Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Un Noson Cafodd Dyn Freuddwyd

Ystyried y neges sy’n cael ei chyfleu yn y gerdd boblogaidd ‘Footprints in the sand’. (Gwelwch addasiad Cymraeg tua’r diwedd)

gan Helen Bryant

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Ystyried y neges sy’n cael ei chyfleu yn y gerdd boblogaidd ‘Footprints in the sand’. (Gwelwch addasiad Cymraeg tua’r diwedd)

Paratoad a Deunyddiau

  • Llwythwch i lawr gopi o’r gerdd i’w harddangos ar sgrin – gyda’r fersiwn Saesneg, mae delweddau hyfryd i’w cael ar ffurf poster.

  • Fe fydd arnoch chi angen paratoi recordiad o gerddoriaeth fyfyriol, dawel, fel cerddoriaeth Enya, a’r modd o chwarae’r gerddoriaeth honno yn y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Weithiau, fe fyddwn ni’n teimlo bod bywyd yn anodd i ni. Mae pethau fel pe bydden nhw’n mynd yn drech na ni. Mae pawb yn disgwyl gormod gennym ni, ac fe fyddwn ni’n teimlo na allwn ni oddef rhagor. Efallai mai oherwydd ein bod wedi blino y mae hynny, neu efallai bod gennym ni ormod o waith i’w wneud. Ond, fe allen ni fod yn teimlo dan straen am resymau mwy difrifol hefyd. Beth bynnag yw’r rheswm, fe fyddwn ni i gyd, o dro i dro, yn teimlo bod pethau’n mynd yn ormod i ni. 

  2. Tybed beth fyddwch chi’n ei wneud ar adegau felly? Fyddwch chi’n teimlo dan bwysau, ac yn ddrwg eich hwyl, gan fod yn gas gyda phawb o’ch cwmpas? Fyddwch chi’n encilio, ac yn cau eich hunan oddi wrth bawb arall am nad oes arnoch chi awydd siarad, gan obeithio y bydd y teimlad yn diflannu mewn sbel? Neu a ydych chi’n ymateb trwy actio bod yn hapus a llawen ac ymddangos fel pe byddai popeth yn iawn? Mae’r wyneb yn dweud wrth y byd y tu allan fod popeth yn grêt, ond mewn gwirionedd mae eich tu mewn yn ddolurus. Efallai nad ydych chi’n ymateb mewn unrhyw un o’r ffyrdd hyn, neu efallai eich bod chi’n ymateb trwy gymysgiad o’r gwahanol fathau o ymddygiad. Efallai eich bod yn chwarae eich cerddoriaeth yn uchel iawn ac yn canu dros y lle! 

  3. Yn aml, fe fydd pobl sy’n dilyn crefydd neilltuol yn honni bod gweddïo ar Dduw’n eu helpu, ac yn rhoi iddyn nhw’r nerth y maen nhw ei angen ar adegau fel hyn. Nawr, mae’n debyg nad yw pawb sydd yma’n dilyn crefydd benodol, nac yn rhoi eu ffydd yn Nuw, ond tybed a oes rhywbeth yn y crefyddau hyn y gallen ni ei ddefnyddio neu droi ato ar adegau anodd?  

  4. Gadewch i ni ddechrau gyda Bwdhaeth. Mae Bwdhyddion yn credu yn y tri thrysor neu’r tair gem (jewels), ac yn ceisio noddfa ynddyn hwn. Y trysorau hyn yw’r Bwdha a’i esiampl, y Dharma sef athrawiaethau allweddol y Bwdha, a’r Sangha a chymuned y Bwdhyddion. Mae Bwdhyddion yn cael neu’n chwilio am noddfa yn y tair elfen hon o’u crefydd. Ond y rhan bwysig yw ceisio’r noddfa.

    Meddyliwch am dri pheth arbennig iawn neu dri o bobl y gallech chi droi atyn nhw er mwyn cael arweiniad, help a sicrwydd. Awgrymodd rhywun, wrth i mi ofyn y cwestiwn hwn iddi, mai ei thri thrysor hi fyddai clustog, duvet a theisen. Allwch chi feddwl am dri pheth sy’n rhoi cysur i chi neu y gallech chi lynu wrthyn nhw er mwyn cael noddfa ynddyn nhw pan fydd pethau’n mynd yn anodd i chi?

  5. Yr ail grefydd yr hoffwn i chi ei hystyried yw Cristnogaeth. Mae rhai Cristnogion yn gweld yr Ysbryd Glân fel un sy’n helpu neu ‘paraclete’, sef y gair Groeg am rywun sy’n cydgerdded â chi ac yn eich helpu ar hyd y ffordd. Mae’r helpwr hwn yn anweladwy, ond mae Cristnogion yn credu mai grym Duw ar waith yn y byd ac o’u mewn sydd yn eu harwain trwy’r treialon a ddaw i’w rhan.

  6. Mae’r gerdd enwog ‘Footprints’ – y mae addasiad ohoni’n dilyn – yn darlunio’n berffaith y syniad hwn o’r Ysbryd Glân yn gwneud yr union beth yr oeddwn i’n sôn amdano. Efallai yr hoffech chi gau eich llygaid wrth i chi wrando ar eiriau’r gerdd pan fyddaf yn ei hadrodd i chi, a dychmygu’r olygfa y mae’r gerdd yn ei disgrifio.

    Darllenwch y gerdd.

Olion traed yn y tywod

Breuddwydiais un noson fy mod yn cerdded ar hyd y traeth 
gyda’r Arglwydd. 

Fflachiai golygfeydd o fy mywyd yn yr awyr o’m blaen. 
Ym mhob golygfa sylwais ar olion traed yn y tywod. 
Weithiau roedd yno ddwy set, un yn eiddo i mi, a'r llall yn eiddo'r Arglwydd.

Ond sylwais mai dim ond un set o olion traed oedd i'w gweld ar rai adegau yn fy mywyd, a’r adegau rheini oedd adegau tristaf ac isaf fy mywyd. Dyna’r adegau pan oeddwn wedi dioddef ing a thristwch, galar a gofid.                   

Mewn penbleth, fe holais yr Arglwydd am hyn. 

“Fe addewaist i mi, Arglwydd, pe byddwn i’n dy ganlyn di 
y byddet ti’n cerdded gyda mi, yr holl ffordd. 
Ond rydw i wedi sylwi, ar yr adegau mwyaf helbulus yn fy mywyd, 
mai dim ond un set o ôl traed sydd i’w gweld yn y tywod.
Mae'n anodd deall, ar yr adegau hynny, pan oeddwn dy angen di fwyaf,

doeddet ti ddim ar gael, doeddet ti ddim yno i mi. Pam?”

Atebodd yr Arglwydd, “Fy mhlentyn annwyl, rwy'n dy garu di ac ni'th adawaf fyth. 
Yng nghanol dy ddioddef a'th dreialon, 
pan nad oedd ond un set o ôl traed i'w gweld, 
– dyna'r adeg roeddwn i’n dy gario di.”

 (addasiad o gerdd a briodolir i Mary Stevenson, 1936) 

Amser i feddwl

Hyd yn oed os nad ydych chi’n credu yn Nuw na’r Ysbryd Glân, mae’r syniad bod rhywun yno sy’n gallu cymryd eich beichiau chi, a’ch helpu chi, yn gallu bod yn gysur mawr. Fe all yr help hwnnw fod ar ffurf annisgwyl, ac o bosib ddim o angenrheidrwydd yn y ffordd y byddech chi’n dymuno iddi fod ar y dechrau. Ond cymrwch y cyfle mae’n ei roi i chi gael gorffwys ac ysgafnhau’r baich rydych chi’n ei gario. Efallai eich bod yn gwneud yn well nag a feddyliech chi, ond os yw pethau’n mynd yn drwm ac anodd, chwiliwch am rywun i roi noddfa neu loches i chi, neu i gerdded gyda chi, a rhoi’r anogaeth i chi i ddal ati.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Chwaraewch y gerddoriaeth fyfyriol rydych wedi ei dewis wrth i’r myfyrwyr ymadael â’r gwasanaeth.

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon