Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Beth Pe Byddai Arweinwyr Y Byd Yn Blant?

Ystyried y broblem fyd-eang enfawr o dlodi, wrth ddysgu am yr ymgyrch yn erbyn tlodi byd - ymgyrch o’r enw ‘Enough Food For Everyone IF’.

gan Peter Shaw

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 3

Nodau / Amcanion

Ystyried y broblem fyd-eang enfawr o dlodi, wrth ddysgu am yr ymgyrch yn erbyn tlodi byd - ymgyrch o’r enw ‘Enough Food For Everyone IF’.

Paratoad a Deunyddiau

  • Mae’r gwasanaeth hwn yn canolbwyntio ar ffilm gan yr ymgyrch sydd wedi ei threfnu i fynd i’r afael â thlodi byd -  ‘Enough Food For Everyone IF’ (sy’n cael ei rhedeg gan glymblaid o 150 o elusennau, mudiadau, a grwpiau ffydd, yn cynnwys Oxfam, Cymorth Cristnogol, Unicef, ac ati). Fe welwch y ffilm ar: www.youtube.com/watch?feature=player_embedded&v=x-E3iPJZ6_g
  • Paratowch ar gyfer y gwasanaeth trwy wylio’r ffilm eich hunan ddwy neu dair o weithiau. Hefyd, trefnwch fod gennych chi fodd o ddangos y ffilm yn ystod y gwasanaeth, i’r plant ei gweld.
  • Saith pecyn o felysion neu losin, ac un losinen sengl ar gyfer cam 5 (dewisol).
  • Fe fyddai’r gwasanaeth hwn yn gymwys i’w gyflwyno adeg diolchgarwch am y cynhaeaf hefyd.

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch trwy ddweud bod grwp o wyth o bobl fwyaf grymus o rai o wledydd cyfoethocaf y byd yn cyfarfod yn rheolaidd i siarad am faterion pwysig, fel masnach, busnes a bwyd.
  2. Gofynnwch i'r myfyrwyr greu darlun yn eu meddwl o sut rai yw arweinwyr y byd.  Awgrymwch eu bod fel arfer yn ddynion a merched hyn, wedi eu gwisgo mewn siwtiau smart, gyda sbectol, a golwg ddifrif iawn arnyn nhw. Yna, gofynnwch iddyn nhw i ddychmygu sut y byddai’r sefyllfa pe byddai arweinwyr y byd, mewn gwirionedd, yn grwp o blant.  Pa fath o gyfarfod a fyddai hwnnw? Gwahoddwch bawb i edrych ar y ffilm fer, yna dechreuwch ei dangos.
  3. Eglurwch fod y mater dan sylw gan y plant yn y ffilm yn broblem real ledled y byd. Mae un o bob wyth o bobl y byd yn newynu, a ddim yn cael digon o fwyd i'w cynnal o ddydd i ddydd. Eglurwch beth mae hyn yn ei olygu - pe byddai 16 o unigolion mewn dosbarth, byddai 14 yn cael digon o fwyd, ond ni fyddai gan 2 ohonyn nhw ond ychydig o fwyd. Neu, pe byddai 24 o unigolion mewn dosbarth, fe fyddai 21 â digon o fwyd i'w fwyta, ac fe fyddai 3 yn newynu. Gofynnwch iddyn nhw sut y bydden nhw'n teimlo pe bydden nhw ymhlith y rhai heb fwyd, ac yn newynu?
  4. Nawr, gofynnwch iddyn nhw, pe bydden nhw mewn dosbarth lle'r oedd dau neu dri o'u cyfeillion heb fwyd, beth fydden nhw'n ei wneud? A fydden nhw'n bwyta eu cinio canol dydd i gyd, heb boeni am y rhai oedd â chyn lleied o fwyd. A fydden nhw'n cynnig peth o'u bwyd eu hunain i'r lleill? 
  5. Fe allech chi ddatblygu'r syniad ymhellach trwy gael wyth myfyriwr i ddod ymlaen atoch chi i’r tu blaen a rhoi paced o felysion neu losin i saith ohonyn nhw, a dim ond un losinen fach i’r un arall. Fe allech chi ofyn i'r myfyrwyr sydd â phacedi o felysion sut maen nhw'n teimlo wrth gael bag cyfan o felysion iddyn nhw’n hunain. Yna gofynnwch i'r unigolyn sut y mae ef neu hi'n teimlo wrth gael dim ond un losinen tra bo'r saith arall wedi cael paced cyfan yr un? Gofynnwch iddyn nhw i gyd beth fyddai'r ffordd decaf o ddatrys y broblem?
  6. Ar gyfer ysgolion Eglwys, fe allech chi ddweud wrth y myfyrwyr bod y Beibl yn dweud fod Duw yn gofyn i ni edrych ar ôl pobl sy'n llai ffodus na ni ein hunain - yn neilltuol felly y tlodion sydd yn aml yn byw heb ddigon o fwyd i'w cynnal. Darllenwch yr adnodau canlynol o Lyfr y Diarhebion (31.8-9):

    'Dadlau o blaid y mud, a thros achos yr holl rai diobaith. Siarad yn eglur, a rho farn gyfiawn; cefnoga achos yr anghenus a'r tlawd.'

    Gofynnwch i'r myfyrwyr ystyried sut y mae Duw yn teimlo am fyd lle mae un o bob wyth o bobl yn newynu, a pha beth y byddai'n ei ofyn i bob un ohonom ni ei wneud ynglyn â’r sefyllfa.

Amser i feddwl

Rydym i gyd yn hoffi cael ein trin yn deg.
Dydyn ni ddim yn hoffi pan fydd pobl eraill yn cael mwy na'r hyn a gawn ni. Fe fyddwn ni’n teimlo bod hynny’n annheg.
Bydd un o bob wyth o bobl y byd yn mynd i'w gwely heno’n newynog, ond mae digon o fwyd yn y byd i fwydo pawb.
Beth gawn ni ei wneud i sicrhau bod pawb yn y byd yn cael digon o fwyd?
Sut gallwn ni fod yn fwy haelionus â phobl o'n cwmpas sydd â llai o bethau na ni?

Gweddi

Dduw,
rwyt ti’n cael dy adnabod fel y darparwr.
Gofynnwn i ti weithio yng nghalonnau a meddyliau arweinwyr y byd.
Gofynnwn i ti eu helpu i greu byd sy'n decach, fel bod pawb yn gallu bwyta'r hyn y mae ei angen arnyn nhw.
Diolch i ti am ddarparu digon o fwyd yn y byd.

Helpa ni i fod yn hael a rhannu gydag eraill.

Cerddoriaeth

God of the poor (Beauty for brokenness)’ gan Graham Kendrick - y gerddoriaeth i’w chael ar y wefan: www.grahamkendrick.co.uk/songs/item/32 neu ‘Justice and mercy’ gan Matt Redman ar: www.worshiparchive.com/song/justice-and-mercy.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon