Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bywydau Cudd 3

Amlygu’r tywyllwch ym mywyd y ffoaduriaid trefol.

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Amlygu’r tywyllwch ym mywyd y ffoaduriaid trefol.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Arweinydd Yn y gwasanaeth heddiw, fe fyddwn ni’n sôn am dywyllwch, a’r cwestiwn cyntaf sydd gen i i’w ofyn i chi yw, ‘Oes arnoch chi ofn y tywyllwch?’

    Darllenydd 1 Alla i ddim dweud bod gen i ofn y tywyllwch, ond rhaid  i mi gyfaddef, dydw i ddim yn hoffi cerdded adref o’r Clwb Ieuenctid yn y nos pan fydd hi’n dywyll. Er fy mod yn gyfarwydd iawn â’r strydoedd, mae’r awyrgylch yno’n wahanol yn y nos. Allwch chi ddim gweld yn iawn beth sy’n cuddio y tu ôl i’r llwyni, neu allwch chi ddim dweud a yw’r person sy’n dod i’ch cyfeiriad yn cario cyllell ai peidio. Rydw i’n gwybod mai fy nychymyg i sy’n chwarae triciau â mi, ond fe fydda i bob amser yn falch o gyrraedd drws y ty’n ddiogel. 

    Darllenydd 2 Wel, mae gen i broblem go iawn gyda’r tywyllwch. Dydw i erioed wedi gallu cysgu heb gael golau yn fy ystafell. Dwi’n gwybod fy mod i’n wirion, a does dim byd yno, ond yn wir rydw i wedi trio o ddifrif. Ond yr eiliad y mae’r golau wedi ei ddiffodd rydw i’n dechrau gweld cysgodion rhyfedd ac yn dechrau clywed synau od, ac wedyn rydw i’n mynd yn  ofnus. Rydw i’n teimlo’n gymaint o ffwl pan fydda i’n mynd am ‘sleepovers’, ond y nos yw’r rhan waethaf o unrhyw bedair awr ar hugain i mi, a does dim y galla i ei wneud am y peth!

    Darllenydd 3
     Rydw i wrth fy modd gyda’r tywyllwch. Mae mynd am dro yng ngolau’r lleuad yn fy nghyfareddu. Mae popeth yn ymddangos mor wahanol, mor ddirgel a hudol. Mae pawb yn ymddwyn yn wahanol yn y tywyllwch, hefyd. Maen nhw’n gwneud pethau na fydden nhw’n eu gwneud yn y goleuni. Rydw i wrth fy modd gyda’r synnwyr o antur sydd i’w gael yn y nos. Ond cofiwch, mae rhai pobl yn meddwl y gallan nhw ymddwyn yn wirion ac yn beryglus yn y tywyllwch - ac ambell dro mae chwarae’n gallu troi’n chwerw bryd hynny, rhaid i mi gyfaddef hynny.

    Arweinydd
     Tybed sut rydych chi’n teimlo am y tywyllwch? Mae’n wir ei fod yn gwneud i’n hamgylchoedd edrych yn wahanol, ac yn achos llawer o bobl mae hynny’n eu brawychu, yn peri pryder, ac yn codi ofn arnyn nhw.

  2. Dechreuwch y sioe sleidiau sydd ar dudalen gartref y wefan ‘Hidden Lives’.

    Arweinydd Yn ystod 2012, fe ymwelodd y ffotograffydd enwog Andrew McConnell â dinasoedd mewn wyth o wahanol wledydd ledled y byd, i dynnu ffotograffau o ffoaduriaid trefol ar gyfer ei arddangosfa o luniau, ac sy’n dwyn y teitl, ‘Hidden Lives’. Beth ydych chi’n sylwi arno wrth edrych ar y ffotograffau? Beth sy’n gyffredin ym mhob un ohonyn nhw?

    Gwahoddwch rai o’r myfyrwyr i ymateb, nes bydd rhywun yn awgrymu bod y lluniau i gyd wedi eu tynnu yn y nos.

    Ie, dyna ni! Mae pob un o’r ffotograffau wedi eu tynnu yn y nos - yn y tywyllwch – a hynny’n fwriadol. Nid oherwydd am mai dim ond yn y nos y mae’r unigolion hyn yn mynd allan, er mewn ambell achos mae’n well gan rai o’r ffoaduriaid gael cysgod y nos i fynd allan rhag i bobl syllu arnyn nhw, neu hyd yn oed rhag ofn iddyn nhw gael eu herlid. 

Yn wir, mewn rhai o’r ardaloedd dinesig hyn, mae mynd allan yn y nos yn gallu bod yn beryglus. Mewn cyfweliad un tro, fe adroddodd Andrew McConnell am ei brofiad mewn lle o’r enw Eastleigh - maestref dreisgar yn ninas Nairobi, yng ngwlad Kenya. Roedd arno ofn gwirioneddol bod ar y strydoedd wedi iddi dywyllu, a doedd o ddim yn beth doeth i’r criw oedd gydag ef oedi’n hir wrth geisio tynnu’r lluniau perffaith yr hoffen nhw’u cael. Doedden nhw hyd yn oed ddim yn gallu sefyll yn llonydd yn hir rhag tynnu sylw atyn nhw’u hunain a chael rhywun yn ymosod arnyn nhw.

Ond, y prif reswm pam y tynnodd Andrew McConnell y cyfan o’r lluniau hyn yn y nos oedd er mwyn cael defnyddio’r ‘tywyllwch’ llythrennol i gyfleu’r ‘tywyllwch’ trosiadol yn y sefyllfa. Rydych chi wedi clywed pobl yn sôn am ‘olau ym mhen draw’r twnnel’. Wel, pan fydd pobl yn defnyddio’r ymadrodd hwnnw, dydyn nhw ddim yn sôn am unrhyw olau gwirioneddol ym mhen draw unrhyw dwnnel penodol - maen nhw’n cyfeirio at y golau fel synnwyr o obaith pan fyddwch chi wedi eich amgylchynu ag ofn, pryder ac anobaith, profiadau sy’n gallu teimlo fel y tywyllwch sydd i’w gael mewn twnnel.

  1. Mae gan bob un o’r ffoaduriaid trefol hyn stori i’w hadrodd. Mae llawer wedi ffoi o’u cartrefi ar ôl wynebu dioddefaint ofnadwy neu ar ôl cael eu herlid. Mae llawer ohonyn nhw wedi gorfod gadael eu ffrindiau er mwyn eu diogelwch eu hunain. Ond fe all byw fel ffoadur mewn dinas ddieithr wneud i chi deimlo fel pe byddech chi’n byw mewn tywyllwch hefyd. Wedi eich ynysu. Yn cael eich anwybyddu. Wedi eich gwrthod. Ac mewn ofn cael eich erlid a’ch alltudio.

  2. Mae Abdi Mohamed Ahmed, ffoadur o Ethiopia sy’n byw yng ngwlad Kenya, wedi disgrifio ei fywyd dyddiol fel hyn: ‘Dydw i ddim yn gallu cerdded yn rhydd, dydw i ddim yn gallu mynd i ble bynnag rydw i eisiau yn y wlad hon. Mae’r drafferth bob amser yn ymwneud â diogelwch.’ 

    Mae llawer o ffoaduriaid yn cael eu dal a’u halltudio i Ethiopia. Ac mae rhai’n cael eu carcharu yno am gyfnodau amhenodol mewn canolfannau cadw.

  3. Dangoswch y llun o Lanier Lovely, o’r wefan y mae cyfeiriad ati yn yr adran ‘Paratoad a deunyddiau’.

    Dyma Lanier Lovely a’i mab. Cafodd eu cartref yn Haiti ei ddinistrio yn y daeargryn yn 2010. Fe symudodd i fyw i fan lle roedd hi’n tybio y byddai’n ddiogel, sef y gwersyll i ffoaduriaid ar gyrion dinas Port-au-Prince. Un noson, pan oedd y bobl oedd o’i chwmpas wedi mynd allan i’r wlad, i angladd, cafodd Lanier ei bygwth â chyllell a’i threisio. Fe geisiodd sgrechian, ond fe roddodd yr ymosodwr ei law dros ei cheg i’w rhwystro. Doedd arni ddim eisiau i unrhyw un ddod i wybod am y digwyddiad, ac erbyn i rywun ddod i wybod roedd hi ddau fis yn feichiog.

    Mae hi wedi enwi ei mab yn Lovinsky ac mae hi’n ei garu’n fawr. Ond mae’n dal i feddwl pe byddai ei theulu o’i chwmpas fyddai hyn ddim wedi digwydd. Wnaeth hi ddim gweld y dyn a ymosododd arni ar ôl hynny, ond dydi hi ddim yn teimlo’n ddiogel o gwbl. Mae hi’n pryderu y gallai’r un peth ddigwydd eto. Mae gwir angen am fwy o oleuadau a diogelwch yn y gwersylloedd yn ystod y nos. 

    Mae gan Lanier bob rheswm dros ofni’r tywyllwch, ac yn ei hachos hi a llawer iawn o’r ffoaduriaid, maen nhw’n teimlo eu bod yn byw eu bywyd mewn tywyllwch. Does ganddyn nhw ddim i’w diogelu. Maen nhw’n gweld colli eu teuluoedd. Does ganddyn nhw ddim gwaith na dim teimlad o hunan werth.

Amser i feddwl

Arweinydd  Mae llawer o bobl o’n cwmpas ni yn y byd bob dydd sy’n teimlo eu bod yn byw mewn tywyllwch. Yr her i bob un ohonom yw meddwl sut y gallwn ni ddisgleirio fel goleuni yn y tywyllwch? Gwrandewch ar yr awgrymiadau hyn wrth i chi fyfyrio ar y cwestiwn hwn yn awr.

Darllenydd 1 Sut y gallwn ni ddisgleirio fel goleuni yn y twyllwch yn ein dinas ni heddiw?

Darllenydd 2 Fe allwn ni wenu ar bobl, cynnig ein sedd ar y bws i rywun arall gael eistedd arni, neu brynu copi o’r cylchgrawn Big Issue.

Darllenydd 1 Sut y gallwn ni ddisgleirio fel goleuni yn y twyllwch yn ein cymuned ni heddiw?

Darllenydd 2 Fe allwn ni ddiolch i’r plismon cymuned, rhoi ein sbwriel yn y bin, neu helpu ein cymdogion i gario’u bagiau siopa.

Darllenydd 1 Sut y gallwn ni ddisgleirio fel goleuni yn y tywyllwch yn ein hysgol ni heddiw?

Darllenydd 2 Fe allwn ni barchu ein hathrawon, clirio ein platiau amser cinio, neu ddangos cefnogaeth fel ffrind.

Darllenydd 1 Sut y gallwn ni ddisgleirio fel goleuni yn y tywyllwch yn ein cartrefi ni heddiw?

Darllenydd 2 Fe allwn ni adael i Mam ddewis beth hoffai hi ei wylio ar y teledu, sgwrsio ar y ffôn gyda Taid neu Nain, neu chwarae gêm ar y Wii gyda brawd neu chwaer fach.

Arweinydd Gadewch i ni dynnu ein hamser gyda’n gilydd i ben trwy wrando ar weddi fer. Fe allech chi wneud y geiriau hyn yn eiriau i chi eich hunan os hoffech chi.

Gweddi
Annwyl Dduw,
rydyn ni’n cofio am y ffoaduriaid sy’n byw mewn amgylchiadau anodd mewn dinasoedd mawr ledled y byd.
Mae llawer ohonyn nhw’n teimlo eu bod yn byw mewn tywyllwch.
Boed iddyn nhw weld goleuni ym mhen draw’r twnnel.

Rydyn ni’n diolch am waith Andrew McConnell, ac yn gweddïo y bydd ei arddangosfa’n fodd i oleuni ddisgleirio ar y ffoaduriaid trefol.

Helpa ni i fod yn ymwybodol o’r tywyllwch sydd o’n cwmpas ni.
Helpa ni i ddisgleirio fel goleuni.
Helpa ni i fod yno i rywun arall heddiw.
Amen.

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon