Sut i ddefnyddio'r safle hwn    Amdanom ni    Cyflwyniadau    Adborth    Rhoi   

Cymru.Assemblies.org.uk - Gwasanaethau ysgol i bawb i bob tymor

Darlun addurniadol

E-bost Twitter FFacebook

-
X
-

Cost Ffon Symudol

Archwilio gwir gost ffôn symudol.

gan James Lamont

Addas ar gyfer

  • Cyfnod Allweddol 4/5

Nodau / Amcanion

Archwilio gwir gost ffôn symudol.

Paratoad a Deunyddiau

  • Casglwch ynghyd rai delweddau o ffonau symudol, a hysbysebion am rai o’r rhain, a threfnwch fod gennych chi’r modd o’u harddangos yn y gwasanaeth.

  • Fe allech chi hefyd gasglu rhai delweddau i’w dangos o’r rhyfel yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd y Congo.

Gwasanaeth

  1. Mae cyfrifiaduron modern yn bethau rhyfeddol, o ran pa mor gymhleth ydyn nhw a pha mor ddefnyddiol ydyn nhw. Gyda’r smartphones - teclynnau sy’n ddigon bach i ffitio ar gledr eich llaw - fe allwch chi gael mynediad i’r rhyngrwyd, dangos fideos a chwarae cerddoriaeth, arddangos mapiau rhyngweithiol a chysylltu â phobl ledled y byd. Gyda globalyddiaeth a’r cyfoeth sy’n cynyddu fwyfwy mewn gwledydd y tu allan i’r Gorllewin, yn enwedig Tsieina, mae mwy a mwy o alw am y modelau diweddaraf. Ond mae’r galw mawr hwn, fodd bynnag, yn cael effaith ar rai o bobl dlotaf y byd.

  2. Mwyn metelaidd yw coltan sy’n hanfodol ar gyfer cynhyrchu’r capacitors a ddefnyddir mewn ffonau symudol, gliniaduron a llechi cyfrifiadurol. Un o’r llefydd lle mae mwyaf o’r coltan i’w gael yw Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo. Er bod y wlad yn gyfoethog mewn mwynau gwerthfawr, mae’r genedl hon wedi dioddef effeithiau rhyfel cartref, unbennaeth ac economi wan. Dyma esiampl o’r hyn mae anthropolegwyr yn ei alw’n felltith yr adnoddau, sef y ‘resource curse’ – hynny yw, cenhedloedd gyda chyflenwad mawr o adnoddau naturiol yn dod yn dlotach na’u cymdogion mewn gwledydd eraill sydd heb fawr o adnoddau. Yn hytrach na gallu cloddio a gwerthu’r adnoddau er budd y genedl, maen nhw’n dod yn ffynhonnell, llygredigaeth a gwrthdaro – ffynhonnell y grym yn y genedl. Yn achos y mwyn coltan, mae’r galw am nwyddau traul electroneg wedi dwysáu’r gwrthdaro yn y Congo, fel yn achos Rhyfel Ituri, lle mae dros 60,000 o sifiliad wedi eu lladd.

  3. Mae’n afrealistig disgwyl y byddem ni yn rhoi’r gorau i ddefnyddio’r teclynnau electronig oherwydd hyn. Mae’r dyfeisiadau hyn wedi gwneud pethau mawr yn achos pobl ac yn achos yr economi’n fyd-eang. Ymhellach, er bod y fasnach coltan yn cael effaith drychinebus ar bobl y Congo, mae hefyd yn ffynhonnell angenrheidiol o incwm i lawer yno. Mae amaethwyr wedi colli eu cnydau oherwydd y milisia, gan beri bod llawer ohonyn nhw wedi rhoi’r gorau i ffermio fel ffordd o wneud bywoliaeth. Er bod llawer o’r mwyngloddiau yn fentrau sy’n cael eu rhedeg gan droseddwyr, maen nhw’n cynnig incwm amgen rheolaidd o tua $1 y dydd. Ac er nad oes llawer o ofalu am ddiogelwch y gweithwyr, nac am eu hawliau, yn achos llawer ohonyn nhw does ganddyn nhw ddim dewis arall. Felly, tra mae mwyngloddio am y coltan yn rhoi incwm i’r milisia a’r rhyfeloedd cartref sy’n dinistrio’r genedl, mae’n wir fod llawer o’r bobl yno’n dibynnu ar y gwaith.

  4. Mae rhai cwmnïau, fel Cabot Corp. yn Unol Daleithiau America, wedi boicotio’r cyfan o’r coltan o’r ardal, oblegid y risgiau moesegol. Mae dewisiadau eraill. Mae’n bosib cael tua 20 y cant o coltan y byd trwy ailgylchu. Mae hynny’n dda ar gyfer yr amgylchedd ac yn gyrru i lawr bris y metel, gan leihau ei werth i’r criwiau o droseddwyr. Er hynny, yn y pen draw, rhaid i’r ateb eithaf yn achos y mater hwn o gloddio am coltan yn y Congo ymwneud â heddwch a ffyniant i’r bobl yno, gan roi mynediad teg iddyn nhw at eu hadnoddau o fwynau cyfoethog eu cenedl.

Amser i feddwl

Fel mae’n digwydd yn aml, mae’r camddefnydd sy’n cael ei wneud o un rhan neilltuol o’r byd gan rywun o ran arall yn achosi problemau mawr. Nid yr ateb yw atal y galw am y deunydd, oherwydd fyddai hynny’n ddim ond yn effeithio ar y bobl dlawd, yn hytrach na mynd at wraidd y broblem. 

Sut byddech chi eisiau newid bywydau’r gweithwyr yn y Congo pe gallech chi?

Meddyliwch am faint o declynnau technolegol rydych chi’n berchen arnyn nhw, neu yn eu defnyddio, sydd angen coltan i wneud iddyn nhw weithio . . . A fyddai’n werth mynd heb y ffôn newydd honno, nawr rydych chi’n gwybod beth yw’r gwir gost?

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir

Hanging on the telephone’ gan Blondie

Dyddiad cyhoeddi: Awst 2013    Cyhoeddwyd gan SPCK, Llundain, UK.
Argraffwch y dudalen hon