Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Ail Gyfle

Annog y myfyrwyr i ddyfalbarhau pan fyddan nhw’n profi methiant neu rwystr.

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i ddyfalbarhau pan fyddan nhw’n profi methiant neu rwystr.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen un Arweinydd ac un Darllenydd.

Gwasanaeth

  1. Arweinydd Heddiw rydym yn mynd i gael clywed am ddigwyddiad naturiol rhyfeddol.

    Darllenydd Mae Eglwys Sant Edward yn sefyll yng nghanol tref Leek, yn Swydd Stafford. Gyda'r hwyr ar 21 Mehefin, y Dydd Hwyaf, mae'n arferol i weld tyrfa fawr o bobl wedi dod ynghyd yn y fynwent, ac yn troi eu golygon at Wastadedd Caer, 10 milltir i ffwrdd. 

    Mae ymylon y Gwastadedd wedi eu nodi â bryn eithaf mawr, sy'n adnabyddus fel Bosley Cloud. Mae'r haul wrth fachludo yn llithro i lawr tuag at ran uchaf ochr chwith Bosley Cloud ac, am ennyd, aiff pobman yn dywyll, gyda chysgodion yr hwyr yn nesu at y dorf. Yna, mae rhywbeth rhyfeddol yn digwydd. Mae'r haul, a oedd wedi machlud rhai munudau ynghynt, yn graddol ymddangos unwaith yn rhagor ar y llethr fertigol sydd ar ochr dde'r bryn. Mae golau dydd yn arllwys dros y dirwedd am ychydig funudau'n hwy cyn i ail fachlud ddigwydd ar orwel syth Gwastadedd Caer.

  2. Arweinydd Mae machludiadau yn rhan atgofus o'r profiad dynol. Mae machlud yn cynrychioli diwedd rhywbeth. Cyn yr adeg pan ddaeth golau trydan, dyma oedd, i bob pwrpas, ddiwedd y diwrnod gwaith. Mae'r machlud hefyd wedi cael ei ddefnyddio gan awduron fel symbol o fywyd ynddo'i hun, fel ein bod yn graddol wywo tuag at farwolaeth anochel. I ni, gall fod yn symbol o gyfle a fethwyd, apwyntiad na chafodd ei gadw, profiad bendigedig sy'n anochel wedi dod i ben, methiant nad oes modd ei gywiro. Pan fydd yr haul yn machlud, mae llinell glir yn cael ei thynnu. Dyna'r diwedd . . . neu . . .? 

  3. Arweinydd Fe hoffwn i ddefnyddio'r machlud dwbl sy'n digwydd yn Leek i'n helpu ni ystyried pa un ai yw'r diwedd bob amser yn ddiwedd.  Fe hoffwn i ni ystyried y syniad o ail-gynnig. Mae'n syniad Cristnogol gwirioneddol. Ni chollodd Iesu ei ffydd mewn pobl, hyd yn oed pan wnaethon nhw ei siomi. Rhoddodd ail-gynnig iddyn nhw. Nid oedd Iesu byth yn derbyn y ffaith na ellid datrys problem. Roedd ganddo gynllun B. Fe heriodd Iesu derfynoldeb marwolaeth ei hun pan atgyfododd ar fore'r Pasg cyntaf hwnnw, felly pam y dylem ni dderbyn mor hawdd bod y diwedd mor derfynol? 

    Gadewch i ni ddechrau gyda pherthnasoedd. Pan fydd dau berson priod yn ysgaru, mae rhai yn dweud bod hyn wedi digwydd oherwydd bod yna fethiant anadferadwy yn y berthynas, ond pam y dylai unrhyw berthynas gael ei labelu'n anadferadwy? Gall fod yn anodd dweud ‘Sori’, i ofyn am faddeuant, ymrwymo i ddechrau o'r newydd, ond mae'n bosib os yw'r dymuniad a'r ewyllys ar gael. A yw hyn yn berthnasol i unrhyw berthnasoedd yn eich bywyd chi?

    Beth am fethiannau? Os yw rhywun yn ceisio clirio'r bar yn y naid uchel ac yn methu â gwneud hynny, mae ganddo ef neu hi ddwy ymgais arall. Yn aml, wedyn, bydd y neidiwr yn llwyddo gyda'r naid. Mae'n cyfrif fel naid glir os yw'n digwydd ar y tro cyntaf neu ar yr ymgeision dilynol. Fel mater o ffaith, mae cael pethau'n anghywir yn rhan o gael pethau'n iawn. 

    Rhan syml o'r broses ddysgu yw methiant. Fe ddylen ni sefyll yn syth, edrych arnom ein hunain a dechrau o'r dechrau unwaith yn rhagor, nes ein bod yn llwyddo. Fe ddylen ni roi ail-gynnig, tri neu bedwar cynnig arall i ni'n hunain. 

    Yn olaf, mae Cristnogion yn credu bod maddeuant Duw yn ysgubo ymaith yr euogrwydd, y rhwystredigaeth a'r negyddiaeth sydd ynghlwm wrth ein ffaeleddau. Nid oes unrhyw beth - dim camgymeriad, dim gair neu weithred gas fwriadol - na all gael eu gwella. Efallai na fydd yn beth hawdd, ond mae ail-gynnig ar gael bob amser.

Amser i feddwl

Arweinydd Ceisiwch edrych ar yr haul yn machlud ryw noswaith yn ystod y mis hwn. Gwyliwch yr haul yn mynd o’r golwg yn araf a, thra byddwch chi’n gwylio, meddyliwch am beth fyddai cael ail gyfle’n ei olygu i chi.

Gweddi
Annwyl Dduw,
diolch am ail gyfle, beth bynnag fydd y cyfleoedd rheini.
Gad i mi, yn gyntaf, fod yn barod i wynebu unrhyw fethiant ac achosion o edifarhau am rywbeth.
Gad i mi, wedyn, fod yn barod i ddyfalbarhau, i greu cyfle newydd yn fy mywyd ac ym mywydau pobl eraill.

Cerddoriaeth

Never gonna give you up’, yn cael ei chanu gan Rick Astley

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon