Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Bywydau Cudd 4

Atgoffa’r myfyrwyr am y pethau sy’n cyfrif o ddifri mewn bywyd.

gan Helen Redfern

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Atgoffa’r myfyrwyr am y pethau sy’n cyfrif o ddifri mewn bywyd.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

Arweinydd: ‘O, fe fyddwn i’n rhoi unrhyw beth am far o siocled, rwan.’

‘Mae’n rhaid i mi gael CD ddiweddaraf Justin Timberlake. Alla i ddim aros.’

‘Rydw i wedi gweld yr esgidiau rhedeg rydw i wirioneddol eu heisiau. Fe fydda i’n siwr o’u cael, waeth beth fydd hynny’n ei olygu!’

Rydyn ni i gyd wedi dweud pethau fel hyn o dro i dro. Mae pethau materol, pethau yr hoffen ni eu cael, a phethau y mae’n rhaid i ni eu cael yn dod yn eitemau rydyn ni’n eu trysori’n fawr. Mewn byd o lawnder, mae’n hawdd iawn i ni golli golwg ar y pethau sy’n wirioneddol bwysig.

Rwy’n siwr eich bod wedi clywed y cwestiwn canlynol yn cael ei ofyn o’r blaen, ond gadewch i ni ei ystyried o ddifrif eto heddiw. Pe bai eich ty yn mynd ar dân, a chithau ddim ond yn gallu arbed un peth, beth fyddai’r peth hwnnw? Mewn geiriau eraill, beth yw’r peth mwyaf gwerthfawr sydd gennych chi?

Saib i feddwl.

Darllenydd 1: Dwi’n gwybod bod hyn yn mynd i swnio’n ddiflas, ond fe fyddwn i’n arbed dogfennau pwysig y teulu. Mae Dad yn cadw’r holl bethau pwysig, fel pasborts, tystysgrifau geni, cardiau iechyd a manylion banc, i gyd mewn un lle neilltuol. Fe fyddai’n beth ofnadwy pe bydden ni’n colli’r pethau hynny a methu profi pwy ydyn ni wedyn. Fe allwch chi gael pethau eraill yn hawdd, ond fe fyddai’n broses hir iawn i gael dogfennau fel y rhain eto.

Darllenydd 2: Wel, rydw i’n dod o draddodiad Iddewig cryf, a’r hyn sy’n bwysig i ni yw’r eitemau crefyddol sydd wedi cael eu pasio i lawr o genhedlaeth i genhedlaeth. Does dim posib cael pethau yn lle’r rhain. Dyma ein cyswllt ni â’n gwreiddiau a’n treftadaeth. Mae ein canwyllbrenni Shabbat wedi bod yn ein teulu am ganrifoedd. Dwi’n meddwl y byddai’n rhaid i mi arbed y rheini.

Darllenydd 3:
 Allwn i ddim goddef colli fy ffotograffau. Mae’r rhai diweddaraf wedi eu cadw’n electronig, ar-lein, ac fe allwn i gael gafael ar y rheini wedyn, ond mae’r hen rai’n hollol amhosibl eu hailgynhyrchu. Mae albwm priodas fy rhieni’n arbennig iawn a’r llyfr a lanwodd fy mam wrth gofnodi fy mlynyddoedd cynnar. Fe fyddwn i’n torri fy nghalon pe byddwn i’n colli’r rheini.

Darllenydd 4: Mae’n debyg bod hyn yn swnio’n hunanol iawn, ond fe fyddwn i’n awyddus i arbed y ffolder sydd gen i gyda’r holl dystysgrifau rydw i wedi eu hennill dros y blynyddoedd. Yr holl arholiadau piano, gwobrau am nofio, heriau mathemateg  . . .  a fy ffliwt, wrth gwrs. Fy ffliwt yw fy holl fywyd a’m dyfodol i. Fy ffliwt yw fy nhocyn i lwyddiant.

Arweinydd: Yn achos y rhan fwyaf ohonom, mae’r cwestiwn yn gwestiwn damcaniaethol - fydd y rhan fwyaf ohonom byth yn gorfod wynebu’r math hwnnw o benderfyniad, go iawn. Ond yn achos llawer o bobl ledled y byd, mae sefyllfa fel hon yn sefyllfa real. Efallai nad oedd eu cartref yn llosgi i’r llawr, ond maen nhw wedi gorfod rhedeg i ffwrdd am eu bywyd, gan adael popeth o’u heiddo ar eu hôl, a dim ond yn gallu mynd ag un peth - y peth mwyaf gwerthfawr - o’i heiddo gyda nhw.

Gadewch i ni nawr edrych ar rai o ffotograffau Andrew McConnell o ffoaduriaid trefol. Dyma bobl sydd wedi gorfod gwneud yr union beth hwnnw. Bob tro yr oedd Andrew McConnell yn cwrdd â ffoadur, ac yn tynnu ei lun, roedd hefyd yn dysgu rhywbeth am ei hanes, ac fe fyddai’n gofyn i bob un a fyddai’n bosib iddo dynnu llun y peth mwyaf gwerthfawr oedd ganddyn nhw. Tybed beth mae’r ffotograffau hynny’n mynd i’w ddadlennu i ni?

Dangoswch y ddelwedd sydd yn y cyswllt cyntaf ar y rhestr uchod, o Dejana, a chlicio wedyn i’r ail sleid sy’n dangos ffotograff o’i phasbort.

Darllenydd 1: Yn achos llawer o’r ffoaduriaid, sydd wedi gorfod ffoi o’u cartrefi a’u gwlad i chwilio am loches mewn gwlad ddieithr, eu papurau yw eu heiddo mwyaf gwerthfawr. Ac yn achos Dejana Mekanic, o Bosnia, mae hyn yn wir, ac fe ddewisodd hi ei phasbort a welwn yma yn y llun. Dyma mae hi’n ei ddweud am ei phasbort, ‘Hwn yw fy rhyddid. O’r blaen doeddwn i ddim yn gallu teithio, doeddwn i ddim yn gallu mynd i unrhyw le. Roeddwn i’n teimlo fel dinesydd eilradd!’ Yn achos rhai o’r ffoaduriaid eraill, eu cerdyn adnabod neu eu fisa yw’r peth pwysicaf sydd ganddyn nhw. Mae’n rhaid iddyn nhw gael y papurau hyn er mwyn profi pwy ydyn nhw. Mae’n rhaid iddyn nhw gael y papurau hyn er mwyn cael aros. Mae’n rhaid iddyn nhw gael y papurau hyn er mwyn gallu byw yn rhydd.

Dangoswch y ddelwedd sydd yn yr ail gyswllt uchod, o Nayf, a chlicio wedyn i’r ail sleid sy’n dangos ffotograff o daniwr sigaréts mewn cas gleiniog.

Darllenydd 2: 
Yn achos rhai eraill o’r ffoaduriaid, efallai mai’r peth mwyaf gwerthfawr sydd ganddyn nhw yw eitem o’u gwlad enedigol. Mae’n gyswllt rhyngddyn nhw â’u traddodiad, fel y taniwr sigaréts mewn cas gleiniog hwn o Syria. Dyma’r unig beth y gallodd Nayf ddod gydag ef wrth iddo ddianc i Wlad Iorddoned. Dyma’r unig beth sydd ganddo sy’n ei gysylltu â’i gartref. 

Dangoswch y ddelwedd sydd yn y trydydd cyswllt ar y rhestr, o Ahmin, a chlicio ymlaen wedyn i’r drydedd sleid sy’n dangos ffotograff o gleddyf a bag.

Cleddyf Kachin traddodiadol a bag ysgwydd yw’r cyfan sydd gan Ahmin Lahpai i’w hatgoffa o’i gwreiddiau yn Burma. Baner genedlaethol o Albania, pwrs traddodiadol o Syria, eicon crefyddol, gleiniau gweddïo, a chopi o Koran y teulu  . . .  dyma eitemau pwysig sydd wedi dod o’i chartref, cartref na chaiff ei weld byth eto, efallai. 

Dangoswch y ddelwedd sydd yn y pedwerydd cyswllt ar y rhestr, o Amina, a chlicio ymlaen wedyn i’r drydedd sleid sy’n dangos llun o ffotograff ohoni ar ddydd ei phriodas.

Darllenydd 3: Yn achos rhai, ffotograff yw’r peth sydd gannyn nhw y maen nhw’n ei drysori fwyaf. Ambell dro, dyna’r unig beth sydd ganddyn nhw i’w hatgoffa am adegau hapus ac am eu teulu a’u ffrindiau y maen nhw wedi eu gadael ar ôl. Mae Amina Abdi Hassan yn ffoadur o Somalia, sydd yn awr yn byw yn Kenya, ac mae ganddi hi ffotograff, a dynnwyd yn union ar ôl iddi briodi. Fe ddywedodd hi,  ‘Dyna ddyddiau da  . . .  Rydw i’n cofio bod mor hapus bryd hynny.’ 

Dangoswch y ddelwedd sydd yn y pumed cyswllt ar y rhestr, o Fawaz, a chlicio ymlaen wedyn i’r ail sleid sy’n dangos ffotograff o lun rhywun ar ffôn symudol.

Mae gan Fawaz Rarhail Turkey, ffoadur o Syria sydd yn awr yn byw yng Ngwlad Iorddonen, lun ar ffôn symudol - llun o berthynas iddo gafodd ei ladd gan fyddin Syria.

Darllenydd 4: Yn olaf, i rai o’r ffoaduriaid trefol hyn, y pethau maen nhw’n eu gwerthfawrogi fwyaf yw’r eitemau y maen nhw’n eu hystyried sy’n docyn iddyn nhw wella eu bywyd  . . .  tystysgrif ysgol sy’n brawf o’u cymwysterau, llyfr i astudio peirianneg, llyfr dysgu Saesneg - mae’r pethau hyn i gyd yn bwysig wrth i rywun chwilio am waith.

Dangoswch y ddelwedd sydd yn y chweched cyswllt ar y rhestr, o Kurubusangw, , a chlicio ymlaen wedyn i’r drydedd sleid sy’n dangos ffotograff o radio.

Mae Kurubusangw Gaspard, ffoadur o Rwanda sydd yn awr yn byw yn Burundi, yn trysori ei radio am ei bod yn fodd iddo gael y newyddion diweddaraf am yr hyn sy’n digwydd o’i gwmpas, fel ei bod hi’n bosib iddo ymateb yn sydyn os bydd yn clywed am ddigwyddiadau newydd yn yr ardal.

Dangoswch y ddelwedd sydd yn y seithfed cyswllt ar y rhestr, o Ronel, a chlicio wedyn i’r ail sleid sy’n dangos ffotograff o beiriant gwnïo.

Yn achos Ronel Metelus, o Haiti, y peth mwyaf gwerthfawr sydd ganddo yw ei beiriant gwnïo. Roedd wedi ei brynu cyn y daeargryn, fesul darn, yn ôl fel roedd yn gallu fforddio’r arian i brynu’r darnau, ac fe adeiladodd y peiriant gwnïo ei hun. Fe lwyddodd i achub y peiriant o’r hyn oedd yn weddill o’i gartref ar ôl y daeargryn. Erbyn hyn mae’n credu mai dyma’r unig beth all ei helpu ef a’i deulu i ddod allan o’r gwersyll ffoaduriaid y maen nhw’n byw ynddo nawr.

Amser i feddwl

Arweinydd: Wnaethoch chi sylwi rhywbeth wrth edrych ar y lluniau yna? Fe wnes i. Wnaethoch chi sylwi ar gysylltiad rhwng beth fyddai ein myfyrwyr ni yma’n ei ddewis i’w arbed a’r pethau y gwnaeth y ffoaduriaid trefol hyn, mewn achos go iawn, eu cadw gyda nhw?

Y gwirionedd yw bod pobl ledled y byd yn gwerthfawrogi’r un math o bethau. Gadewch i ni ystyried y pethau hyn wrth i ni ddod â’r gwasanaeth hwn i ben.

Darllenydd 1: Mae ein hunaniaeth yn werthfawr. Mae gwybod pwy ydyn ni a gwybod o ble rydyn ni’n dod yn bwysig iawn.

Darllenydd 2: Mae ein gwreiddiau’n werthfawr. Mae parchu ein traddodiadau a gwerthfawrogi ein magwraeth yn bwysig iawn.

Darllenydd 3: Mae ein teulu a’n ffrindiau’n werthfawr. Mae gwerthfawrogi’r bobl sy’n ein caru ni gan beidio byth eu cymryd yn ganiataol yn bwysig iawn.

Darllenydd 4: Mae ein haddysg yn werthfawr. Mae gweithio’n galed a gwneud ein gorau’n gallu yn bwysig iawn.

Arweinydd: Gadewch i ni ddiweddu ein hamser gyda’n gilydd trwy wrando ar weddi fer. Fe allech chi wneud geiriau’r weddi hon yn eiriau i chi eich hunan os hoffech chi.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Rydyn ni’n cofio am y ffoaduriaid sydd wedi gorfod gadael bron popeth maen nhw’n ei werthfawrogi ar ôl, ac wedi gorfod ffoi i wlad arall.
Boed i’w hunaniaeth, eu gwreiddiau, eu teuluoedd a’u ffrindiau, a’u haddysg, gael eu gwarchod.
Ac yn ein hachos ninnau, boed i ni gydnabod ein hunaniaeth, gweld gwerth yn ein gwreiddiau, gwerthfawrogi ein teulu a’n ffrindiau, a gwneud y mwyaf o’n haddysg.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Chwaraewch drac cerddoriaeth oddi ar ‘y CD ddiweddaraf gan Justin Timberlake’, fel y soniodd Darllenydd 1 amdani ar y dechrau. Atgoffwch y myfyrwyr am yr hyn a ddywedwyd, a holwch, ‘Oes arnom ni wir angen pethau fel hyn?’

Dyddiad cyhoeddi: Ionawr 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon