Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Paratoi Ar Gyfer Arholiadau

Helpu’r myfyrwyr i oresgyn straen sy’n gysylltiedig ag adeg arholiadau, a’u paratoi fel eu bod yn barod yn gorfforol, yn emosiynol, yn ddeallusol ac yn ysbrydol, ar gyfer sefyll eu harholiadau.

gan Tim and Vicky Scott

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Helpu’r myfyrwyr i oresgyn straen sy’n gysylltiedig ag adeg arholiadau, a’u paratoi fel eu bod yn barod yn gorfforol, yn emosiynol, yn ddeallusol ac yn ysbrydol, ar gyfer sefyll eu harholiadau.

Paratoad a Deunyddiau

  • Casglwch wybodaeth ar lein am fapio meddwl - techneg ddefnyddiol i baratoi ar gyfer arholiadau (ar y wefan: http://en.wikipedia.org/wiki/Mind_map ac, er mwyn gweld enghraifft o fap meddwl i baratoi ar gyfer arholiadau, gwelwch: www.mindmapart.com/get-ready-for-exams-mind-map-jane-genovese http://www.mindmapart.com/get-ready-for-exams-mind-map-jane-genovese).

  • Lluniwch fap meddwl sy'n dangos rhai o'r cynghorion y sonnir amdanyn nhw islaw a defnyddiwch daflunydd neu ryw ddull arall i'w arddangos yn y gwasanaeth.

  • Paratowch saith o ddisgyblion i egluro'r cynghorion yn y gwasanaeth.

Gwasanaeth

  1. Felly, maen nhw ar y ffordd – mae'r arholiadau ar y gorwel! Heddiw, rydyn ni'n mynd i feddwl sut y gallwn ni gadw ein pwyll a goroesi. 
  2. Dyma rai cynghorion – cadwch olwg ar y map meddwl wrth i ni fynd trwyddyn nhw.

 

Myfyriwr 1 Cadwch bersbectif cytbwys ar eich arholiadau. Bydd y byd yn parhau i droi ar ôl i chi eu cwblhau a bydd yr haul yn parhau i godi yn y bore ac yn machlud yn yr hwyr!

Myfyriwr 2 Cynlluniwch ymlaen llaw a gwobrwywch eich hun. Lluniwch amserlen cyfri'n ôl ar gyfer eich cyfnod astudio - efallai y byddwch yn gallu cael hyd i ap ar eich ffôn fydd yn eich helpu chi i wneud hyn. Cyfrifwch faint o ddyddiau y bydd yn ofynnol i chi eu treulio’n astudio pob pwnc er mwyn bod yn barod i sefyll yr arholiad. Pam? Bydd hyn yn eich helpu i flaenoriaethu a bydd yn creu syniad o frys i'ch gyrru ymlaen tuag at lwyddiant yn yr arholiad! Lluniwch ‘gynllun ymosod’ ar gyfer eich adolygu!

Myfyriwr 3 Adolygwch yn greadigol – trwy ganu, tynnu lluniau, neu beth bynnag - defnyddiwch eich synhwyrau i gyd!

Myfyriwr 4
 Torrwch gynnwys eich arholiad i lawr i becynnau hylaw, darnau bach. Allwch chi ddim bwyta eliffant ar un gegaid! Crëwch gynllun ac ewch i’r afael â rhan ohono bob dydd. Gwnewch yn siwr eich bod yn cymryd egwyl yn rheolaidd. Weithiau mae  camu i ffwrdd oddi wrth y gwaith adolygu am ysbaid i wneud rhywbeth arall, fel mynd am dro, yn gallu eich helpu i glirio'ch pen a’ch adfywio fel eich bod y cyflawni mwy nag y byddech chi wedi ei wneud pe byddech wedi cadw'ch trwyn ar y maen am oriau.

Myfyriwr 5 Cofiwch ymarfer cwestiynau a cheisio egluro'r syniadau a'r cysyniadau yr ydych yn eu hadolygu i'ch ffrind. Un o'r ffyrdd gorau i baratoi at arholiad yw i chi ysgrifennu'ch arholiad eich hun! Wrth i chi adolygu, ysgrifennwch gwestiynau y credwch chi y byddai’n bosib iddyn nhw ymddangos ar y papur arholiad.

Myfyriwr 6 Gofalwch am eich meddwl a'ch corff. Yfwch ddigon o ddwr. Ydych chi eisiau gwybod un gyfrinach ynghylch sut i lwyddo mewn arholiadau? Cwsg! Os ydych chi'n teimlo nad ydych yn gwybod popeth y dylech ei wybod, ac yn teimlo eich bod allan o'ch dyfnder yn gyfan gwbl, un o'r pethau gorau y gallwch ei wneud yw mynd i'r gwely! Mae cael noson dda o gwsg yn ffordd naturiol o liniaru straen. Dylech amcanu i gael rhwng chwech ac wyth awr o gwsg bob nos, yn cynnwys ar y noson cyn eich arholiad. Bwytewch yn iachus a gwnewch yn siwr eich bod yn bwyta brecwast da. Yfwch ddigonedd o ddwr. Peidiwch â bwyta gormod o fwyd siwgwrllyd nac yfed gormod o ddiodydd egni - er eu bod, ar y cychwyn, yn gallu rhoi hwb i chi, bydd eich lefelau egni yn gostwng yn sydyn iawn ar ôl hynny. Gall ‘bwydydd ymennydd’ fel cnau a ffrwythau fod yn fuddiol i chi.

Myfyriwr 7 Yn ôl geiriau'r gân Saesneg, ‘Don’t worry, Be Happy!’ ceisiwch leihau'r straen. Mae straen yn ymyrryd â dysgu. Meddyliwch yn gadarnhaol – fe allwch chi wneud! Jyst gwnewch eich gorau glas - dyna'r gorau y gallwch chi ei wneud.

Amser i feddwl

Paratowch yn ysbrydol ar gyfer yr arholiadau trwy weddïo cyn unrhyw sesiwn adolygu a'r arholiadau eu hunain. Efallai mai dim ond un gair y byddwch yn ei ddweud wrth Dduw – ‘Help’! Mae Duw yn gofalu am bob agwedd ar ein bywyd ac eisiau i ni lwyddo. Gall gweddïo eich dwyn yn nes at Dduw a pheri i chi deimlo ychydig yn gryfach ac wedi ymlacio wynebu adegau o brawf.

Cofiwch - os byddwch od ddifrif yn teimlo'n wir wedi'ch gorlethu, gallwch drafod hynny gyda'ch athrawon, ffrindiau neu arweinyddion sydd i gyd wedi bod mewn sefyllfa debyg rywdro yn eu bywydau. Fel y dywed yr hen ddihareb Saesneg, sydd mor wir, ‘a problem shared is a problem halved.’  

Gweddi 
Annwyl Dduw,
helpa fi i gynnal y persbectif cywir ar gyfer fy arholiadau, 
a pheidio â mynd i banig a gorlethu fy hun, ond yn hytrach i ymddiried ynot ti.
Helpa fi i gynllunio a pharatoi'n dda, i gysgu'n dda, a bwyta'n iachus. 

Cerddoriaeth

Rhapsody in Blue’ gan George Gershwin

Dyddiad cyhoeddi: Mai 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon