Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Rhithiau Optegol

Annog y myfyrwyr i feddwl am sut rai yw pobl ar y tu mewn yn hytrach nag ystyried eu golwg allanol yn unig.

gan Rebecca Parkinson

Addas ar gyfer

  • Ysgol gyfan (Uwchradd)

Nodau / Amcanion

Annog y myfyrwyr i feddwl am sut rai yw pobl ar y tu mewn yn hytrach nag ystyried eu golwg allanol yn unig.

Paratoad a Deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Cyn dechrau’r gwasanaeth, mae’n bwysig i chi edrych ar y delweddau eto, fel y gallwch chi ofyn i’r myfyrwyr beth i chwilio amdano – fel arall fydd yr effaith ddim cystal. 

  2. Eglurwch eich bod yn mynd i ddangos nifer o luniau ar y sgrin i’r myfyrwyr edrych arnyn nhw. Dywedwch eich bod yn mynd i ofyn rhai cwestiynau wedyn, a gofyn i’r myfyrwyr wneud ambell beth.

    – Dangoswch y cyswllt cyntaf sydd ar y rhestr uchod, a gofynnwch, ‘Allwch chi gyfri’r smotiau duon?’
    Yr ateb yw – does dim smotiau duon.

    – Dangoswch y ail cyswllt ar y rhestr, a gofynnwch, ‘A yw’r patrwm yn symud?’
    Yr ateb yw- na dydi’r patrwm ddim yn symud.

    – Dangoswch y trydydd cyswllt, a gofynnwch, ‘A yw’r patrwm yma’n symud?’
    Yr ateb yw- na dydi’r patrwm yma ddim yn symud chwaith.

    – Dangoswch y pedwerydd cyswllt, a gofynnwch, 'Ai pinc yw’r smotiau?

    Os byddwch chi’n edrych ar y smotiau pinc yn symud, fe fyddan nhw’n ymddangos yn binc. Ond, os byddwch chi’n syllu ar y groes yn y canol, fe fydd y smotiau’n ymddangos fel pe bydden nhw’n troi’n wyrdd. Os byddwch chi’n syllu’n ddigon hir, fe welwch chi smotiau pinc gydag un gwyrdd yn symud o amgylch. 

  3. O ran hwyl yn unig y mae’r delweddau hyn wedi eu llunio, ac maen nhw’n digwydd fel arfer oherwydd bod ein llygaid neu ein hymennydd yn cael eu camarwain gan y ffordd y mae’r lliwiau a golau’r delweddau wedi eu trefn ac ati. Er hynny, maen nhw’n dangos rhywbeth pwysig i ni - sef bod beth rydyn ni’n ei feddwl rydyn ni’n ei weld yn wahanol i’r hyn rydyn ni’n ei weld o ddifrif. Weithiau rydyn i’n cael ein twyllo!

    Eglurwch ein bod yn aml yn derbyn pethau rydyn ni’n meddwl eu bod yn wir. Yn aml, fe fydd hynny’n iawn, ond ambell dro fe fyddwn ni wedi camgymryd. Mae hynny’n wir ynghylch ein barn am bobl hefyd.

  4. Gofynnwch i’r myfyrwyr feddwl am adeg pan wnaethon nhw geisio cuddio sut roedden nhw’n teimlo er mwyn i bobl eraill beidio dod i wybod am eu gwir deimladau. Fe allai hynny fod wedi digwydd pan oedden nhw’n llawn embaras, felly fe wnaethon nhw chwerthin rhag i neb ddod i wybod; neu efallai eu bod wedi bod eisiau crio ond fe wnaethon nhw chwerthin yn lle hynny, neu daro rhywun hyd yn oed. Efallai eu bod yn bobl sy’n siarad trwy’r amser i guddio’r ffaith eu bod, mewn gwirionedd, yn swil!

    Mae pobl yn aml yn rhai da iawn am actio - yn ymddangos ar y tu allan fel pe bydden nhw’n un peth, ond yn teimlo’n wahanol iawn ar y tu mewn. Maen nhw’n rhai da iawn am greu argraff neilltuol ar gyfer pobl eraill.

  5. Eglurwch i’r myfyrwyr bod angen i ni ddysgu cymryd pwyll wrth lunio barn am bobl. Mae’n bwysig dod i’w hadnabod yn iawn, a dim cymryd yn ganiataol ein bod yn eu hadnabod yn ôl yr hyn rydyn ni’n ei weld ar yr olwg allanol.

    Mae’r Beibl yn dweud yr hanes wrthym ni am y proffwyd Samuel yn dewis y brenin nesaf i Israel o deulu oedd ag wyth o feibion. Fe welodd Samuel y mab hynaf yn gyntaf – llanc golygus a oedd yn edrych fel darpar frenin, ond fe ddywedodd Duw wrth Samuel nad hwn oedd yr un i’w ddewis. Mae’r geiriau canlynol, sydd i’w cael yn y Beibl, yn eiriau enwog iawn: Ond dywedodd yr Arglwydd wrth Samuel, ‘Paid ag edrych ar ei wedd na’i daldra, oherwydd yr wyf wedi ei wrthod; oblegid nid yr hyn a wêl meidrolyn y mae Duw’n ei weld. Yr hyn sydd yn y golwg a wêl meidrolyn, ond y mae’r Arglwydd yn gweld beth sydd yn y galon’ (1 Samuel 16.7). O'r diwedd, mae Duw’n dweud wrth Samuel am ddewis y mab ieuengaf, a oedd allan yn y caeau yn gwylio defaid ei dad. Dafydd oedd y bachgen hwnnw, a ddaeth wedyn yn frenin mwyaf ar Israel.

    Pwysleisiwch pa mor bwysig yw ystyried sut rai yw pobl ar y tu mewn yn hytrach na dibynnu ar yr olwg allanol yn unig.

Amser i feddwl

Gofynnwch i’r myfyrwyr feddwl am y rhai sy’n eistedd o’u cwmpas.

Faint ohonyn nhw maen nhw’n eu hadnabod yn dda? Ydyn nhw’n gwybod beth maen nhw’n hoffi ei fwyta? Ydyn nhw’n gwybod oes ganddyn nhw frodyr neu chwiorydd? Ydyn nhw’n gwybod ble maen nhw’n byw?

Wrth ystyried o ddifrif, ychydig iawn mewn gwirionedd ydyn ni’n ei wybod am y rhan fwyaf o bobl! Mae hynny’n golygu bod angen i bob un ohonom gymryd amser i ddod i wybod sut rai yw pobl ar y tu mewn.

Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch dy fod ti wedi ein gwneud ni i gyd mor wahanol.
Diolch i ti am yr amrywiaeth o ddoniau a galluoedd a phersonoliaethau sydd o’n cwmpas yn yr ystafell hon.
Helpa ni i fod yn rhai sy’n chwilio am y gorau yn ein gilydd. 

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Stand by me’ gan Ben E. King

Dyddiad cyhoeddi: Gorffennaf 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon