Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Amser!

Annog y myfyrwyr i feddwl am sut maen nhw’n defnyddio’u hamser, gan gofio ei bod yn ddydd hwyaf y flwyddyn ar 21 Mehefin.

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i feddwl am sut maen nhw’n defnyddio’u hamser, gan gofio ei bod yn ddydd hwyaf y flwyddyn ar 21 Mehefin.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Atgoffwch y myfyrwyr bod 21 Mehefin yn ddydd hwyaf y flwyddyn – dydd y cyfeirir ato hefyd fel Canol haf a Heuldro'r haf. Dyma’r adeg ar y flwyddyn pan fydd yr haul ar ei bwynt mwyaf gogleddol, ac yn ymddangos ar ei uchaf yn yr awyr. Ar y dydd hwn, fe ddylai barhau’n olau am y cyfnod hiraf yn y flwyddyn gyfan. Mae rhai pobl yn ystyried hyn fel dechrau tymor yr haf. 
  2. Eglurwch, ein bod, wrth i ni symud ymlaen trwy fis Mehefin yn canfod bod y dydd yn ymestyn ychydig bach bob dydd, hyd at y dyddiad hwn. Ond wedi i Fehefin 21 basio, mae’r dyddiau yn dechrau byrhau ychydig bach wedyn bob dydd eto. Felly, mae’n amser da i atgoffa ein hunain pa mor gyflym y mae amser yn pasio, a holi ein hunain ydyn ni’n defnyddio ein hamser yn dda.
  3. Gofynnwch i’r myfyrwyr ddychmygu oedolyn cyffredin tua 70 oed, a dyfalu faint o amser y mae’r unigolyn hwnnw wedi ei dreulio yn gwneud y pethau cyffredin canlynol yn ystod ei 70 mlynedd o fywyd. Fe allech chi wahodd rhai o’r myfyrwyr atoch chi i’r tu blaen a chael cystadleuaeth tîm i ddyfalu’r atebion a gweld pwy fydd agosaf at yr ateb cywir. Neu fe allech chi’n syml ofyn i’r myfyrwyr godi eu dwylo ac awgrymu atebion. 
  4. Gan ddangos y delweddau rydych chi wedi eu paratoi, yn eu tro, gofynnwch i’r myfyrwyr ddyfalu faint o amser, mewn 70 mlynedd, y mae’r unigolyn cyffredin yn ei dreulio’n gwneud y pethau canlynol: 

    cysgu

    ateb: 24 o flynyddoedd (tua un rhan o dair o’n bywyd)

    bwyta
    ateb: 6 mlynedd

    gwylio’r teledu 
    ateb: 9 mlynedd

    aros mewn ciw (yn cynnwys goleuadau traffig))
    ateb: 5 mlynedd

    gwaith ty 
    ateb: 4 blynedd

    toiled 
    ateb: 18 mis

    cusanu 
    ateb: 2.5 wythnos.
  1. Dywedwch ei bod hi’n amlwg, wrth edrych ar y rhestr hon, nad oes gennym ni lawer o amser ar ôl i wneud pethau eraill! Dim ond tipyn o hwyl yw’r ymchwil hon, wrth gwrs, ond mae’n gwneud i ni feddwl am ba mor hawdd yw hi i ni wastraffu ein hamser prin. Wrth i adeg yr arholiadau a’r profion diwedd blwyddyn nesu, trafodwch gyda’r myfyrwyr sut y dylai pawb ohonom ddefnyddio ein hamser yn ddoeth. Sgwrsiwch hefyd am y gwyliau haf, a gofynnwch iddyn nhw feddwl am y pethau y bydden nhw’n gallu eu gwneud, fel na fyddan nhw’n gadael i bob dydd ddiflannu fel y gwynt, ond yn hytrach fod pob dydd yn gyfle i wneud rhywbeth pendant.

    Eglurwch fod sôn yn y Beibl am amser. 

    Os ydych chi wedi paratoi myfyriwr i ddarllen y darn, galwch arno ef neu hi i ddod ymlaen a gwneud hynny’n awr.

    Ym mhennod 3 Llyfr y Pregethwr, mae’n dweud:

    Y mae tymor i bob peth, ac amser i bob gorchwyl dan y nef:
    amser i eni, ac amser i farw,
    amser i blannu, ac amser i ddiwreiddio’r hyn a blannwyd;
    amser i ladd, ac amser i iacháu,
    amser i dynnu i lawr, ac amser i adeiladu;
    amser i wylo, ac amser i chwerthin,
    amser i alaru, ac amser i ddawnsio;
    amser i daflu cerrig, ac amser i’w casglu,
    amser i gofleidio, ac amser i ymatal,
    amser i geisio, ac amser i golli,
    amser i gadw, ac amser i daflu ymaith;
    amser i rwygo, ac amser i drwsio,
    amser i dewi, ac amser i siarad;
    amser i garu, ac amser i gasáu
    amser i ryfel, ac amser i heddwch.

    Gofynnwch i’r myfyrwyr feddwl am eu trefn ddyddiol eu hunain. Oes rhywfaint o amser yn y drefn honno iddyn nhw eu hunain fod yn dawel a chael cyfle i feddwl, neu iddyn nhw wneud rhywbeth i helpu rhywun arall?

Amser i feddwl

Gofynnwch i’r myfyrwyr feddwl am sut y maen nhw’n defnyddio’u hamser, a gosodwch her iddyn nhw feddwl sut y gallen nhw ddefnyddio’u hamser yn ddoeth yn ystod yr wythnos hon.

Gweddi
Annwyl Dduw,
diolch i ti am ein byd rhyfeddol.
Diolch i ti am ein bywyd, ac am y cyfleoedd ardderchog sydd gennym ni heddiw, ac a gawn ni hefyd yn y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod.
Helpa ni i ddefnyddio ein hamser yn ddoeth a da, fel y bydd ein bywyd yn llawn o lawenydd ac yn fendith i bobl eraill.

Cerddoriaeth

'Turn! Turn! Turn!’ gan y Byrds (mae’r geiriau o’r darn uchod o’r Beibl, o Lyfr y Pregethwr, yn cael eu defnyddio yn y gân)

Dyddiad cyhoeddi: Mehefin 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon