chi’n ffoadur.

Pa mor hawdd yw hi i anghofio bod stori’n perthyn i bob unigolyn? Dyna hawdd yw hi i ni anghofio bod gan bob unigolyn ei anghenion ei hun.

Yn ein bywydau prysur, o ddydd i ddydd, rydyn ni wedi ein hamgylchynu ag unigolion, ond fyddwn ni ddim yn sylwi arnyn nhw. Efallai bod yr unigolyn sy’n eistedd agosaf atoch chi yn y gwasanaeth hwn, neu yn eich dosbarth, yn mynd trwy gyfnod anodd. Efallai bod yr unigolyn hwnnw sy’n eistedd ar ben ei hun yn yr ystafell ginio’n dyheu am gael rhywun i sgwrsio ag ef neu hi. 

Efallai mai chi yw’r unigolyn hwnnw. Efallai eich bod chi’n teimlo’n unig. Efallai bod gennych chi stori sydd angen i rywun ei chlywed.

Boed i chi ddarganfod bod rhywun yno i chi, ar yr adeg y mae arnoch chi angen rhywun - yn union fel y gallwch chi fod yno i rywun arall heddiw.

Gadewch i ni ddiweddu ein gwasanaeth heddiw gyda gweddi fechan. Fe allech chi wneud y geiriau canlynol yn eiriau gweddi i chi eich hunan os dymunwch chi.

Gweddi
Annwyl Dduw,
rydyn ni’n cofio am y ffoaduriaid sy’n byw dan amgylchiadau anodd mewn dinasoedd mawr yn ein byd, a gweddïwn eu bod yn cael eu trin fel unigolion, ac nid fel ystadegau.
Rydyn ni’n diolch am waith pobl fel Andrew McConnell, ac yn gobeithio y bydd ei arddangosfa yn codi ymwybyddiaeth ymysg pobl am ffoaduriaid trefol.
Helpa ni i weld yr unigolyn yn y dyrfa.
Helpa ni i wrando ar hanesion pobl eraill.
Helpa ni i fod yno i rywun arall heddiw.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Chwaraewch y gerddoriaeth rydych chi wedi ei dewis o ddiwylliant arall, gan ofyn i’r myfyrwyr geisio dychmygu sut deimlad yw bod yn ffoadur mewn dinas ddieithr, neu chwaraewch y gân ‘An Englishman in New York’ gan Sting.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon