Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rywd I Eisiau Torri'n Rhydd

Archwilio newidiadau chwyldroadol ac annog y myfyrwyr i wneud newidiadau cadarnhaol yn eu bywyd eu hunain.

gan Brian Radcliffe

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Archwilio newidiadau chwyldroadol ac annog y myfyrwyr i wneud newidiadau cadarnhaol yn eu bywyd eu hunain.

Paratoad a Deunyddiau

  • Fe fydd arnoch chi angen Arweinydd a dau Ddarllenydd.

  • Paratowch glipiau clywedol o anthemau cenedlaethol America a Ffrainc, a threfnwch fod gennych chi’r modd i’w chwarae yn ystod y gwasanaeth.

Gwasanaeth

Arweinydd: Gorffennaf yw'r mis i dorri'n rhydd. O leiaf yn Unol Daleithiau America a Ffrainc.

Chwaraewch glip awdio o anthem genedlaethol America.

Darllenydd 1:
 Y 4ydd o Orffennaf yw'r dyddiad pwysicaf ar y calendr i ddinasyddion yr UD. Caiff ei alw'n Ddydd Annibyniaeth ac mae'n dwyn i gof achlysur mabwysiadu Datganiad Annibyniaeth ar 4ydd o Orffennaf 1776. Roedd y Datganiad yn nodi diwedd y Chwyldro yn America, ac yn symbol o'r annibyniaeth a enillwyd gan yr Americaniaid oddi wrth reolaeth gan Brydain. Ar ôl hyn, fydden nhw ddim yn cael eu rheoli gan y frenhiniaeth yn Llundain.

Chwaraewch glip awdio o anthem genedlaethol Ffrainc.

Darllenydd 2:
 Y 14eg o Orffennaf yw'r dyddiad pwysicaf ar y calendr i ddinasyddion Ffrainc. Caiff ei alw'n Ddydd Bastille, ac mae'n dwyn i gof sut yr ymosodwyd ar garchar y Bastille ar y 14eg o Orffennaf 1789. Ystyriwyd y Bastille fel symbol o rym absoliwt y brenin yr adeg honno – Louis XVI. Ystyrir bod yr ymosodiad a chipio'r carchar yn ddechreuad y Chwyldro Ffrengig, ac yn nodi genedigaeth y Weriniaeth Ffrengig, gyda'i thair egwyddor allweddol o ryddid, cyfartaledd a brawdgarwch. 

Arweinydd: Caiff y ddau ddiwrnod hyn eu dathlu yn yr Unol Daleithiau ac yn Ffrainc bob blwyddyn gyda gorymdeithiau, sioeau, gemau, tân gwyllt, coelcerthi, bwyta ac yfed. Maen nhw'n bwysig i'r ddwy wlad oherwydd eu bod yn cynrychioli tröedigaethau allweddol yn hanes y ddwy genedl: yn 1776 fe dorrodd yr Unol Daleithiau yn rhydd o lywodraeth brenin tramor ac yn 1789 fe dorrodd pobl Ffrainc yn rhydd oddi wrth lywodraeth ormesol un dyn.

Arweinydd: Sut ydych chi'n teimlo eich hun am dorri'n rhydd y mis Gorffennaf hwn? Mae llawer ohonoch wedi bod yn edrych ymlaen at ddiwedd y tymor ers tipyn o amser.  Byddwch yn gallu torri'n rhydd o’r drefn arferol rhwng dydd Llun a dydd Gwener, y cloc larwm, gorfod dilyn taflen amser, y pwysau sydd ynghlwm wrth waith cartref ac arholiadau, cyfyngiadau gwisg ysgol, ac ati. Gallwch fynnu eich annibyniaeth oddi wrth yr unben absoliwt hwnnw  . . .  Yr ysgol! Mae'n werth dathlu, rwy'n siwr y byddwch yn cytuno.

Fe all fod hyn yn cynnig y cyfle i chi hefyd dorri'n rhydd oddi wrth agweddau eraill ar eich bywyd. Mae'n amser i ail-asesu'r hen drefnau arferol, y ffordd yr ydych wedi treulio'ch amser dros y 12 mis diwethaf. Efallai bod blaenoriaethau wedi newid i chi, ond nad ydych wedi cael y cyfle i newid eich ffordd o fyw i gymryd stoc ohonyn nhw. Efallai bod hi'n amser i wneud ychydig o newidiadau mewn rhai perthnasoedd. A yw rhai perthnasoedd wedi datblygu yn bethau gwael, ac yn eich arwain i gyfeiriadau nad ydych yn hollol fodlon â nhw? Ai dyma'r amser tybed i dorri i ffwrdd oddi wrthyn nhw? A oes yna berthnasoedd newydd yr ydych wedi bod yn dymuno eu meithrin, ond na chawsoch yr amser i wneud hynny? Tybed ai dyma'r amser i wneud hynny? A allwch chi dorri'n rhydd?

Mae yna broblem, fodd bynnag, ynglyn â rhyddid.  Gallwn yn llythrennol wneud unrhyw beth pan ydym wedi cael ein rhyddhau, felly mae angen rhoi siâp a ffurf i ryddid yn eithaf cyflym, neu fel arfer mae'n dueddol o fod yn ddibwrpas, heb ffocws, yn or-faldodus, yn hunan-ganolog, a hyd yn oed yn ddiflas. Dyna pam, yn yr Unol Daleithiau, y gwnaethon nhw greu Bil o Iawnderau Dynol ynghlwm wrth y Datganiad o Annibyniaeth, fel bod gan bobl dargedau i ymdrechu tuag atyn nhw. Dyna pam, yn Ffrainc, y gwnaethon nhw ddatblygu egwyddorion o ryddid, cydraddoldeb a brawdgarwch. Roedd yn rhaid cael cytundeb ynghylch y modd yr oedd y rhyddid newydd hwn yn cael ei ddefnyddio.

Amser i feddwl

Felly, sut ydych chi'n mynd i ddefnyddio'ch rhyddid yr haf hwn? Fe hoffwn i gynnig dwy ffordd i chi roi siâp a phwrpas iddo: gwnewch ef yn iachus a gwnewch ef yn gyffrous. Mae llawer o ffyrdd i ni allu creu arferion iachus. Efallai y gallem ymgymryd â chwaraeon newydd neu ymrwymo ein hunain i raglen ffitrwydd. Efallai y gallem roi ystyriaeth i'r hyn yr ydym yn ei fwyta ac yn ei yfed. Feiddiwn i awgrymu ei bod hi'n amser i roi'r gorau i ysmygu? Fe fydd yn fwy cynhyrchiol, fodd bynnag, os gwnawn ni'r pethau hyn gyda phobl fydd yn ein hannog a'n cefnogi ni, yn ein bwydo ag adborth cadarnhaol a bod yn onest yn yr hyn y maen nhw'n ei ddweud. Mewn geiriau eraill, allwn ni feithrin perthnasoedd iachus?

Erbyn hyn, mae hi'r un mor bwysig bod yr hyn a benderfynwn ei wneud a'r bobl y byddwn yn cymysgu â nhw yn ein hysgogi. Nid oes llawer o bwynt os nad ydym o ddifrif yn teimlo'r budd. Mae'r gwyliau yn bod er mwyn i ni adfywio ein batris a dychwelyd ym mis Medi yn llawn uchelgais, ynni a gobaith. Felly, fe ddylai rhyddid hefyd fod yn gyffrous a diddorol. Efallai y gallwn ni deithio i leoedd y buom yn meddwl ymweld â nhw, gwrando ar gerddoriaeth yr ydym wedi bod eisiau gwrando arni, ddarllen llyfrau yr oeddem yn dymuno eu darllen, ac efallai gallwn ni hefyd freuddwydio ychydig o freuddwydion.

Rydych chi bron yn rhydd. Mwynhewch y rhyddid. Defnyddiwch y rhyddid. Boed i chi ddod yn ôl yn bobl well nag o'r blaen.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch am ryddid gwyliau’r haf.
Gad i ni siapio yr hyn y byddwn ni’n ei wneud, a chanolbwyntio arno, ac ystyried gyda phwy y byddwn ni’n treulio ein hamser.
Gad i ni fod yn llawn egni ac yn bositif.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

‘I want to break free’ gan Queen.

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon