Yr Atgyfodiad A Mwy
Helpu’r myfyrwyr i weld pa mor rhyfeddol oedd atgyfodiad Iesu Grist, mewn gwirionedd, a gweld sut y gwnaeth y bobl a ddaeth i wybod am hynny gyntaf ddweud yr hanes wrth bobl eraill, a beth oedd yr ymateb.
gan The Revd John Challis
Addas ar gyfer
- Cyfnod Allweddol 3
Nodau / Amcanion
Helpu’r myfyrwyr i weld pa mor rhyfeddol oedd atgyfodiad Iesu Grist, mewn gwirionedd, a gweld sut y gwnaeth y bobl a ddaeth i wybod am hynny gyntaf ddweud yr hanes wrth bobl eraill, a beth oedd yr ymateb.
Paratoad a Deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen sgarff merch a thei dyn – y ddwy eitem yn bethau ail law, wedi eu prynu o siop elusen efallai, neu’n bethau sydd ar fin cael eu taflu. Mae’r ddau beth yn mynd i gael eu torri, felly dim byd gwerthfawr!
- Tua phythefnos cyn y gwasanaeth soniwch wrth un athrawes ac un athro beth yw eich bwriad, a gofynnwch iddyn nhw eich helpu. Gorau oll os yw un yn bennaeth yr ysgol! Rhowch y sgarff a’r tei iddyn nhw, gan ofyn fydden nhw’n fodlon gwisgo’r eitem i ddod i’r ysgol yn awr ac yn y man yn ystod y pythefnos sydd i ddod, a’u gwisgo wedyn ar ddiwrnod y gwasanaeth.
- Fe fydd arnoch chi angen siswrn gweddol fawr, a hwnnw wedi ei adael yn ystafell yr athrawon, neu mewn man cyfleus arall, ond heb fod yn amlwg wedi cael ei osod yn fwriadol. Gofalwch ei fod mewn lle diogel, ac na fydd unrhyw un o’r plant yn dod o hyd iddo. Yn ddelfrydol paratowch aelod arall o’r staff fel y byddwch yn gallu gofyn iddo ef neu hi ar y pwynt penodol yn y gwasanaeth i fynd i nôl y siswrn i chi o ble bynnag y mae’n cael ei gadw.
Gwasanaeth
- Dechreuwch y gwasanaeth mor ddiddychymyg ac mor ddifflach ag y gallwch chi. Soniwch am atgyfodiad Iesu Grist, gan ddweud pa mor rhyfeddol oedd y digwyddiad hwnnw. Pan fyddwch chi’n meddwl bod y myfyrwyr yn ymddangos fel pe bydden nhw’n colli diddordeb yn yr hyn sydd gennych chi dan sylw, dywedwch eich bod wedi newid eich meddwl. Na, dydych chi ddim am fynd ymlaen â’r gwasanaeth fel roeddech chi wedi bwriadu. Yn hytrach, rydych chi am wneud rhywbeth arall, mwy cyffrous. Dywedwch fod atgyfodiad Iesu’n beth mor rhyfeddol fe newidiodd y byd, ac roedd yn beth mor syfrdanol fel eich bod eisiau gwneud rhywbeth na fydd y myfyrwyr yn ei anghofio.
- Gofynnwch i’r athrawes, yr oeddech chi wedi trefnu gyda hi o flaen llaw, am gael benthyg ei sgarff, a gofynnwch i oedolyn arall fynd i nôl y siswrn i chi. Yna, tra bydd y person hwnnw’n mynd i nôl y siswrn, siaradwch am yr atgyfodiad ac egluro ei fod yn brofiad hynod o ysgytwol i’r rhai hynny a fu’n dystion i’r digwyddiad. Ac ychwanegwch fod y bobl rheini, wedyn, wedi mynd a dweud yr hanes wrth gymaint o bobl ag y gallen nhw.
- Pan ddaw’r oedolyn â’r siswrn i chi, fe fydd y myfyrwyr yn chwilfrydig iawn ac yn ceisio meddwl beth rydych chi’n mynd i’w wneud, felly peidiwch ag oedi gormod. Er hynny, fe allwch chi wneud tipyn bach o sioe o’r peth hefyd. Efallai y gallech chi ofyn i ddau o’r gynulleidfa ddod i ddal y sgarff, un bob pen iddo. Yna, yn syml, torrwch y sgarff yn ddau ddarn. Dywedwch, ‘Wel dyna i chi rywbeth sydd wedi eich syfrdanu!’ Oedwch am eiliad, yna dywedwch, ‘Mae rhai ohonoch chi’n siwr o fod yn dechrau amau, ac yn meddwl mai rhyw fath o dric yw hwn.’
- Cerddwch at yr athro sy’n gwisgo’r tei a gafodd gennych chi, a thorri’r tei yn ei hanner. Dewch a’r darn rydych chi wedi ei dorri i’r tu blaen i’w ddangos, a dywedwch, ‘Nawr, rydw i’n gweld eich bod wedi rhyfeddu – wedi cael sioc – felly yn union yr oedd y bobl yn amser Iesu Grist wedi cael sioc, ac yn rhyfeddu at yr atgyfodiad.’
- Clymwch y ddau ddarn o sgarff gyda’i gilydd a’i gynnig yn ôl i’r athrawes, gan ymddiheuro. Ymddiheurwch hefyd i’r athro sydd yn awr â dim ond hanner tei am ei wddf!
- Yna, dywedwch, ‘Ddiwedd y pnawn, pan ewch chi adref, soniwch wrth eich teulu a’ch ffrindiau am yr hyn welsoch chi yn y gwasanaeth heddiw. Fe fydd rhai o’ch teulu’n eich credu chi, ac yn holi mwy arnoch chi er mwyn ceisio deall yr hyn welsoch chi, ac yn ymddiddori yn yr hyn a ddigwyddodd – digwyddiad sydd wedi achosi tipyn o syndod. Fydd rhai pobl, efallai, ddim yn eich credu chi. Ac er i chi ddweud eich bod o ddifrif, fyddan nhw ddim yn eich credu. O bosib y bydd rhai yn holi’r athrawon pan fyddan nhw’n dod i’r ysgol y tro nesaf ynghylch yr hyn a ddigwyddodd, ac yn holi a oedd yr hyn roeddech chi’n ei ddweud yn wir. Felly, ceisiwch feddwl sut roedd y bobl gyntaf a welodd Iesu, ar ôl iddo atgyfodi, yn teimlo. Roedd rhai pobl yn eu credu wrth iddyn nhw ddweud yr hanes. Roedd rhai eraill eisiau rhyw fath o dystiolaeth. Ac mae’n siwr bod rhai eraill yn dweud na allai’r fath beth byth fod wedi digwydd.
- Mae Cristnogion yn credu hanes yr atgyfodiad am fod cenedlaethau wedi darllen y Beibl. Mae’r Beibl yn gofnod o’r newyddion a ysgrifennwyd gan y rhai a welodd yr hyn a ddigwyddodd, ac a oedd yn awyddus i ddweud wrth bawb am y peth, er mwyn i bawb ddod i wybod. Does dim rhaid i ni fod wedi gweld rhywbeth yn digwydd eich hunan er mwyn credu. Roedd yr atgyfodiad yn ddigwyddiad mor ysgytiol, fe newidiodd y byd.
- Nodwch fod y gwasanaeth hwn yn aml yn creu cymaint o argraff fel bod y myfyrwyr yn dal i gofio amdano wedyn. Rydw i wedi hongian darnau o’r sgarff a’r tei yn yr ysgol, a phan fydd y gwasanaeth diwedd tymor, neu achlysur arall pan fydd y teuluoedd yn dod i mewn i’r ysgol, rydw i wedi cael perthnasau i’r myfyrwyr yn dod ataf ac yn dweud, ‘Felly, fe wnaethoch chi dorri’r sgarff a’r tei, o ddifrif.’ Ac mae hyn yn rhoi cyfle arall i chi ddweud rhywbeth ynghylch pam nad oes raid i ni weld rhywbeth cyn credu ac ymddiried yn yr hyn y mae sôn amdano yn y Beibl. ’
Amser i feddwl
Weithiau, fydd pobl ddim yn ein credu ni, hyd yn oed pan fyddwn ni’n gwybod bod yr hyn rydyn ni wedi ei weld yn wir. Hefyd, weithiau mae’n rhaid i ni ddysgu trystio pobl eraill pan fyddan nhw’n dweud rhywbeth wrthym ni, waeth pa mor syfrdanol yw’r peth hwnnw, neu waeth pa mor anghrediniol y byddwn ni. Mae dysgu trystio rhywun, neu fod â ffydd ynddo ef neu hi, yn rhywbeth y gallwn ni dreulio ein hoes gyfan yn ei wneud. Mae ymadrodd Saesneg sy’n dweud ‘Seeing is believing’, ond does dim rhaid i chi weld cyn credu bob tro. Fe allwn ni gredu am ein bod ni’n gwybod fod y person arall yn dweud y gwir.
Gweddi
Annwyl Iesu,
fe wnaeth dy atgyfodiad di newid y byd.
Helpa ni, y rhai na welodd hynny’n digwydd, i gredu geiriau’r rhai a’i gwelodd.
Wrth i ni ddweud wrth eraill am ein ffydd, agor ein calon i weld dy fod ti wedi marw, ac wedi codi o farw’n fyw wedyn, ac i sylweddoli y byddi di’n dod i’r byd eto.